Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd

27 Medi – 20 Hydref 2024. Am dair wythnos bydd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn cyflwyno digwyddiadau ymdrochol, pop-yps a gigs ar draws y brifddinas. Ymysg y lleoliadau mae Utilita Arena Caerdydd, Eglwys Gadeiriol Llandaf, Canolfan Mileniwm Cymru, Y Neuadd Fawr, Tramshed, Clwb Ifor Bach, CULT VR, Cornerstone, The Moon, Fuel, Porters a Depot. Mae gŵyl Sŵn a Llais yn rhan o'r digwyddiad.

Ffair Hydref Canolbarth Cymru

05 - 06 Hydref 2024. Diwrnod allan hydrefol i’r teulu, gyda dros 40 o gynhyrchwyr bwyd a diod o bob rhan o Gymru. Cynhelir Ffair Hydref Canolbarth Cymru ar Faes Sioe Frenhinol Cymru.

Darllen mwy: Darganfod hanes Llanfair-ym-Muallt

Llais, Caerdydd

09 - 13 Hydref 2024. Gŵyl ryngwladol flynyddol Caerdydd gyda chymysgedd o ddigwyddiadau am ddim a rhai sydd angen tocyn. Heb ei gyfyngu i genre neu ffurf gelf benodol, mae Llais yn dathlu artistiaid rhyngwladol yn ogystal â chreadigrwydd ein cynefin, gan drawsnewid Canolfan Mileniwm Cymru’n safle gŵyl unigryw am gyfnod. 

Darllen mwy: Pethau i’w gweld a’u gwneud ym Mae Caerdydd

Gŵyl Sŵn, Caerdydd

17 - 19 Hydref 2024. Gŵyl gerddoriaeth gyfoes aml-leoliad yng nghanol Caerdydd yw Gŵyl Sŵn. Ers 2007 mae'r ŵyl yn canolbwyntio ar gerddoriaeth newydd, artistiaid sy'n datblygu a bandiau lleol. 

Darllen mwy: Pethau i’w gwneud ar wyliau byr neu benwythnos hir yng Nghaerdydd

Lleisiau Eraill, Aberteifi

31 Hydref - 02 Tachwedd 2024. Bydd Lleisiau Eraill yn cyflwyno penwythnos o berfformiadau o safon fyd-eang unwaith eto yn Aberteifi gan gynnwys digwyddiadau yn Eglwys y Santes Fair, setiau byw ar draws Y Llwybr Cerdd a chyfres o sgyrsiau a syniadau yn y sesiynau Clebran. 

Trên Stêm Calan Gaeaf, Rheilffordd Talyllyn 

31 Hydref 2024. Ewch ar daith arswydus ar Drên Calan Gaeaf Talyllyn, os ydych chi'n ddigon dewr i deithio gyda'r ysbrydion.

Darllen mwy: Digwyddiadau Calan Gaeaf a hwyl hanner tymor yr hydref

Straeon cysylltiedig