Gŵyl y Green Gathering, Cas-gwent

01 - 04 Awst 2024. Mae'r Green Gathering yn ddigwyddiad pedwar diwrnod sy'n defnyddio ynni oddi-ar-y-grid. Llwyfannau solar sy'n blatfform i'r artistiaid, DJs a beirdd ac fe geir pob math o weithgareddau eco-gyfeillgar. 

Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024

03 - 10 Awst 2024. Tro Rhondda Cynon Taf yw hi i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Bydd dathliadau o ddiwylliant, iaith a chelfyddyd Cymru yn llenwi Pontypridd a'r fro am wythnos.

Darllen mwy: Ein Eisteddfod Genedlaethol
 

Gŵyl Lenyddol Llangwm, Sir Benfro

09 - 11 Awst 2024. Cynhelir 7fed Gŵyl Lenyddol Llangwm yn y pentref hardd yn Sir Benfro. Bydd sesiynau ysgrifennu creadigol a gweithdai celf ar gyfer plant ac oedolion ac amrywiaeth o themâu, gan gynnwys Baledi'r Clwb Rygbi.

Sioe Môn, Ynys Môn

13 - 14 Awst 2024. Mae Sioe Môn yn ôl gyda'u dathliad gwledig sy'n cynnwys bwyd, crefftau, ffair, cystadlaethau amaethyddol a hwyl i'r teulu oll.

Sioe Sir Benfro

14 - 15 Awst 2024. Sioe Sir Benfro yw sioe sir fwyaf Cymru. Mae hefyd yn un o'r goreuon o'i fath ym Mhrydain, boed eich diddordeb mewn ceir, bwyd neu anifeiliaid. Mae yna gystadlaethau da byw, ceffylau a neidio, stondinau masnach, neuaddau bwyd, ffair a llawer mwy.

Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Bannau Brycheiniog

15 - 18 Awst 2024. Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn ddigwyddiad blynyddol ar Stad Glanusk ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae rhai o enwau mwyaf sin gerddoriaeth Cymru, Prydain a'r byd yn chwarae ar draws nifer o lwyfannau. Yn ogystal â cherddoriaeth mae sesiynau comedi, sgyrsiau, ardaloedd ymlacio a meddwlgarwch a nifer o opsiynau bwyd. 

Darllen mwy: Gŵyl y Dyn Gwyrdd – beth i’w ddisgwyl

Llwyfan mewn gŵyl mewn cae.

Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Bannau Brycheiniog

Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi

17 Awst 2024. Mae Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi yn ôl am y 24ain blwyddyn. Mae gan y digwyddiad amrywiaeth o stondinau sy'n gwerthu bwyd a diod o Gymru, ynghyd â chrefftau lleol. Mae cymysgedd o weithdai ac arddangosfeydd, ynghyd â rhaglen amrywiol o gerddorion a pherfformwyr lleol. 

Rasio'r Trên, Tywyn

I'w gadarnhau. Ymunwch a'r her o geisio curo'r trên stêm hanesyddol ar Reilffordd Talyllyn. Mae ras blynyddol Clwb Rotari Tywyn yn digwydd ochr yn ochr â'r trên ar ei daith i Abergynolwyn ac yn ôl. Mae'r tir yn amrywiol, gan gynnwys tir amaethyddol, felly byddwch yn barod i fod yn fwdlyd! Mae sawl ras o hyd gwahanol, gan gynnwys ras 14 milltir a 3.5 milltir.

Gŵyl Machynlleth, Powys

18 - 24 Awst 2024. Mae Gŵyl Machynlleth yn dathlu cerddoriaeth a diwylliant Cymreig a rhyngwladol. Mae yna amrywiaeth o gerddoriaeth, ynghyd ag arddangosfeydd, barddoniaeth, darlithoedd a mwy.

Gŵyl Llanandras 

22 - 26 Awst 2024. Bydd pedwar diwrnod o gerddoriaeth yng Ngŵyl Llanandras. Mwynhewch gymysgedd o weithiau cyfoes a chlasuron yr ugeinfed ganrif.

Rhwng y Coed, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr

22 - 25 Awst 2024. Cynhelir Rhwng y Coed ym Mharc Candleston, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr, ger Pen-y-bont ar Ogwr dros benwythnos Gŵyl y Banc. Fe'i cynhelir mewn coetiroedd hynafol, gyda cherddoriaeth, celf, sgyrsiau, a sesiynau natur. 

Pencampwriaeth Snorclo Cors y Byd, Llanwrtyd, Powys

25 Awst 2024. Mae Pencampwriaeth Snorclo Cors y Byd Rude Health yn cael ei gynnal bob blwyddyn yn Llanwrtyd. Mae pobl yn dod o bell i gystadlu yn y digwyddiad unigryw - sy'n un o’r 50 o bethau sy'n ‘rhaid eu gwneud’ gan y Lonely Planet.

Llun o ddyn yn gwisgo snorcl a gogls ac yn snorclo mewn cors

Pencampwriaeth Snorclo Cors y Byd, Llanwrtyd, Powys

Straeon cysylltiedig