Mae Cymru’n wlad llawn llynnoedd ac afonydd hardd, ac o'i hamgylch mae milltiroedd o arfordir garw gyda morlynnoedd cudd ac ynysoedd. Beth yw'r ffordd orau i wneud y gorau o’r dyfroedd hyn? Rhwyfo a phadlo. Mae padlfyrddio, y gamp dŵr sydd yn tyfu gyflymaf yn y DU, yn hawdd i'w feistroli – ac efallai mai dyma'r ffordd berffaith o grwydro dyfroedd Cymru.

Padlfyrddio yng Nghymru

Felly beth yn union yw padlfyrddio?

Mae SUP neu padlfyrddio’n golygu sefyll ar fwrdd mawr a defnyddio padl i symud yn eich blaen. Syml! Mae posib padlfyrddio ar afon neu lyn gwastad, sy’n eithaf hawdd i'w feistroli, neu fentro i donnau'r môr, sydd ychydig anoddach i’w feistrioli a lle defnyddir bwrdd llai.

Mae padlfyrddio’n gallu ymddangos yn gamp newydd, ac mae'n wir mai ond yn ddiweddar mae wedi dod yn boblogaidd yn y DU, gan ffrwydro mewn poblogrwydd yn y 2000au. Mae yna fwy nag erioed yn ei fwynhau erbyn heddiw (mae yna bellach dros 500,000 o badlfyrddwyr rheolaidd ym Mhrydain, a bu cynnydd, 15 gwaith yn fwy, mewn gwerthiant byrddau padlyrddio yn 2020). Ond mae sefyll ar fwrdd ar y dŵr yn rhywbeth llawer hŷn na hynny. Mae pobl Hawaii wedi bod yn padlfyrddio ers canrifoedd – Hoe He'e Nalu yw eu henw nhw ar y grefft.

Mae padlfyrddio’n hwyl, yn hawdd i ddechreuwyr roi tro arno am y tro cyntaf ac yn ffordd ecogyfeillgar o weld y wlad. Ac mae’n dda i chi hefyd. Mae padlo’n ymarfer cardio ac yn cryfhau cyhyrau'r breichiau, mae cadw cydbwysedd ar y bwrdd yn ymarfer cyhyrau craidd y corff, ac mae treulio amser yng nghanol byd natur yn rhyddhau endorffinau i'r ymennydd a hyd yn oed yn gallu lleihau straen a gorbryder.

Tri pherson yn padlfyrddio ar Afon Gwy

Afon Gwy 

Awydd mentro?

Boed ar yr afonydd a'r llynnoedd a'r camlesi neu ar yr arfordir mae Cymru'n lle gwych i gamu ar fwrdd padlfyrddio. Trefnwch sesiwn gychwynnol gyda darparwr gweithgareddau wedi'i achredu – mae yna lawer iawn o sefydliadau padlfyrddio gwych yng Nghymru sy’n barod i fynd â chi i fannau hardd a hynny mewn ffordd ddiogel.

Mae Island SUP yn cynnal cyflwyniad 2 awr o hyd i badlfyrddio, ar ddyfroedd tawel Bae Jackson ar Ynys y Bari, yn ogystal â sesiynau i'r rhai sydd am wella eu sgiliau a dysgu troi ar y bwrdd a magu hyder ar y dŵr.

Mewn sesiwn padlfyrddio addas i ddechreuwyr bydd eich hyfforddwr yn eich cyflwyno i'r bwrdd ar ddŵr llonydd. Bydd yn dangos i chi sut i gario'ch bwrdd gan ddefnyddio'r handlen yn y canol a sut i glymu'r tennyn i'ch ffêr. Yna byddwch yn dysgu sut i fynd ar y bwrdd a phenlinio ar ei ganol – defnyddiwch yr handlen i'ch arwain a gosodwch eich pengliniau bob ochr iddi. Rhowch y padl yn y dŵr o'ch blaen ac yna’n ei dynnu’n ôl wrth ochr eich corff.

I sefyll, gosodwch gledrau eich dwylo i lawr o'ch blaen, codwch eich pengliniau oddi ar y bwrdd a sefyll i fyny'n araf, gan godi'ch padl wrth wneud hyn. I gadw'r bwrdd yn syth rhwyfwch ychydig o weithiau ar un ochr, ac yna ychydig o weithiau'r ochr arall. A dyna ni – rydych chi'n padlfyrddio!

Pedair merch yn cael gwers padlfyrddio ar y lan

Gwers padlfyrddio Bae Jackson, Y Barri

Padlo’n ddiogel

Rhaid cofio rhai canllawiau diogelwch wrth ddysgu, dyna pam y dylai dechreuwyr bob amser fynd at ddarparwyr profiadol wedi'u hachredu i ddechrau. Bydd y rhain hefyd yn darparu offer i'ch cadw'n ddiogel – siwt wlyb a fest arnofio rhag ofn i chi ddisgyn i'r dŵr. Mae gan bob bwrdd padlo dennyn i'ch ffêr – felly os byddwch yn disgyn yn annisgwyl i'r dŵr (mae'n debygol o ddigwydd wrth i chi ddarganfod eich cydbwysedd, felly peidiwch â phoeni!), mae'n hawdd cael gafael ar y bwrdd a dringo’n ôl arno. Mae gan fyrddau addas ar gyfer tonnau'r môr dennyn syth fel arfer, tra bod gan y byrddau sy'n cael eu defnyddio ar ddŵr tawel dennyn siâp coil (dydy'r rhain ddim yn addas mewn tonnau oherwydd gallan nhw achosi i'r bwrdd lamu'n ôl).

Dau ddyn yn cerdded gyda byrddau padlo - Llyn Dŵr Cymru Llys-y-Frân, Sir Benfro

Llyn Dŵr Cymru Llys-y-Frân, Sir Benfro

Ble i badlfyrddio yng Nghymru

Mae yna nifer o ddarparwyr gweithgareddau yn cynnig gwersi a theithiau. Mae Dŵr Cymru’n darparu gwersi mewn pedair cronfa ddŵr lle mae canolfannau gweithgareddau: Llyn Llys-y-frân yn Sir Benfro, Cronfa Ddŵr Llandegfedd ym Mynwy, Llyn Brenig yn Sir Ddinbych a Llanisien yng Nghaerdydd. Unwaith y byddwch chi wedi dysgu'r pethau sylfaenol, os ydych chi'n awyddus i ddatblygu'ch sgiliau a phrynu'ch offer, mae yna hefyd opsiwn i ddefnyddio’ch offer eich hun.

Ar gyfer padlo ar afon, mae Inspire2Adventure yn rhoi gwersi yn nyffryn hyfryd Afon Gwy, Sir Fynwy.

Mae cildraeth bychan a thywodlyd Bae Jackson, Y Barri yn fan gwych i’r rhai sy’n dechrau padlfyrddio am y tro cyntaf, gan ddysgu’r pethau sylfaenol dan oruchwyliaeth Island SUP.

Wedi i chi roi tro arni mae yna ddigonedd o lefydd gwych i badlfyrddio ar yr arfordir trawiadol neu ar ddyfroedd eraill hardd.

Byddwch yn ddiogel!

Mae darganfod yr awyr agored yn hwyl ac yn gyfle anhygoel am antur, ond cofiwch ddarllen am y peryglon a gwneud yn siŵr eich bod wedi paratoi. Cofiwch

Dau berson yn padlfyrddio ar yr Afon Taf â Castell Coch yn y cefndir

Padlfyrddio ar yr Afon Taf

Straeon cysylltiedig