Arfordir Gogledd Cymru

Pellter: 100 milltir / 160km

Dringfa: 5,900 troedfedd / 1,800m

Map o’r llwybr

Mae Llwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn mynd â chi drwy ganol Ynys Môn, yn croesi Pont Menai ac yn rhoi golwg agos i chi o Gastell Conwy a’r arfordir, cyn cyrraedd y ffin rhwng Cymru a Lloegr yng Nghei Connah. Dilynwch y llwybr hwn o’r dwyrain i’r gorllewin er mwyn i nerth y gwynt daro eich cefn – ond cadwch ddigon o egni ar gyfer y dringfeydd serth tua diwedd y daith.

Couple cycling on the Cob at Malltraeth Lon Las Cefni Wales Coast Path Anglesey
Cyclist on a rural cycling route with fields in the background
Cob Malltraeth, Lon Las Cefni, Ynys Môn a beicio ym Mryniau Clwyd

Lôn Las Cymru

Pellter: 250 milltir / 400km 

Dringfa: 18,400 troedfedd / 5,600m 

Map o'r llwybr

Dyma’r un mawr: taith lythrennol o Fôn i Fynwy, gan fynd heibio rhai o olygfeydd harddaf y wlad. Mae’r llwybr yn un gallwch ei addasu o hyd (gallwch orffen y daith yng Nghas-gwent neu yng Nghaerdydd). Gall pâr o deiars danheddog eich arwain ar hyd milltiroedd o ffyrdd trac sengl di-draffig, tra gall y rheiny sy’n mwynhau beicio ffordd fwynhau’r tarmac anghysbell yn y bylchau sydd yn uchelfannau’r mynyddoedd. Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn lle da i ddechrau cynllunio eich llwybr.

Clywedog reservoir from above on a sunny day.
Llyn Clywedog - u'n o'r golygfeydd ar hyd Lôn Las Cymru, llwybr 8

Llwybr Tywi

Pellter: 75 milltir / 120km

Dringfa: 5,000 troedfedd / 1,500m

Map o'r llwybr

Mae Dyffryn Tywi yn lle hyfryd i feicio, gyda digonedd o lonydd tawel bob ochr i’r dyffryn llydan sy’n cael ei warchod gan gestyll hynafol. Mae gan y daith hon ychydig o bopeth: dringfa fynyddig serth i ddechrau, pedlo ysgafn ar hyd llawr y dyffryn ar y diwedd, a milltiroedd o gilffyrdd gwledig a thlws yn y canol. Mae hon, fwy na thebyg, yn daith-dwy-gacen, felly stopiwch i ddechrau yn nhref farchnad Llanymddyfri ac eto wedyn yn Wright’s Food Emporium, Llanarthne.

Lôn Cambria

Pellter: 90 milltir / 145km

Dringfa: 6,500 troedfedd / 2,000m

Map o'r llwybr

Mae’r llwybr hwn ar draws lled Cymru gyfan, ble mae lled y wlad ar ei fwyaf cul. Mae’r rhan fwyaf o deithiau beicio’n cael eu cynllunio o’r gorllewin i’r dwyrain er mwyn i’r gwynt fod o gymorth, ond rydym ni wedi mapio’r llwybr hwn o'r Amwythig i Aberystwyth gan fod y golygfeydd o’r mynyddoedd hyd yn oed yn well i’r cyfeiriad hwnnw. Ac mae hi wastad yn braf gorffen siwrnai hir gyda 25 milltir (40km) sy’n disgyn i lawr am y môr. Mae’r llwybr traddodiadol yn cynnwys cylch o amgylch y llynnoedd ger Rhaeadr Gwy, ond rydym ni’n credu bod y rheiny yn haeddu eu taith eu hunain...

Y Chwe Argae

Pellter: 27 milltir / 44km

Dringfa: 2,500 troedfedd / 775m

Map o'r llwybr

Cafodd y llynnoedd a’r argaeau a geir ar hyd Afon Elan ac Afon Claerwen eu creu yn uchelfannau Mynyddoedd Cambria er mwyn darparu dŵr i Birmingham. Mae’r ystâd 72 milltir sgwâr (186km sgwâr) yn gyfuniad hyfryd o nodweddion saernïol Fictoraidd ac ucheldir gwyllt Cymreig; mae modd gwneud y daith mewn ychydig oriau. Gall beicwyr ffordd ymestyn y llwybr ar hyn ffordd fynydd i Bontarfynach, tra gall y rhai sy’n mwynhau beicio oddi ar y ffordd fwynhau llonyddwch perffaith llwybr anwastad sy’n rhedeg wrth ochr cronfa ddŵr Claerwen, heibio Pyllau Teifi, yr holl ffordd i Abaty Ystrad Fflur.

