Gŵyl Theatr Awyr Agored Caerdydd

20 Mehefin - 27 Gorffennaf 2024. Mae Gŵyl Theatr Awyr Agored Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o berfformiadau yng Ngerddi Sophia yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf. Mae perfformiadau ym mis Gorffennaf yn cynnwys Shrek, Abba Revival a One Man Two Guvnors. 

Red Bull Hardline, Dyffryn Dyfi, Machynlleth

01 - 02 Gorffennaf 2024. Mae Red Bull Hardline yn dychwelyd i Ddyffryn Dyfi am y degfed flwyddyn. Dyma un o rasys beicio lawr allt gorau'r byd.

Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

02 - 07 Gorffennaf 2024. Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn Rhyngwladol Brenhinol Llangollen bob blwyddyn, gyda phum diwrnod o gerddoriaeth a dawnsio gwerin o bob cwr o'r byd mewn un lle. 

Gŵyl Canol Dre, Caerfyrddin

06 Gorffennaf 2024. Mae gŵyl Gymraeg Caerfyrddin, Gŵyl Canol Dre, yn dychwelyd i Barc Myrddin am ddiwrnod o hwyl i'r teulu cyfan a chwip o line-up cerddorol. Mae mynediad i'r ŵyl am ddim.

Sioe Awyr Cymru, Bae Abertawe

06 - 07 Gorffennaf 2024. Mae Sioe Awyr Cymru yn dychwelyd i Fae Abertawe am ddau ddiwrnod o arddangosiadau o'r awyr. Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn cynnwys hofrenyddion, jetiau a'r Red Arrows, ac mae arddangosfeydd daear, cerddoriaeth fyw, gweithgareddau teuluol a reidiau hefyd.

Gŵyl Love Trails, Penrhyn Gŵyr

11 - 14 Gorffennaf 2024. Mwynhewch gerddoriaeth, DJs, tripiau i'r traeth, gweithgareddau chwaraeon a lles a bwyd yng ngŵyl Love Trails

Tafwyl, Caerdydd

12 - 14 Gorffennaf 2024. Gŵyl flynyddol i ddathlu'r Gymraeg yw Tafwyl. Y prif ddigwyddiad yw Ffair Tafwyl ym Mharc Bute. Cynhelir gŵyl ymylol hefyd gyda digwyddiadau mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd, caffis, bariau a lleoliadau celfyddydol amrywiol ledled y ddinas.

Ironman Abertawe 70.3

14 Gorffennaf 2024. Mae Ironman Abertawe 70.3 yn ôl gyda chystadleuwyr yn nofio, seiclo a rhedeg ym Mae Abertawe. 

Ras Ryngwladol yr Wyddfa

20 Gorffennaf 2024. Cynhelir Ras Ryngwladol yr Wyddfa ar gopa uchaf Cymru a Lloegr, gyda bron i 600 o redwyr o bob cwr o'r byd yn mynd i'r afael â llethrau serth yr Wyddfa. 

Sesiwn Fawr Dolgellau

18 - 21 Gorffennaf 2024. Ar benwythnos cynta’r gwyliau haf yn flynyddol mae’r Sesiwn Fawr yn troi strydoedd Dolgellau yn faes gŵyl werin fywiog, gyda cherddoriaeth, llên, comedi, a gweithgareddau i blant yn cael eu llwyfannu ar draws amrywiol leoliadau’r dref. 

Darllen mwy: Dolgellau: Crwydro tref y Sesiwn Fawr

Cynulleidfa fawr yn gwylio band gwerin Calan ar lwyfan Sesiwn Fawr Dolgellau. Mae sawl fflag uwch ben baner Sesiwn Fawr gan gynnwys Cymru, Ewrop, Yr Alban ac Ynys Manaw.
Criw o bobl ifanc yn jamio tu allan i dafarn yn chwarae ffidl a gitâr.

Sesiwn Fawr Dolgellau

Sioe Frenhinol Cymru, Powys

22 - 25 Gorffennaf 2024. Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Canolbarth Cymru yw pinacl calendr amaethyddol Prydain. Mae da byw, amrywiaeth o weithgareddau ac adloniant, yn ogystal ag amrywiaeth o fwyd.

Gŵyl Steelhouse, Blaenau Gwent

26 - 28 Gorffennaf 2024. Mae Gŵyl Steelhouse yn dod â cherddoriaeth roc i fynyddoedd godidog Glyn Ebwy. 

A crowd of music fans enjoying a rock band on stage.

Gŵyl Steelhouse, Glyn Ebwy

Gŵyl Para Chwaraeon, Abertawe

I'w gadarnhau. Mae'r Ŵyl Para Chwaraeon yn dychwelyd i Abertawe, gyda chymysgedd o ddigwyddiadau Cymryd Rhan a Chystadleuol. Gwyliwch athletwyr para elitaidd a rhowch gynnig ar amrywiaeth o chwaraeon. 

Darllen mwy: Arddangos para-chwaraeon yn Abertawe

Gŵyl Para Chwaraeon, Abertawe

Straeon cysylltiedig