Plymio’r dyfnderau: Sir Benfro

Yn Sir Benfro y cafodd arfordira ei ddatblygu, ac mae’n bendant yn ateb holl ofynion y rheiny sydd eisiau cael eu cyffroi! Mae Celtic Quest Coasteering yn cynnal diwrnodau i’r teulu sy’n addas ar gyfer plant 8 oed ac yn hŷn. Byddwch chi’n archwilio ogofeydd, yn neidio oddi ar greigiau 10 metr o uchder, ac yn chwarae yn y dŵr ymysg nodweddion naturiol ag enwau rhyfedd fel y ‘Toilet Flush’ a’r ‘Peiriant Golchi Dillad’! 

Grŵp yn arfordira gydag un aelod yn neidio i mewn i'r môr

Arfordira yn Sir Benfro

Cerdded Pen Pyrod: Penrhyn Gŵyr

Penrhyn Gŵyr oedd yr ardal gyntaf yn y Deyrnas Unedig i’w dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae rheswm da dros hynny – mae’n anhygoel o hardd. Ewch â’r teulu ar y daith anturus drosodd i Ben Pyrod, ynys na allwch fynd ati ond am ddwy awr a hanner o boptu’r llanw isel, ac edmygwch y golygfeydd ysgubol dros Fae Rhosili. 

Bydd plant wrth eu boddau ar y creigiau a’r borfa sydd fel trampolîn o dan eich traed, gan wrando am gân morloi o’r môr islaw. Wedi colli’r llanw isel? Ewch ar daith gerdded ‘sarff, syrffwyr a’r sgerbwd llong’ yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, er mwyn edmygu Pen Pyrod o’r lan.   

Golygfa o'r awyr o Ben Pyrod yn ymestyn allan i'r môr

Pen Pyrod, Penrhyn Gŵyr

Iasau ar ras: Taith RIB, Ynys Môn

Gall unrhyw un dros bedair oed drybowndio dros y tonnau ar RIB (Cwch Aer Caled – Rigid Inflatable Boat) o gwmpas Ynys Môn, a chynigir dewis deniadol o anturiaethau. Mae ‘Pontydd a Throbyllau’ yn cynnwys llongddrylliadau a throbyllau, tra bo ‘Palod a Morloi’ yn ddigon amlwg ac yn rhywbeth na ddylai neb sy’n hoffi bywyd gwyllt mo’i golli. Cewch olygfa anarferol o Gastell Caernarfon yn ‘Cestyll ac Ynysoedd’ ac mae’r ‘Antur o Amgylch Ynys Môn’ yn rhoi cyfle i chi gynllunio eich llwybr antur eich hun. 

People on a rib boat ride on the Menai Strait

Taith RIB ar Afon Menai

Cyffwrdd â’r gorffennol: Chwilio am ffosiliau, Llanilltud Fawr

Dywedir mai Llanilltud Fawr yw’r lle gorau yng Nghymru i ddarganfod ffosilau o’r cyfnod Jwrasig, felly ewch ag archwilwyr bach i lawr yno i geisio darganfod gastropodau, cwrel a draenogod y môr – mae rhai ohonynt mor fawr â phêl tenis! Gellir darganfod y ffosiliau wrth eu dwsinau yn y creigiau ar hyd glan y dŵr. Mae Penarth, ar gyrion Caerdydd, yn lleoliad poblogaidd arall ar gyfer hela ffosilau. 

Golygfa o oleudy’r As Fach wrth ochr y traeth, Bro Morgannwg.

Goleudy yr As Fawr, Bro Morgannwg

Peidiwch ag edrych i lawr! Abseilio Bae Morfa, Sir Gaerfyrddin

Mae Antur Bae Morfa’n cynnig dewis cyffrous o weithgareddau arfordirol, fel corff-fyrddio a chaiacio yn y môr. Ond beth am gael gweld yr arfordir o ongl newydd? Mae’r cwmni’n cynnig hyfforddiant arbenigol mewn abseilio, wrth i ddechreuwyr roi cynnig arni ar waliau prin 2m o uchder i ddechrau, cyn symud ymlaen i’r tŵr calchfaen 9m pan fyddan nhw’n barod. Teimlo’n ddewr iawn? Gall unrhyw un sydd wedi meistroli’r tŵr fynd allan i brofi’r sesiwn abseilio eithaf, gan dreulio diwrnod cyfan ar graig arfordirol yn Sir Benfro neu ar Benrhyn Gŵyr. Efallai y byddai’n well gadael i’r plant fwynhau’r antur hon ar eu pennau’u hunain…?!  