Forest and river in the Elan Valley
Two people taking two dogs for a walk, walking over a bridge with autumnal trees in the background
Cwm Elan

Mynyddoedd ac Arfordir y Preseli

Pellter: 46 milltir / 75km

Dringfa: 5,000 troedfedd / 1,500m

Map o'r llwybr

Dyma’r ffordd berffaith o ddod i adnabod rhannau Cymreiciaf, fwyaf gwledig gogledd Sir Benfro. Mae’r llwybr arfordirol (nad yw mor wastad ag y byddai rhywun yn ei feddwl) yn mynd trwy Fae Ceibwr a heibio Abaty Llandudoch cyn anelu am y mewndir i’r bwlch uchaf ym mynyddoedd y Preseli. Disgynnwch i hyfrydwch Cwm Gwaun a mwynhau peint yn nhafarn enwog Bessie i’ch paratoi ar gyfer y dringo serth ar hyd y llwybrau cul tu ôl i’r dafarn, sy’n arwain at Drefdraeth.

Bwlch yr Efengyl a'r Tumble

Pellter: 60 milltir / 95km

Dringfa: 5,250 troedfedd / 1,600m

Map o'r llwybr

Byddwch yn ticio dwy ddringfa eiconig oddi ar y rhestr drwy ddilyn un daith gylchol o gyrion hyfryd tref y Gelli Gandryll. Yn gyntaf, Bwlch yr Efengyl; y ffordd darmac uchaf yng Nghymru sy’n rhedeg rhwng Penybegwn a Thwmpa. Cewch gyfle i adennill eich gwynt wrth ddisgyn i lawr heibio Priordy Llanddewi Nant Hodni cyn cyrraedd y Fenni a’r ddringfa serth tua’r Tumble. O’r fan hon, mae’r rhan fwyaf o’r daith am i lawr, gan roi cyfle i chi fwynhau golygfeydd Canolbarth Cymru ar eu gorau.

Herio'r ddraig

Pellter: 185 milltir / 298km

Dringfa: 14,750 troedfedd / 4,500m

Map o'r llwybr

Mae Dragon Ride yn un o gampau chwaraeon mwyaf heriol y Deyrnas Unedig. Bydd y rhai mwyaf heini yn cael trafferth cyrraedd pen taith nodedig y ‘Devil Dragon’ (noder bod llwybrau byrrach, llai dychrynllyd hefyd ar gael, diolch i’r drefn!). Ac eto, rydym ni wedi ei gynnwys yma gan fod iddo nifer o’r dringfeydd gorau ym Mhrydain: y Bwlch a’r Rhigos uwch y Rhondda, teithiau dros rostiroedd canolog Bannau Brycheiniog a thrwy gomin unig Abergwesyn, dringfeydd serth Devil’s Elbow a Devil’s Staircase (y ddau wedi eu henwi’n bwrpasol), y ddringfa hyfryd i fyny’r Mynydd Du o Langadog... fe gewch y rhain i gyd ar y daith hon. Mae gweld un o’r rhain ar y tro yn braf, ond mae eu gweld nhw i gyd ar un daith yn frawychus o wefreiddiol.

Moutain bike wheels in view with biker looking over cliff ledge
Mountain bikers enjoying the view in Caerphilly
Bannau Brycheiniog a Chaerffili

Bwlch y Groes

Pellter: 34 milltir / 55km

Dringfa: 2,950 troedfedd / 900m

Map o'r llwybr

Dywedir yn aml mai’r lôn ar hyd Bwlch y Groes yw’r ffordd uchaf yng Nghymru - Bwlch yr Efengyl ydi hwnnw o drwch blewyn, â bod yn fanwl gywir - ond mae’n dal i fod yn ddringfa anhygoel i fyny o Lyn Tegid drwy’r mynyddoedd nes cyrraedd y bwlch. Beiciwch o amgylch Llyn Efyrnwy, a dychwelyd dros fryniau Bwlch Hirnant a’u llond o flodau’r grug.

Ffordd Brailsford

Pellter: 75 milltir / 120km

Dringfa: 6,200 troedfedd / 1,900m

Map o'r llwybr

Cafodd Syr Dave Brailsford ei fagu yn Eryri, a dysgodd ei grefft ar y ffyrdd mynyddig gwefreiddiol yno. Dyma’r hiraf o ddwy daith - er mwyn dilyn y daith fer gallwch droi ym mhentref tlws Beddgelert - ond mae’r ddwy daith yn sicr o roi golygfeydd hyfryd i chi o’r Wyddfa. Mae Caernarfon yn lle da i ddechrau a gorffen y daith, lle mae’r castell yn teyrnasu uwch y dref.

Stone houses and bridge in Beddgelert by the river
Beddgelert

Related stories