Mae’n amhosib osgoi’r cestyll (yn llythrennol: maen nhw’n enfawr!) Ond bachwch ar y cyfle hefyd i ymgolli yn rhai o uchafbwyntiau diwylliannol, awyr-agored a hanesyddol eraill y darn hwn o arfordir. Dyma ein deg uchaf.

Traphont Ddŵr Pontcysyllte

Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn gampwaith meistrolgar gan beirianwyr y cyfnod Sioraidd. Agorwyd y draphont yn 1805, ac mae’n cludo Camlas Llangollen fry uwchlaw dyffryn Dyfrdwy. Gallwch gerdded neu logi bad camlas neu gaiac i groesi dros draphont ddŵr uchaf y byd. Ymysg atyniadau eraill Llangollen mae rheilffordd stêm, rafftio dŵr gwyn ar afon Dyfrdwy, ac Eisteddfod Ryngwladol flynyddol ragorol y dref. 

Pontcysyllte, Gogledd Cymru
Traphont Pontcysyllte ger Wrecsam

Perfformiadau o fri

Theatr Clwyd yw canolfan gelfyddydau fwyaf ardal yr Wyddgrug, ac mae’n rhagori ar gynhyrchu dramâu gwreiddiol. Yn Llandudno, mae Venue Cymru’n rhoi llwyfan i berfformwyr a sioeau mawr sydd ar daith, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru. Yng Ngregynog y bydd ein gŵyl gerddoriaeth glasurol hynaf yn digwydd - yma y perfformiwyd gweithiau gan gyfansoddwyr fel Gustav Holst ac Eric Whitacre am y tro cyntaf.

Castell Conwy

Gellir gweld y castell hwn o’r 13eg ganrif am filltiroedd, waeth pa ffordd ddewch chi i Gonwy. Mae Castell Conwy yn un o sawl campwaith gormesol gan bensaer Edward I, James of St George, yng Ngogledd Cymru. Mae'r castell yn bwrw’i gysgod yn llwyr dros y dref - tref a amgylchynir gan un o’r muriau gorau yn Ewrop, ac iddo 21 tŵr a thri phorth. 

Tynnu llun - Castell Conwy, Conwy
Castell Conwy, Conwy

O'r copa ar wifren wib

Mae gwifrau gwib cyflymaf y byd, a’r hiraf yn Ewrop, i’w canfod yn ZipWorld uwchlaw Chwarel y Penrhyn, chwarel lechi fwya’r byd ar un adeg. Mae pedair gwifren gyfochrog yn rhedeg am filltir (1.6km): wrth i reidwyr orwedd ar wastad mewn harnais, gallant gyrraedd cyflymder dros 100mya (160kya) wrth iddynt hedfan 500 troedfedd (150m) uwchlaw llyn. 

Castell Biwmares

Castell Biwmares yw'r olaf o gadwyn Edward I o gadarnleoedd yw’r castell mwyaf technegol berffaith ym Mhrydain hyd heddiw, gan ddefnyddio cynllun ‘waliau o fewn waliau’. Chafodd Edward erioed gyfle i gwblhau’r gwaith adeiladu ym Miwmares (tynnwyd ei sylw gan yr Albanwyr aflonydd). Serch hynny, mae UNESCO’n barnu fod Biwmares yn un o’r ‘enghreifftiau gorau o bensaernïaeth filwrol yn Ewrop’, ac ynghyd â chestyll eraill Edward yng Nghymru, mae'n Safle Treftadaeth y Byd.

