Os oes un peth yn anoddach na magu plentyn, yna magu plentyn yn ystod pandemig byd-eang yw hwnnw! A ninnau wedi bod dan reolaeth cyfnodau clo amrywiol ers blwyddyn, mae cael cerdded yn yr awyr iach yn bwysicach nag erioed. Mae’n clirio’r pen, yn gwneud i mi deimlo’n llai pryderus ac yn rhoi hwb o egni i mi. I fy mab dyflwydd oed mae'n gyfle i weld golygfeydd a chlywed synau newydd, i amgyffred y byd o’i gwmpas, a’i hoff ran; y cyfle i gael tamaid bach blasus mewn caffi ar ddiwedd y daith. Dyma fy hoff lwybrau cerdded i sy’n cynnwys caffis addas ar y daith...

Caernarfon

Un o’m hoff lwybrau cerdded yw’r un sy’n mynd o amgylch y canolbwynt hanesyddol yma. Heb sôn am y castell mawreddog sy’n sefyll yn gadarn yng nghanol y dref, mae yna gyfoeth o bethau eraill i’w gweld a’u gwneud ar eich taith hefyd, sy’n siŵr o gadw rhai bach yn brysur! Beth am ddechrau o flaen y castell, o ochr y maes parcio, gan weld y plant i gyd yn hel crancod ar ochr y dŵr, a chlywed cri’r gwylanod yn swnian am fwyd gan bobl yn brysur yn sglaffio hufen iâ neu sglodion! Mi allwch droedio Pont yr Aber, sy’n ymestyn fel braich hir dros Afon Seiont, a throi i’r dde am gyfeiriad y Foryd. Cwta dau funud wedyn, mi welwch fynediad i Barc Coed Helen, sy’n cynnwys cae pêl-droed, lawnt criced ac yn bwysicach oll, parc i blant! Mae digon o bethau i’r rhai bach eu defnyddio yma, yn ogystal â pharc sglefrio i’r plant hŷn. Fel arall, mi allwch osgoi’r bont, a cherdded ar hyd Promenâd Caernarfon a mwynhau golygfa ysblennydd y Fenai a Môn, boed law neu hindda.

Muriau Tref Caernarfon

Muriau Tref Caernarfon

Ymhen ychydig, fe gyrhaeddwch Doc Fictoria, gyda’r cychod hwylio’n simsan yn y dŵr a’r machlud yn hwyr yn y prynhawn yn gwneud i chi deimlo fel pe baech ar eich gwyliau dramor! Ar ôl bod o amgylch y Doc, yng nghwmni’r cerddwyr eraill a’r pysgotwyr, mi allwch fynd yn ôl am gyfeiriad y dref, a mynd am Stryd y Plas, sy’n llawn siopau gwahanol ac annibynnol. Ar ddiwedd y daith, un peth sy’n sicr - bydd gen i awydd siocled poeth a theisen, ac os ewch i ben y stryd a throi i’r dde, fe welwch Gaffi Gray-Thomas caffi teuluol hamddenol, braf, yn union gyferbyn â’r castell. Mae yma ddigon o le i bramiau yn ogystal â digon o ddanteithion blasus i ddewis ohonyn nhw!

Parc Gwledig Morglawdd Caergybi

Mae’n anodd credu bod y parc yma wrth ymyl prysurdeb tref a phorthladd Caergybi, am ei fod yn llecyn mor ddistaw a llonydd. Mae wedi’i leoli ar safle hen chwarel, lle defnyddiwyd y cerrig ohoni i adeiladu morglawdd y dref, yr hiraf yn Ewrop, sy’n 2.3km o hyd. Mae’r Parc yn cynnwys digon o lwybrau troed, sy’n rhoi’r cyfle i chi werthfawrogi’r amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd yna, fel yr adar môr a’r hebogiaid tramor, a’r gloÿnnod byw amrywiol sy’n hedfan o’ch cwmpas. Mae’r parc hefyd yn gyfoeth o flodau prydferth, ac mae Llyn Llwynog yn gartref i hwyaid gwyllt ac ieir dŵr, yn ogystal â chychod bach – rhywbeth sy’n sicr o ddal llygad eich plentyn. Mae’r parc yn lle perffaith i fwynhau picnic, neu fe allwch fynd i Gaffi’r Parc ar y safle – sef hen dŷ warden y parc wedi’i drawsnewid. 