Cân y tywod: Porthor (Whistling Sands), Pen Llŷn

Porthor yw un o’r ychydig leoedd ym Mhrydain gyfan ble gallwch chi deimlo’r tywod rhwng bodiau eich traed, a’i glywed yr un pryd. Mae’n draeth rhyfeddol, nid yn unig oherwydd ei harddwch rhyfeddol, ond diolch i’w dywod, sy’n ‘canu’, neu’n gwneud sŵn chwibanu wrth i’r gronynnau rwbio yn erbyn ei gilydd ar dywydd poeth. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gofalu am y traeth hwn, sy’n lleoliad poblogaidd gan syrffwyr a theuluoedd fel ei gilydd. Gallwch gael pecynnau antur bywyd gwyllt yng nghaban y traeth yma yn ystod y gwanwyn a’r haf hefyd. 

Ymgodymu â’r Blob! Surf Snowdonia, Conwy

Fuasech chi’n ein credu pe bydden ni’n dweud wrthych fod rhai o’r amodau syrffio gorau yng Nghymru i’w canfod yng… nghefn gwlad? Buasech chi’n dechrau ofni ein bod ni’n drysu, ond na. Mae Surf Snowdonia yn llyn syrffio gyda’r cyntaf yn y byd sy’n creu tonnau perffaith, ynghanol Dyffryn Conwy. Dyma le delfrydol i ddysgu syrffio i’r plant neu gyda’ch gilydd, yn Academi Syrffio Surf Snowdonia. Mae yna gwrs ymosod ‘Crash a Sblash’ a fydd wrth fodd yr ieuenctid a’r rhai ifanc eu hysbryd, sy’n dod i ben wrth i chi hedfan drwy’r awyr o’r ‘blob catapwlt’ i mewn i’r dŵr! Gall plant dros 12 roi cynnig arni, neu mae ’na Grash a Sblash i’r Teulu i bawb dros 5 oed.

3 o bobl yn syrffio ar forlyn.
5 o bobl yn sefyll ar fyrddau syrffio

Surf Snowdonia, Conwy

Marchogaeth ar lan y môr: Sir Benfro

Mae Stablau Nolton yn cynnig cyfleoedd ardderchog i farchogaeth ar y traeth ar gyfer dechreuwyr, arbenigwyr, a phawb yn y canol. Mae Nolton yn gartref i dros 60 o geffylau a merlod, felly mae creadur sy’n addas i bawb. Dyma’r lle delfrydol i gyflwyno hwyl marchogaeth i’r rhai bach, a pha le gwell na Druidston Haven, traeth heddychlon a mawreddog â thros filltir o dywod i farchogaeth arno ar lanw isel.

Tri person yn marchogaeth ar y traeth

Marchogaeth ceffylau ar y traeth

Daliwch yn sownd! Rafftio Dŵr Gwyn, Caerdydd a’r Bala

Dewch i brofi ias o gyffro wrth fownsio dros ddŵr gwyllt Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, ble ceir sesiynau rafftio i’r teulu sy’n golygu fod plant o 6 oed i fyny’n gallu cael eu cyflwyno i’r gweithgaredd hwn. Mae’r ganolfan ym Mae Caerdydd, ac mae’n cynnig canŵio, caiacio a rhwyf-fyrddio (12 oed ac yn hŷn) yn ogystal. Awyddus i roi cynnig ar ddŵr gwyllt go iawn? Anelwch am y Ganolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol ger y Bala, Gogledd Cymru, ble gall teuluoedd â phlant dros 12 oed herio Afon Tryweryn heriol a llifeiriol; gall unrhyw un sy’n 10 oed neu’n hŷn hefyd roi cynnig ar Saffari Tryweryn.

two people white water rafting at Cardiff International White Water.
Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

Archwilio coedwig dan y don: Cantre’r Gwaelod, Bae Ceredigion

Dyma stori i ddal dychymyg yr hen a’r ifanc. O dan dywod Bae Ceredigion, oddi ar dref glan-môr Borth, dywedir fod dinas dlos wedi’i boddi. Seithennyn gafodd y bai am beidio â chau’r drysau, a rhuodd y môr i mewn a boddi Cantre’r Gwaelod, flynyddoedd lawer yn ôl. Pan fydd y llanw ar ei isaf gallwch weld olion coedwig a foddodd, a rhyfeddu ar beth arall allai fod yn cuddio dan y tywod… Mae Bae Ceredigion hefyd yn lle rhagorol i deuluoedd sy’n caru byd natur, yn gartref i ddolffiniaid, ac yn cynnig taith mewn cwch ar gyfer mynd i weld y creaduriaid annwyl a deallus hyn yn eu cynefin.

olion coedwig a foddodd ar y traeth gyda fachlud haul yn y cefndir

Bae Ceredigion, Canolbarth Cymru

Straeon cysylltiedig