Dwn i ddim amdanoch chi, ond mae di dod yn arfer gen i i estyn am fy ffôn bob tro wela i gornel o Gymru ar sgrîn. Nid i decstio na ffonio i rannu nghynnwrf yn benodol, ond er mwyn gŵglo’r union leoliad, fel ditectif preifat! Yn ddiweddar fe’m sbardunwyd i i chwilota gan gynyrchiadau poblogaidd Men Up a Mr Bates vs The Post Office a ffilmiau fel Gwledd ac Y Sŵn, a ffilmiwyd mewn lleoliadau mor amrywiol â Nant Gwynant yn Eryri, Llanbister yn Sir Faesyfed a Chlwb Rygbi Senghennydd, Caerffili. 

Criw yn ffilmio golygfa tu mewn i dŷ
Llyn Gwynant ar ddiwrnod cymylog

Ffilmio golygfa Y Sŵn a Nant Gwynant

Mae ambell leoliad yn datblygu’n gymeriad ynddo’i hun, gan ddwyn drama deledu neu ffilm dan drwynau’r sêr mawr. Ac i nifer o bobol, mae gweld Cymru yn serennu yn ddigon i sbarduno gwibdaith neu wyliau haf. Efallai eich bod chi eisoes yn gyfarwydd ag enghreifftiau o rannau ‘cameo’ Cymru mewn hanes, fel yn achos cyfres The Prisoner (1966-68) ym Mhortmeirion, a ffilmiau The Vikings yng Nghaernarfon (1958) a The Inn of the Sixth Happiness ym Meddgelert (1958). Ond beth am gael cip ar enghreifftiau mwy cyfoes o Gymru’n serennu ar sgrîn?

Lleoliadau Ffilmio Gogledd Cymru

Yn ogystal â thre Porthaethwy yn Rownd a Rownd, ac ymddangosiad Ynys Llanddwyn yn House of the Dragon (i'w ryddhau eleni), mae sawl cyrchfan arall ar Ynys Môn wedi serennu mewn cynyrchiadau o bob math. Yn eu plith, Ynys Lawd yn y ffilm Bolan’s Shoes, Ynys y Castell yn nrama ditectif Craith (S4C/ BBC Cymru) a Phont y Borth yng nghomedi ffantasïol Dolittle, gyda Robert Downey Jr (2020). Dros y blynyddoedd hefyd gwelwyd Llŷn ac Eifionydd yn creu argraff arbennig mewn sawl ffilm Gymraeg; tre glan môr Cricieth oedd prif leoliad y ffilmiau Mela (2005) ac Omlet (2008), tra roedd Ynys Enlli yn un o leoliadau niferus Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw (2000), ffilm gyntaf y cyfarwyddwr Euros Lyn.

Un o uchafbwyntiau trydedd gyfres The Crown ar wasanaeth ffrydio Netflix oedd yr olygfa o seremoni arwisgo Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969. Creodd y Cob ym Mhorthmadog argraff yng ngolygfa agoriadol Y Lleill gan Emyr Glyn Williams, am fand roc ym Mlaenau Ffestiniog. A sôn am ‘Blaena’, ychwanegodd dirlun y llechweddau at naws ormesol y ffilm arswyd Gwen (2018), tra aeth y duwiau Groegaidd Perseus (Sam Worthington) a Hades (Ralph Fiennes) benben â’i gilydd yn Chwarel Dinorwig ger Llanberis yn y blocbyster Clash of the Titans (2010) gyda Luke Evans. Nid nepell i ffwrdd ym Methesda, creodd Iona Jones argraff fawr fel y sipsi fach Eldra (2003). Ac yn fwyaf diweddar yn 2023, chwaraeodd yr actores Tilda Swinton fam a’i merch yn ffilm The Eternal Daughter, ond gellir dadlau mai prif gymeriad y ffilm oedd Neuadd Sychdyn yn Sir y Fflint –‘Moel Famau Hotel’ y ddrama seicolegol.

castle at night viewed from water.

