Cwm Idwal, Eryri

Yr hyn sy’n wych am y llwybr cylchol hwn yw ei fod yn llwybr cymharol rhwydd i gyrraedd golygfeydd mynyddig mwyaf dramatig Eryri. Cerfiwyd Cwm Idwal a’i rewlyn gan lenni iâ, ac mae’n enwog drwy’r byd am ffurfiannau’r graig a’i blanhigion prin. Mae’r daith o gwmpas Llyn Idwal yn her sydd o fewn cyrraedd plant llai ond, gyda’r offer addas, gall plant hŷn yn eu harddegau ddewis sgrialu i fyny Twll Du i fynydd y Glyder Fawr. Ac – am gyfleus – mae caffi ar ddechrau a diwedd y daith.

Hyd: 3 milltir (4.8km)

Amser: 2 awr

Llun o droed cerddwr ar graig o flaen Llyn Idwal

Llyn Idwal, Cwm Idwal, Parc Cenedlaethol Eryri

Llwybr Cynwch, Eryri

Mae gan Lwybr Cynwch ychydig o bopeth: llwybr cylchol rhyfeddol yn cynnwys coetir, dolydd, glannau llyn – ac wrth gwrs y dibyn enwog (peidiwch â phoeni – nid yw cynddrwg â’r gair ei hun). Byddwch yn mwynhau golygfeydd aruthrol i lawr Moryd Aber Afon Mawddach ac o amrywiol gadwyni mynyddig Eryri.

Hyd: 3 milltir (4.8km)

Amser: 2 awr

Llwybr Hanes Llangollen, Sir Ddinbych

Mae Llwybr Hanes Llangollen yn llwybr cyffrous o amgylch Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy, ac yn cynnwys Camlas LlangollenRhaeadr y BedolEglwys LlantysilioAbaty Glyn-y-Groes, olion trahaus Castell Dinas Brân heb sôn am dref hyfryd Llangollen.

Hyd: 6 milltir (10km)

Amser: 4 awr

Llun o adfeilion Castell Dinas Brân

Castell Dinas Bran, Llangollen

Carningli, Sir Benfro

Mewn gwirionedd, bonyn llosgfynydd 450 miliwn o flynyddoedd oed yw ‘Mynydd yr Angylion’ - Carningli, lle gadawodd ein cyndadau o’r Oes Haearn hen adfeilion caer. Mae’r golygfeydd o bentref Trefdraeth yn rhyfeddol o’r copa, ac mae’n hawdd ei gyrraedd o gilfan gyfleus. Neu, am lwybr arfordirol, ewch ar fws Roced Poppit o Drefdraeth i gyffordd Cwm-yr-eglwys, a dilyn y llwybr troed i lawr i’r môr yn Aberfforest. Mae’n ddwy awr o daith yn ôl i Drefdraeth.

Hyd: 2 filltir (3km)

Amser: 1 awr 30 munud

Pen Pyrod, Penrhyn Gŵyr

Mae ymweliad â Phen Pyrod ym Mhenrhyn Gŵyr yn brofiad arbennig iawn gyda’r penrhyn yn ymestyn tua’r gorwel ac ynys y tu hwnt iddo. Gallwch groesi'r traeth caregog draw i’r ynys pan fydd y llanw allan. Cofiwch ddarllen y manylion am y llanw yn fanwl cyn mentro allan i’r ynys – mae’n ddiogel am ddwy awr y naill ochr i’r distyll yn unig. Mae olion hen longddrylliad hefyd i’w gweld ar draeth syfrdanol Rhosili.

Hyd: 3 milltir (4.8km)

Amser: 2 awr

Llun o Ben Pyrod wrth iddi fachlud

Pen Pyrod, Penrhyn Gŵyr

Creigiau Trefgarn, Sir Benfro

Mae Sir Benfro’n haeddiannol enwog am ei theithiau cerdded arfordirol, ond os gyrroch erioed ar hyd yr A40 i’r gogledd o Hwlffordd, byddwch wedi gweld y creigiau folcanig hyn, a’u silwetau rhyfedd yn llenwi’r gorwel. Gyda llysenwau amrywiol fel y Llew, yr Ungorn a’r Tedi Bêr, mae Creigiau Trefgarn yn hawdd i blant bach eu cyrraedd – i fyny’r bryn â chi o felin Nant y Coy. Ar ochr arall y ffordd, mae llwybr cerdded hyfryd hefyd drwy Geunant Trefgarn.

