Gogledd Cymru

Y Bermo/Abermaw, Gwynedd

A soniodd rywun am fynd ar gefn asyn? Yn y Bermo mae pob un o’r atyniadau glan môr traddodiadol ar gael: arcedau diddanu, cychod siglo, trên tir, rheilffordd fach, traeth diogel, ac ati. Ond mae hefyd mewn llecyn hardd: mae’r olygfa yn ôl i fyny moryd Mawddach tua Chader Idris a mynyddoedd Eryri yn ddigon i fynd â’ch anadl.

Asyn ar y traeth
Taith ffair gyda thraeth tywodlyd yn y cefndir.
Dyn a phlant ifanc yn pysgota.

Traeth Y Bermo/Abermaw

Benllech, Ynys Môn

Traeth Baner Las hyfryd yw Benllech ar arfordir dwyreiniol cysgodol Ynys Môn, ac mae’n haeddiannol boblogaidd ymhlith teuluoedd. Mae’r tywod euraid helaeth yn mynd i waered fesul dipyn i’r môr, gan ei gwneud yn ddiogel i nofio a phadlo, ac mae’n hawdd ei gyrraedd â chadair wthio.

Golygfa yn edrych dros draeth prysur
Dau blentyn ifanc yn chwarae gyda bwced a rhaw ar draeth tywodlyd.

Traeth Benllech

Porth Dafarch, Ynys Môn

Mae gan fae cysgodol Porth Dafarch ar Ynys Cybi y cyfan i’w gynnig: statws Baner Las, tywod meddal, pyllau glan môr i chwarae ynddynt, maes parcio gerllaw, a thoiledau glân. Hyn oll, ac mae’n dlws iawn, fel y disgwyliech gan draeth sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Hefyd, mae Porth Dafarch mewn man cyfleus rhwng pentref poblogaidd Bae Trearddur a gwarchodfa RSPB Ynys Lawd.

Dau oedolyn a dau o blant yn rhedeg mewn i'r môr.
Teulu yn chwilio am fywyd gwyllt mewn pwll ar draeth.
Plentyn ifanc yn chwarae ffrisbi oren ar draeth.

Porth Dafarch

Canolbarth Cymru

Mwnt, Ceredigion

Cildraeth bach eithriadol o bert yw Mwnt, a’r traeth wedi’i gysgodi gan glamp o bentir. Ond hefyd mae maes parcio da, ciosg hufen iâ a thoiledau, er mwyn i bawb allu ei fwynhau’n hawdd. Mae eglwys o’r 13eg ganrif wedi’i hadfer wrth droed y bryn, a dolffiniaid yn ymddangos yn rheolaidd, gan ychwanegu at naws hudolus y lle.

Plentyn yn adeiladu castell dywod a phlentyn yn y cefndir yn chwarae.
Llun o draeth Mwnt ar Fae Aberteifi yng Ngheredigion

Mwnt, Ceredigion

Llangrannog, Ceredigion

Mae cenedlaethau o Gymry Cymraeg wedi, ac yn parhau i, dreulio gwyliau plentyndod hapus yng ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog, ac mae llawer yn dychwelyd gyda’u plant eu hunain i’r traeth cudd hyfryd, o dan gysgod craig enfawr o’r enw Carreg Bica (dant cawr, yn ôl y chwedl leol). Mae’r Urdd hefyd yn agor ei chyfleusterau rhagorol, gan gynnwys llethr sgïo sych, marchogaeth a dringo, i'r rheiny sy'n ymweld am y diwrnod.

Golygfa o'r awyr o bentref ar y traeth.

Traeth Llangrannog

Gorllewin Cymru

Traeth Pentywyn, Sir Gâr

Ar Draeth Pentywyn mae pyllau glan môr a chlogwyni i’r dde, saith milltir o dywod euraid i’r chwith, digonedd o siopau, a thoiled cyhoeddus, a’r cyfan ar lan y môr. Defnyddiwyd y tywod gwastad yma ar un tro ar gyfer recordiau cyflymder tir: bydd Amgueddfa Cyflymder yn agor yn 2023, yn rhan o ymgais fawr i ailwampio’r lle. Caniateir ceir ar y traeth ar rai adegau – ond peidiwch â chael eich dal gan y llanw.

Llun o tonnau'n dod i mewn ar draeth tywodlyd.