Coed Cyrnol, Ynys Tysilio a’r Promenâd Belgaidd, Porthaethwy

Dyma daith gerdded braf sy’n dechrau mewn coedwig fechan ar lannau’r Fenai, rhwng Pont Borth ac Ynys Tysilio. Mae Coed Cyrnol a’r rhan hon o’r Fenai sy’n rhedeg wrth ei ochr yn cael ei enwi fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, yn ogystal â bod yn Ardal Cadwraeth Forol, sy’n golygu ei fod yn lle i weld Natur ar ei gorau; o’r morloi yn y Fenai, i’r gwiwerod coch yn y goedwig. Mae’r llwybr drwy’r Coed yn dod â chi at ochr y Fenai, ac yn y fan hon y byddaf yn mynd ymlaen am Ynys Tysilio, lle mae Eglwys fach iawn Sant Tysilio yn eistedd arni. Ar ôl hyn, fe allwch fynd yn ôl yr un ffordd ag y daethoch, neu fe allwch gerdded ar hyd y Promenâd Belgaidd, a adeiladwyd gan ffoaduriaid Belgaidd y Rhyfel Mawr, ac i gyfeiriad y dref, lle mae digon o lefydd bwyta i ddewis ohonyn nhw, yn cynnwys bwyty blasus Dylan’s. Mae’r bwyty yma’n gyfleus iawn i rieni â phramiau, ac yn cynnwys bwydlenni tu hwnt o flasus i rieni a phlant fel ei gilydd! Rydw i wedi mynd ar y daith hon sawl tro, a byth yn syrffedu ar yr olygfa, pa bynnag amser o’r dydd y byddwch yn mentro arni.

Gwarchodfa Natur Nant y Pandy i Lyn Cefni, Llangefni

Llwybr cerdded drwy ardal goediog a heddychlon yw hon, sy’n eich arwain at Lyn Cefni. Mae’n llwybr poblogaidd am ei fod mor hygyrch, ac er bod ambell i allt ar y daith, mi ydych yn sicr yn teimlo’n fwy heini ar ei diwedd! Yng nghysgod y goedwig a sisial y dail, fe glywch fwrlwm Afon Cefni ac ambell i gnocell y coed yn brysur wrth ei gwaith, yn ogystal â gweld lliwiau’r blodau prydferth sy’n gwmni i chi ar hyd y daith. Fe allwch chi fod yn lwcus a gweld y wiwer goch yn cadw gwyliadwriaeth hyd yn oed! Wrth gyrraedd Cronfa Ddŵr Llyn Cefni, mae mwy na digon o le i eistedd i lawr a chael seibiant, gan roi cyfle i chi fwynhau’r olygfa anhygoel o’ch blaen!

Merch gyda phram mewn coedwig
Llwybrau coetir wrth nant.

Gwarchodfa Natur Nant y Pandy

Prom a Phier Llandudno

Am rywle sy’n hollol wahanol i lonyddwch y gwarchodfeydd natur, mae promenâd a phier prysur Llandudno yn lle llawn bwrlwm, ond sydd hefyd yn berffaith am fynd am dro efo pram. Mae’r prom yn arwain at y pier, yr hiraf yng Nghymru, lle mae digon o synau a golygfeydd i dynnu sylw eich plant! Mae yna arcedau, ffair fach i blant, cabanau bwyd, cabanau hufen iâ, a’r siopau bach y byddwch yn arfer eu gweld ar bier.

Golygfa o Landudno o'r pier

Pier Llandudno

Mae gwylanod môr yn adnabyddus am ddwyn bwyd cerddwyr y pier yma, felly os ydych eisiau llonydd i fwynhau paned a rhywbeth bach i’w fwyta, beth am fynd i gaffi Blend ar Clonmel Street, sy’n fan cyfarfod poblogaidd iawn i famau â’u babis. Ar ôl cerdded yng ngwynt y môr, bydd eich plentyn (a chithau) yn siŵr o gysgu’n well y noson honno! 

Dilynwch Caffis a Babis ar Instagram am fwy o ysbrydoliaeth am deithiau cerdded a chaffis addas i blant.  

Straeon cysylltiedig