Hyd: 1.5 milltir (2.5km)

Amser: 1 awr 30 munud

Aberporth i Dresaith, Ceredigion

Mae darn cyntaf y llwybr hawdd hwn o Aberporth i Dresaith yn addas i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio, felly gall pawb fwynhau’r golygfeydd o glogwyni Bae Ceredigion (cadwch lygad am ddolffiniaid yn ystod yr haf). Mae’r ail ddarn yn dipyn mwy heriol wrth ddisgyn i Dresaith, lle mae rhaeadr yn cwympo ym mhen pellaf y traeth.

Hyd: 2 filltir (3.2km)

Amser: 1 awr 30 munud

Tri phlentyn yn cerdded gyda ci ar draws traeth

Traeth Aberporth, Gorllewin Cymru

Cwm Elan, Powys

Coedwig Cnwch, sy’n addas i gadeiriau gwthio, yw’r hawsaf o’r llwybrau cerdded niferus o gwmpas argaeau a chronfeydd dŵr y gwylltir helaeth hwn. Mae Llwybr Cwm Elan - naw milltir (13km) o hyd – hefyd yn wastad ac yn darmac i raddau helaeth, ond efallai mai ar ddwy olwyn y gallwch ei werthfawrogi orau: gallwch logi seddau cyswllt, trelars a beiciau â seddau plant o’r ganolfan groeso.

Hyd: 1 milltir (1.6km)

Amser: 45 munud

Llun o dŷ yng nghanol coedwig hydrefol, wedi ei amgylchynu â tharth

Cwm Elan

Fan y Big, Bannau Brycheiniog

Copa uchaf Bannau Brycheiniog, sef Pen-y-fan, sy’n denu’r rhan fwyaf sy’n cerdded yno, felly gall fod yn weddol brysur yno. Un dewis arall rhwyddach yw Fan y Big gerllaw, yn enwedig os byddwch yn ei daclo o faes parcio tawel Blaen y Glyn Uchaf. Rhaid dringo llethr ystyfnig i’r grib, ond ar ôl cyrraedd yno mae’n llwybr syfrdanol ar hyd y grib yr holl ffordd i Fan y Big. Ar y copa, mae ‘bwrdd plymio’ eiconig o graig yn ymwthio allan, sy’n berffaith am lun (bydd y cwymp islaw yn edrych yn llawer gwaeth ar Instagram nag y mae go iawn, wir i chi).

Hyd: 5.5 milltir (9km)

Amser: 3 awr

Ysgyryd Fawr, y Fenni

O’r saith bryn o gwmpas y Fenni, Taith Ysgyryd Fawr sy’n cynnig y llwybr gorau i blant. Dringwch o’r maes parcio drwy’r goedwig, a dilyn cefnen y mynydd i adfail y capel ar gopa sydd, tua diwedd yr haf, yn drwch o lus blasus.

Hyd: 4 milltir (6.4km)

Amser: 2.5 awr

Sgwd Gwladus, Bannau Brycheiniog

Mae digonedd o raeadrau i’w gweld yn y gornel hon o Fannau Brycheiniog, ond dyma’r un hawsaf i’w gyrraedd (hyd yn oed gyda chadair wthio), ac un o’r harddaf hefyd, ac Afon Pyrddin yn plymio chwe metr i ffurfio Sgwd Gwladus.

Hyd: 2.5 milltir (4km) o daith gylchol

Amser: 1 awr 30 munud

Aberogwr, Bro Morgannwg

Ar y llwybr cylchol hwn yn Aberogwr, mae Castell Ogwr, clogwyni haenog Arfordir Treftadaeth Morgannwg, gerddi muriog ac adfeilion Castell Dwnrhefn, a thraeth gorau’r ardal, sef Bae Dwnrhefn yn Southerndown. Un dewis arall yw dilyn y cerrig sarn ar draws Afon Ogwr i bentref toi gwellt Merthyr Mawr, a’r tu hwnt i hwnnw y rhes fwyaf o dwyni tywod yng Nghymru.

Hyd: 8 milltir (13km)

Amser: 4 awr

Teulu yn croesi Afon Ogwr ar gerrig o flaen y castell

Castell Ogwr

Straeon cysylltiedig