Dydi gwyliau beicio mynydd ddim yn wyliau arferol. Yn hytrach na gorwedd ar draeth, mi fyddwch chi’n hedfan i lawr llethrau. Yn lle gorchuddio eich hun mewn eli haul, mi fyddwch yn ceisio golchi'r mwd oddi arnoch chi. Ac yn lle diogi wrth ymyl y pwll, mi fyddwch chi'n chwysu chwartiau. Ond dyma'n union pam mae pobl yn ei garu.

Mae ein cefn gwlad prydferth yn frith o lwybrau beicio, ac fe allwch fynd o amgylch rhai ohonyn nhw mewn ychydig o oriau, tra bod llwybrau eraill yn gallu cadw’r beiciwr mwyaf ffit hyd yn oed yn brysur am ddyddiau. Mae gan y wlad hefyd nifer o ganolfannau beicio arbenigol, sy'n cynnig gwasanaethau rhentu a thrwsio, ynghyd â thywyswyr profiadol sy'n barod i arwain beicwyr newydd sigledig a beicwyr proffesiynol fel ei gilydd ar deithiau bythgofiadwy.

Tri beiciwr mynydd yn edrych i lawr bryn.

Beicio mynydd ym mryniau Ceredigion

Ydy gwyliau beicio mynydd yn addas i chi?

Felly beth sy'n argyhoeddi pobl sy’n hoff o fynd ar eu gwyliau i gyfnewid eu het haul am helmed? Yn ôl Phill Stasiw, sylfaenydd Mountain Bike Wales, mae’n gyfuniad o ffactorau.

‘Mae rhai pobl yn mwynhau her y math yma o wyliau, mae eraill yn dod i gyfarfod pobl o’r un anian sy’n caru beicio,’ meddai Phill. ‘Ond ar y cyfan mae’n ymwneud â bod yn yr awyr agored yng ngolygfeydd godidog Cymru.'

Er i chi feddwl efallai mai dim ond y rhai mewn Lycra sy'n treulio'u gwyliau ar y llwybrau, mae Phill yn nodi, o’i brofiad o, bod teithiau'n tueddu i ddenu cymysgedd o feicwyr amatur a brwd.

‘Rydyn ni wir yn ceisio darparu ar gyfer pob lefel. Mae gennym ni deithlenni aml-ddiwrnod ar draws Cymru sy'n heriol iawn. Yna, i’r pegwn arall, rydym yn tywys beicwyr newydd trwy eu profiad cyntaf oddi ar y ffordd,’ meddai Phill. ‘Rydym hefyd yn cynnig beiciau trydan sy’n addas ar gyfer pob math o dir, sy’n helpu beicwyr i fynd allan i’r awyr agored, pan fyddai eu ffitrwydd wedi gallu cyfyngu ar ba mor bell oedden nhw’n gallu teithio fel arall.’

Ble i fynd ar wyliau beicio mynydd

Barod i fynd amdani? Mae pob un o'r canolfannau yma naill ai'n cynnig neu'n gallu trefnu llety lleol i feicwyr, tra bod bwyd a gwely’n cael eu cynnwys fel arfer mewn teithiau aml-ddiwrnod. Mae rhai canolfannau hefyd yn rhentu beiciau ac offer, sy'n golygu mai'r cyfan sy'n rhaid i chi ddod gyda chi yw agwedd benderfynol i fynd i fyny'r bryniau yna.

Teithiau beicio mynydd pellter hir

Ar gyfer beicwyr profiadol mae Cymru’n cynnig amrywiaeth o lwybrau pellter hir sy’n profi penderfynoldeb ac sydd wedi’u cynllunio i wthio sgiliau beicwyr i’r eithaf.

Mae Mountain Bike Wales yn un o'r arbenigwyr yn y teithiau aml-ddiwrnod epig yma. Llwybr mwyaf poblogaidd y cwmni yw’r Llwybr Traws Cambria, llwybr tridiau 112-milltir (180km), sy’n mynd o gwmpas y llynnoedd ac yn dringo dros gopaon Mynyddoedd Cambria, gan gludo beicwyr o Drefyclo, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, yr holl ffordd i ymyl deheuol Eryri.