Castell Caernarfon

Lleoliadau Ffilmio Canolbarth Cymru

Tra tre glan môr y Bermo oedd yn gefnlen i Ioan Gruffudd yn Happy Now (2002), Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, oedd prif leoliad ffilm gyffro Y Llyfrgell (2016) - ynghyd â golygfa ‘drawiadol’ gyda Sharon Morgan ar Rodfar Môr. Ac i oedi ger y prom yn Aberystwyth dros dro, dyna leoliad Yr Hen Goleg, a chwaraeodd ran allweddol mewn pennod gofiadwy o drydedd cyfres The Crown, wnaeth archwilio’r berthynas rhwng y Tywysog Siarl (Josh O’Connor) a’i ddarlithydd Cymraeg am dymor, Tedi Milward (Mark Lewis Jones). Ond mae ‘Aber’ a’r cyffiniau ym mherfeddion Ceredigion yn fwyaf adnabyddus am gyfres dditectif Y Gwyll (S4C / BBC Cymru ac ar ddangos ar Netflix); yn wir, cafwyd lleoliadau ffilmio rif y gwlith. O Westy Hafod Pontarfynach, i Gors Fochno a’r Borth i leoliadau di-ri yn ‘Aber’ ei hun. Efallai taw’r lleoliad mwyaf adnabyddus yw pencadlys yr heddlu, sef hen swyddfa’r Sir ar Rodfa’r Môr.

Aerial view of a seaside pier, promenade and castle.
An external view of a library.

Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Lleoliadau ffilmio De Cymru

Diolch i leoliad stiwdios cynhyrchu mawrion fel Bad Wolf a Phorth Teigr yng Nghaerdydd a Bay Studios yn Abertawe, peth digon cyffredin yw gweld enwau mawrion a chriwiau ffilmio ar hyd y lle. Mae na wefr bob tro wrth adnabod lleoliad mewn cynhyrchiad anferthol, boed yn neuadd odidog neu’n lôn gefn ddi-nod! Does dim dwywaith fod cyfresi gwyddonias Doctor Who (2005 hyd heddiw) a Torchwood (2006-2011) wedi denu ymwelwyr yn eu miloedd i ddilyn ôl traed eu hoff gymeriadau, heb sôn am addasiadau llenyddol His Dark Materials (2019-2022) a Sherlock Holmes (2010-2017). Ym Mhlas Roald Dahl ym Mae Caerdydd, ceir tŵr dŵr trawiadol - sef ‘pencadlys’ Torchwood. A thafliad carreg i ffwrdd yng Nghei’r Forforwyn mae cysegrfan i gymeriad ffuglennol o Torchwood, ‘Ianto’s Shrine’. Ond Bae Caerdydd ei hun a Senedd Cymru, yn wir, oedd sêr mwyaf y ddrama wleidyddol Byw Celwydd (2016-2019) ar S4C. Chwaraeodd y Deml Heddwch ym Mharc Cathays ran ganolog yn His Dark Materials, ac ymysg y cannoedd o leoliadau ffilmio ar hyd Caerdydd a Bro Morgannwg yn Doctor Who, mae Gerddi Plasturton, Pontcanna, a thraeth Southerndown.

Ffilmio rhaglen deledu yn y Bae
Grisiau yn arwain i'r Senedd gyda adeilad y Pierhead yn y cefndir

Ffilmio golygfa Byw Celwydd, Senedd Cymru, Bae Caerdydd

Sôn am arfordir Bro Morgannwg, ffilmiwyd rhannau o Mr Nice (2010) gyda Rhys Ifans ym mhentre San Dunwyd, a ffilm Eddie Izzard, Six Minutes To Midnight (2020), ar brom Penarth a Bae Jackson y Barri. Ac amhosib fyddai modd crybwyll y Barri heb gynnwys cyfres gomedi Gavin and Stacey (2007-2010)Ond un o’r ffilmiau gorau i borteadu Caerdydd fin nos oedd Human Traffic nôl yn 1999. Er nad yw clwb nos Emporium yn bodoli mwyach, cewch wledda yn yr un lleoliad, bwyty Pasture ar y Stryd Fawr. Ond gallwch yn bendant sawru glasied o ‘flewyn y ci’ ym mar y Philarmonic, fel wnaeth cymeriad Jip (John Simm) a’i ffrindiau gorau. Yna ar bedwaredd llawr Cineworld ar Heol Mary Ann mae bar â golygfa, a ymddangosodd yng nghyfres ddrama Caerdydd (2006 - 2010) a’r ffilm Siôn a Siân (2013). Yn fwyaf diweddar, chwaraeodd un o berlau’r brifddinas – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd - ran ganolog yn nrama deledu Yr Amgueddfa (2021), gyda Nia Roberts. Yr un actores a serennodd yn ffilm Marc Evans Patagonia (2010), a ffilmiwyd yn bennaf yn y Wladfa. Ond agorodd y ffilm â golygfa drawiadol ohoni o flaen waliau cochion ffermdy Kennixton yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. A sôn am Sain Ffagan, filmiwyd rhannau o gyfres ddrama Netflix Sex Education (2019-2023) yn swyddfeydd yr Amgueddfa Werin – ynghyd â lleoliadau yn Nhundyrn, Llandogo a Threfynwy yn Nyffryn Gwy a Sir Fynwy.

