Mae Castell y Waun yn symbol nodweddiadol o bŵer, a dechreuwyd ei adeiladu oddeutu 1295, yn ystod teyrnasiad y gorchfygol Edward I, er mwyn tawelu tywysogion olaf Cymru. Fe’i codwyd ar garreg frig uwchben y pwynt lle mae afon Dyfrdwy ac afon Ceiriog yn uno, ac roedd y castell a’i gysgodlun urddasol yn arwydd cythryblus o fwriad y Saeson yn y tiroedd dadleuol hyn. Prynwyd Castell y Waun ym 1595 gan Syr Thomas Myddelton, groser, masnachwr siwgr a herwlongwr, ac fe’i hetifeddwyd trwy linach teulu Myddelton. Gyda’i hanes yn olrhain yn ôl dros 700 o flynyddoedd, ac fel castell olaf o’i gyfnod lle ceir preswylwyr ynddo hyd heddiw, mae Castell y Waun yn nodedig am foethusrwydd y tu mewn i’r adeilad ynghyd â’r casgliad hardd ac eclectig sydd ynddo. Y tu mewn i’r Castell ceir Oriel Hir sy’n dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif, arddangosfa fawreddog o dair Ystafell Wladol sy’n dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif gyda dodrefn moethus, paentiadau a thapestrïau, neuadd unigryw y gweision, ac ystafell Gerdd y Capel wedi’i dodrefnu er mwyn arddangos cysylltiadau bonheddig Castell y Waun yn y 1920au a’r 1930au. Mae’r gerddi arobryn yn gorchuddio 5.5 erw o lawntiau wedi’u trin, coed yw wedi’u tocio, borderi blodau, gerddi rhosod, prysglwyni a chreigerddi hardd, yn ogystal â’r maes pleser coediog – perffaith ar gyfer mynd am dro. Cofiwch ymweld â’r teras sy’n edrych dros y waliau ‘ha-ha’ yng ngwaelod yr ardd sy’n deillio o'r 18fed ganrif, gyda golygfeydd ysblennydd o wastatir Caer a Swydd Amwythig. Mae gan Gastell y Waun dros 480 acer o barcdir ystâd ar gael i chi ei archwilio, gyda gwartheg, defaid, coed hynafol, dolau blodau gwyllt a rhan hardd wedi’i gwarchod o Glawdd Offa. Mae’r ystâd wedi’i lleoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac wedi’i dynodi hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, fel cynefin pwysig ar gyfer infertebratau prin, ystlumod, ffyngau a blodau gwyllt.