Ddim cweit yn ddigon heriol? Mae’r cwmni hefyd yn rhedeg taith Sarn Helen; taith anodd, chwe diwrnod, o arfordir i arfordir ar hyd asgwrn cefn canolog y wlad, gan ddechrau yng Nghonwy, a gorffen ar draethau Gŵyr. Gan ddilyn beth a gredir i fod yn hen ffordd Rufeinig, mae’r llwybr yn cynnwys rhai o dirweddau harddaf Cymru, fel Eryri a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae rhai pobl yn mwynhau her y math yma o wyliau, mae eraill yn dod i gyfarfod pobl o’r un anian sy’n caru beicio,’ meddai Phill. ‘Ond ar y cyfan mae’n ymwneud â bod yn yr awyr agored yng ngolygfeydd godidog Cymru.”

Gwyliau beicio mynydd yng Ngogledd Cymru

Gyda llinellau sip yn gwibio uwchben a thrampolinau enfawr mewn ogofâu tanddaearol, mae Gogledd Cymru wedi datblygu enw da fel man poblogaidd ar gyfer y rhai sy’n chwilio am antur, ac yn sicr, tydi llwybrau beicio y rhanbarth ddim yn siomi.

Wrth fynd yn uwch i’r gogledd, mae'r Hilton Garden Inn yn ganolbwynt gwych ar gyfer mynd i’r afael â llwybrau poblogaidd siroedd Gwynedd a Chonwy. Mae'r rhain yn cynnwys Gwydir Mawr a Bach (Llwybr Marin gynt), dolen 16 milltir (25km) yn dechrau yn Llanrwst sy'n gwobrwyo dringfeydd drwy’r coed sy'n chwalu'r ysgyfaint gyda golygfeydd godidog o'r mynyddoedd, a Llwybrau Penmachno, dwy ddolen o drac sengl cyffrous, sy’n cael ei reoli gan wirfoddolwyr angerddol. Tydi arweiniad corfforol ddim yn cael ei gynnig yn y ganolfan, ond mae mapiau, cyngor a gwasanaeth trwsio ar gael.

MBWales: Llwybr Marin, Betws-y-Coed

Gwyliau beicio mynydd yng Nghanolbarth Cymru

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn adnabyddus am ei olygfeydd anhygoel gyda’r nos o’r cosmos, nodwedd sydd wedi arwain at yr ardal yn dod yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf Cymru. Ond mae hefyd yn dipyn o seren o ran beicio oddi ar y ffordd.

Wedi'i leoli yn rhan fwyaf gorllewinol y Bannau, mae Black Mountain Adventure yn trefnu teithiau diwrnod tywysedig a hunan-dywys sy'n ymlwybro trwy ddyffrynnoedd golygfaol y rhanbarth i fannau gwylio fel Hay Bluff, neu'n mynd ar lwybrau coedwig i fannau prydferth lleol fel y Begwns, safle'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda da byw sy'n pori a chreiriau honedig o'r Oes Efydd. Mae'r ganolfan yn cynnig llogi beiciau a helmedau, a gall hefyd drefnu teithiau aml-ddiwrnod wedi'u teilwra.

Mewn mannau eraill yng nghanolbarth Cymru, mae tîm Mountain Bike Wales y soniwyd amdano uchod, sydd wedi’i leoli ym Mhenffordd-las, Powys, yn cynnal taith boblogaidd ‘O’r Copa i’r Môr’, gan roi’r cyfle i nofio yn nhref arfordirol Aberdyfi. Mae hefyd yn tywys beicwyr trwy rannau o lwybrau Mach, tri llwybr beicio sydd wedi cael llawer iawn o ddefnydd, ac sy’n dolennu eu ffordd o amgylch rhai o gopaon uchaf Mynyddoedd Cambria.

Gwyliau beicio mynydd yn Ne Cymru

Ar gyrion tref Merthyr Tudful mae Parc Beicio Cymru - ac mae rhai yn dadlau mai dyma brif ganolfan beicio mynydd y DU. Mae’r parc yn debyg i gyrchfan sgïo fwdlyd, gyda 40 rhediad i feicwyr ddewis o’u plith – a gwasanaeth lifft defnyddiol i gludo beicwyr blinedig yn ôl i ben y mynydd.

Dyn yn beicio mynydd gyda choed pinwydd yn gefndir.
Dau feiciwr mynydd mewn coedwig dywyll.