Aerial shot of Beaumaris Castle
Castell Biwmares, Ynys Môn

Amgueddfa Lechi Cymru

Mae rhai darnau o’n mynyddoedd ar goll, fel pe bai cawr enfawr wedi brathu talpiau enfawr ohonynt. Dyna i chi ôl y diwydiant llechi, a fu’n gyfrifol am roi to (yn llythrennol felly) dros Brydain Oes Fictoria. Caeodd chwarel enfawr Dinorwig yn 1969, ac erbyn hyn mae’r gweithdai Fictoraidd yn adrodd hanes y diwydiant llechi a’r ffordd y newidiodd dirwedd a phobl y gogledd. Cyn-chwarelwyr yw’r rhan fwyaf o’r staff yma, sy’n dod â’r stori’n fyw i ymwelwyr. Lleolir Amgueddfa Lechi Cymru ger troed yr Wyddfa, ar lan Llyn Padarn, ger gorsaf Rheilffordd Llyn Padarn.

Bro y chwareli - Dinorwig, Gwynedd
Bro'r chwareli, Dinorwig, Gwynedd
Dinorwig, Gwynedd

Plasty a Gerddi Plas Newydd

Plas Newydd, y plas gwledig hwn ar lannau’r Fenai, yw cartref Ardalydd Môn a’i gyndeidiau, ac mae’n cadw’r casgliad mwyaf o waith yr artist Rex Whistler, ynghyd ag amgueddfa filwrol a gardd wanwyn odidog. Yr Ardalydd cyntaf arweiniodd y cyrch ym Mrwydr Waterloo, gan golli’i goes yno. Arddangosir ei goes bren yma (er mai ei goes ‘gerdded’ yw hon i fod yn fanwl gywir – roedd ganddo goesau eraill ar gyfer marchogaeth a dawnsio).

Castell Caernarfon

Dechreuodd Edward I ar y gwaith o adeiladu Castell Caernarfon yn ystod y 1280au er mwyn rheoli Gogledd Cymru, ar ôl trechu Llywelyn ein Llyw Olaf. Cynlluniwyd y castell i goncro ac i greu argraff, gyda’i dyrrau amlochrog, a’r bandiau o gerrig amryliw. Ni fu’r goncwest yn llwyddiant ysgubol – yn ardal Caernarfon y mae’r ganran uchaf o Gymry Cymraeg yn byw hyd heddiw (bron i 90%). Mae hi’n dref hyfryd hefyd, ble gallwch esgus bod yn Gofi eich hun: mae bar tafarn y Black Boy yn lle da i gychwyn!

Ynys Llanddwyn

Os oes angen tystiolaeth arnoch ein bod ni’r Cymry’n fwy rhamantus na phawb arall, ystyriwch fod gennym ein nawddsant ein hunain ar gyfer y cariadon, sef Santes Dwynwen. Dethlir ei dydd gŵyl ar 25 Ionawr, pan gofiwn am y dywysoges o’r 5ed ganrif a sefydlodd leiandy ar Ynys Llanddwyn, ble gwelir dau oleudy, adfeilion capel, nifer o ffynhonnau a llond dwrn o fythynnod peilotiaid, sy’n gweithredu fel canolfan ymwelwyr dros yr haf. Y tu ôl i’r traeth enfawr, mae gwarchodfa natur yn y twyni, a choedwig sy’n gartref i wiwerod coch a thorf enfawr o gigfrain.

Ynys Llanddwyn, Ynys Môn
Enw Ynys Llanddwyn wedi'i gerfio ar giat
Ynys Llanddwyn a Niwbwrch, Ynys Môn

Goleudy Ynys Lawd

Pan adeiladwyd Goleudy Ynys Lawd ym 1809, byddai’n rhaid i ymwelwyr groesi mewn basged oedd yn hongian o raff; heddiw mae yma bont gul sy’n croesi o Ynys Cybi, ond rhaid disgyn i lawr 400 o risiau ar ochr y clogwyn i’w chyrraedd. Mae hi’n werth yr ymdrech, cofiwch: mae’r warchodfa natur o gwmpas y goleudy’n gartref i filoedd o adar y môr sy’n magu yma. Yn eu plith mae gwylogod, llursod a phalod, ac oddi ar y lan, fe allech weld morloi, dolffiniaid a llamhidyddion.

View of South Stack Lighthouse from the water
Goleudy Ynys Lawd, Ynys Môn

Related stories