Traeth Pentywyn, Sir Gâr

Porth Mawr, Sir Benfro

Mae Porth Mawr yn haeddiannol boblogaidd ymhlith teuluoedd, oherwydd y cyfleusterau gwych yno. Ceir bar byrbrydau, digonedd o le parcio, toiledau, ac ychydig o gorff-fyrddio gorau’r wlad, a’r cyfan ar draeth mawr prydferth dan oruchwyliaeth achubwyr bywyd. Mae atyniadau Tyddewi gerllaw mewn car, ac os yw’r plant am roi cynnig ar ychydig o fynydda ysgafn, mae Carn Llidi, y graig uwchben y traeth, yn 90 munud o daith gylchol egnïol.

Pobl yn nofio yn y môr
Castell tywod ar y traeth
Syrffwyr ar y traeth

Traeth Porth Mawr

Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

Mae pedwar traeth godidog i ddewis o’u plith yn y dref harbwr berffaith hon. Traeth yr Harbwr yw’r mwyaf diogel i blant bach iawn, ac mae Traeth y Castell yn hawdd ei gyrraedd drwy’r llithrfa. Ar Draeth y Gogledd mae bar byrbrydau ar lan y môr a Chraig Goscar i’w dringo, ond ar Draeth y De mae’r lle mwyaf i redeg (ac mae rhan ohono ar agor i gŵn drwy gydol y flwyddyn). Mae’r dref ei hun yn hyfryd i deuluoedd, hefyd.

Llun o'r traeth gydag adeiladau ar y clogwyni yn y cefndir

Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod

Bae Caswell, Penrhyn Gŵyr

Y ddau draeth cyntaf y dewch ar eu traws wrth yrru allan o Abertawe – Langland a Caswell – yw’r ddau sy’n fwyaf addas hefyd i deuluoedd ar Benrhyn Gŵyr, a’r holl gyfleusterau angenrheidiol yno. Ar gyfer plant hŷn, mae’r llwybr clogwyn byr rhwng y baeau prydferth hyn yn gyflwyniad da i gerdded Llwybr Arfordir Cymru, ac mae ymchwydd ysgafn Caswell yn ei wneud yn lle delfrydol i fentro am y tro cyntaf i syrffio.

Bachgen ifanc yn syrffio.
Cestyll tywod ar y traeth gyda'r môr a'r awyr yn y pellter.

Bae Caswell, Penrhyn Gŵyr

De Cymru

Bae Dwnrhefn, Southerndown

Ar draeth gorau Arfordir Treftadaeth Morgannwg, ceir maes parcio a bar byrbrydau, yn ogystal â phopeth i fodloni’r plantos: cerigos enfawr, tywod llydan, ffosilau lu, a llawer o byllau glan môr. Mae Bae Dwnrhefn yn boblogaidd ymhlith syrffwyr, a dim ond dringo ychydig sydd ei angen i adfeilion Castell Dwnrhefn ar ben y clogwyn, lle mae’r gerddi muriog wedi’u hadfer.

Llun o deulu'n rhedeg ar y traeth

Bae Dwnrhefn

Bae Whitmore, Ynys y Barri

Lle gwyliau bywiog yw Ynys y Barri yn nhraddodiad gwyliau glan-môr, gyda’i ffair a’i harcedau diddanu. Ond heb i gyd (ddim y bydden ni eisiau bod heb y ffair, wrth gwrs) mae Bae Whitmore yn draeth Baner Las prydferth o hyd, a phentiroedd gwyrdd bob ochr iddo. Mae llawn cystal yn y gaeaf, yn enwedig os ewch chi â’r ci am dro i wneud ffrindiau newydd.

Traeth llydan tywodlyd gyda ffair yn y cefndir.

Ynys y Barri

Byddwch yn ddiogel!

Gall arfordir Cymru fod yn llawer o hwyl ac mae’n darparu cyfleoedd gwych ar gyfer gweithgareddau anturus, ond darllenwch am y risgiau a gwnewch yn siŵr eich bod yn paratoi o flaen llaw.

Dilynwch yr awgrymiadau hyn gan yr RNLI ar gyfer aros yn ddiogel ar arfordir Cymru ac ewch i Adventure Smart am ragor o wybodaeth am sut i aros yn ddiogel wrth grwydro Cymru.

Straeon cysylltiedig