 

Tŷ fferm wedi ei beintio'n goch ar dir Amgueddfa Werin Cymru
Llun o'r tu allan i adeilad yr amgueddfa

Amgueddfa Werin Cymru, Sain Fagan ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Lleolwyd ail gyfres Yr Amgueddfa yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, Abergwili, a phwy all anghofio’r olygfa drawiadol o gymeriad Della yn ei siwt nofio ger Llyn y Fan Fach? I oedi yn Sir Gâr, canolbwynt y ffilm Save The Cinema (2022) oedd Theatr y Lyric, Caerfyrddin. Ac wedi degawdau o gael ei gysylltu â’r bardd byd-enwog Dylan Thomas, cyflwynodd drama deledu Un Bore Mercher (2017-2010) berspectif cyfoes ar bentre Talacharn. Yn wir, ni ffilmiwyd biopic y bardd, The Edge of Love (2008) gyda Matthew Rhys, Keira Knightley a Sienna Miller yn Nhalacharn o gwbl ond yn hytrach yng Ngheinewydd, Llanbedr Pont Steffan a Dinbych y Pysgod.

Actores yn cael ei ffilmio ar y traeth
Traeth tywodlyd Dinbych y Pysgod

Ffilmio Un Bore Mercher a Thraeth Castell, Dinbych-y-Pysgod

Ymhellach i’r Gorllewin, ffilmiwd comedi tywyll The Toll (2021) gydag Annes Elwy ac Iwan Rheon yn Noc Penfro, Pont Cleddau a Nolton Haven. Hefyd yn ne Sir Benfro, chwaraeodd draeth Barafundle ran ganolog yn y ffilm Third Star gyda Benedict Cumberbatch yn 2015. Yn Freshwater West y ffilmiwyd golygfeydd dramatig Robin Hood (2010) gyda Russell Crowe a Cate Blanchett, a hefyd Harry Potter and the Deathly Hallows: Part One (2010) a Part Two (2011). A thraeth Marloes a’i geigiau geirwon a agorodd ffilm Snow White and The Huntsman (2012) gyda Kristen Stewart, Chris Hemsworth a Charlize Theron. Yna yn ne Ceredigion, ffilmiwyd cynhyrchiad Tân ar y Comin (1993) ym mhentre Llangrannog, tra yn nhre Aberaeron, gwesty’r Harbourmaster oedd prif seren drama deledu boblogaidd Teulu (2008-2012) ar S4C.

Traeth Freshwater West gyda'r llun wedi ei dynnu o ganol y twyni tywod
Actorion yn cerdded ar hyd cei Aberaeron

Traeth Freshwater West a golygfa o Teulu, Cei Aberaeron

Un o lwyddiannau mwyaf diweddar S4C oedd cyfres ddrama Ed Thomas, Pren ar y Bryn (2023) a ffilmiwyd yn Ystradgynlais, Cwm Tawe. Ac ar BBC1, llwyddodd y ddrama gomedi twymgalon Men Up (2023) i gyfleu neges hynod bwerus am iechyd meddwl ac iechyd rhywiol dynion, ac wrth galon y cyfan mae Ysbyty Singleton yng nghanol Abertawe. Clywais gymaint o bobol yn canmol y golygfeydd dinesig ysblennydd, ond amhosib fyddai ystyried Abertawe ar sgrîn fawr neu sgrîn fach heb sôn am ddylanwad mawr Twin Town (1997). Ffilmiwyd y comedi anarchaidd gyda’r brodyr Rhys Ifans a Llyr Evans ym mhobman o Townhill i’r orsaf drenau – heb anghofio’r diweddglo bythgofiadwy oddi ar y pier ym Mwmbwls. Diolch i berfformiad ysgubol gan Gôr Meibion lleol o’r clasur ‘Myfanwy’, cipiwyd Cymru ar sgrîn, a chipiwyd calonnau gwylwyr – pob un wan Jac - am byth bythoedd. Sôn am brofiad sinematig cwbl epig!

Pier a'r mor y Mwmbwls

Pier y Mwmbwls, Abertawe

Straeon cysylltiedig