Parc Beicio Cymru, Merthyr Tudful

Ychydig i'r dwyrain yn nhref Trefynwy, cychwynnwyd WyeMTB gan ddau â diddordeb mawr yn y maes yn 2010, a heddiw mae’n cynnig ystod gyfan o deithiau tywys, o rai byr sy’n addas i deuluoedd i deithiau tridiau â chymorth cerbydau drwy gymoedd fertigol De Cymru. Mae'r ganolfan hefyd yn cynnig sesiynau blasu am ddim bob nos Iau.

Mae mwy o reidiau traws gwlad confensiynol ar gael ychydig i'r de yng Nghoedwig Cwmcarn. Mae gan yr ardal ddwy ddolen hwyliog a heriol: Llwybr Cafall a Llwybr Twrch, gyda'r olaf yn cynnig darnau crib agored sy'n edrych allan dros Fôr Hafren. Mae hwn yn llwybr hunan-dywys, ond mae mapiau a beiciau ar gael i’w llogi o ganolfan ymwelwyr fechan yn y prif faes parcio.

Dyn ar feic mynydd yn mynd drwy nant.
Grŵp mawr o feicwyr mynydd ar ben bryn.
Beicwyr mynydd ar lwybr ar ochr bryn.

Beicio mynydd yn Nyffryn Gwy gyda WyeMTB

Gwyliau beicio mynydd yng Ngorllewin Cymru

Mae Gorllewin Cymru yn ganolbwynt gwych i chi ar gyfer gwyliau beicio mynydd. Mae nifer o lwybrau hunan-dywys yn yr ardal, gyda dewis o lwybrau oddi ar y ffordd wedi’u graddio’n ‘hawdd’ yng Nghoedwig hardd Crychan, ger Llanymddyfri, a llwybr arfordirol 4 milltir (6.5km) mwy heriol yn Stad Stagbwll, o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae gan Barc Coedwig Afan, o safon fyd-eang, yn y bryniau uwchben Port Talbot ac Abertawe nifer o lwybrau, yn amrywio o Wyrdd i Ddu, ac yn bendant yn un i roi tic wrtho ar restr fwced eich parc beiciau.

Yn y cyfamser, gallai pobl ar eu gwyliau sydd efo beicwyr iau, dibrofiad, ddewis y trac ar y safle yng nghanolfan Antur Bae Morfa ger Pentywyn. Wedi'i ddylunio gan y beiciwr mynydd elitaidd Rowan Sorrell (sydd wedi gweithio ar lwybrau mewn lleoliadau mor amrywiol â Tsiecia ac India), mae'r cwrs yn rhoi cyfle i newydd-ddyfodiaid brofi eu sgiliau mewn amgylchedd diogel, tra bod hyfforddwyr yn gwylio. Mae beiciau, helmedau a phadiau’n cael eu darparu.

Edrychwch ar fwy o lwybrau hunan-dywys yn yr ardal ar wefan Darganfod Sir Gâr a gwefan Croeso Sir Benfro.

 Beiciwr mynydd yn mynd i lawr llwybr.
Dau feiciwr mynydd ar lwybr ym Mharc Coedwig Afan.

Parc Coedwig Afan, Abertawe

Gwyliau beicio mynydd hygyrch

Mae gan Gymru nifer o lwybrau hunan-dywys o amgylch y wlad, ac fe allwch fynd arnyn nhw gyda beiciau llaw neu gadeiriau olwyn wedi'u haddasu.

Mae llwybrau hygyrch yn cynnwys y Llwybr Rookie Gwyrdd yng Nghoedwig Afan, Llwybr Derwen, yng Nghoedwig Beddgelert, a llwybr MinorTaur yng nghanolfan Coed y Brenin, ac fe allwch ddadlau mai’r olaf yw’r mwyaf technegol a heriol o’r tri. I gael mwy o wybodaeth, mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru dudalen we wych gyda fideos â llais yn rhoi dadansoddiad cynhwysfawr o ddetholiad o lwybrau hygyrch, gan gynnwys pa fath o feic arbenigol y mae pob llwybr yn addas ar ei gyfer.

Mae modd llogi beiciau wedi’u haddasu o lond llaw o leoliadau, gan gynnwys Bikeability Wales, ger Abertawe, a Beics Antur Bikes yng Nghaernarfon.

Straeon cysylltiedig