Croeso i'r Cleddau. Mae'r ria hardd hwn (dyffryn a foddwyd a ffurfiwyd ar ddiwedd yr Oes Iâ) yn llwybr masnachu hynafol, sy’n denu ymsefydlwyr o bob rhan o Ewrop. Plannodd y Weinyddiaeth Amddiffyn chwyn dŵr sy’n atal golau ar ei glannau i atal y Luftwaffe rhag canfod lleoliadau a llongau milwrol yn ystod y rhyfel. Golyga hyn mai prin ei fod yn weladwy o'r awyr hyd yn oed heddiw, ac mae’n gudd ymysg coetir trwchus.

Rwyf wrth fy modd gyda'r foryd, ei chilfachau cudd, ei chorsydd llanw a’i bywyd gwyllt. Mae wedi'i amgylchynu gan goetir, ac mae'n llawn pentrefi rhyfeddol, bywyd gwyllt hudolus a lleoedd i'w darganfod mewn canŵ neu gaiac.

I gerddwyr, mae'r Landsker Borderlands Trail yn 60 milltir o hyd ac yn cynnwys mannau hynod o drawiadol ar hyd afon Cleddau, ond hefyd yn plymio’n ddwfn i ddyfroedd mewndirol i darddiad Cleddau Ddu yng ngodre bryniau Mynyddoedd y Preseli, cyn troelli i'r dwyrain i Sir Gaerfyrddin.

Lawrenni

Lleolir Lawrenni ar benrhyn moryd Daugleddau, lle mae'n gwahanu oddi wrth afonydd Cresswell a Caeriw. Dyma un o fy hoff fannau a dyma lle welwch chi fi’n aml yn arnofio'n hamddenol braf ar yr afon yn fy nghwch hwylio. Fe’i enwyd yn un o'r pentrefi gorau yn y DU gan 'The Times', ac mae’n swatio lawr ffyrdd troellog. Peidiwch da chi â chael eich twyllo wrth fwrw golwg arno am y tro cynta - mae yna dipyn yn digwydd yn y pentref bach hwn.

Darnau hen o bren yn sefyll allan o foryd Cleddau
A trail leading through woodland trees,

Coetiroedd hynafol Lawrenni 

Wedi'i hamgylchynu gan goedtir derw hynafol, mae Taith coedwig Lawrenni yn un o'r llwybrau gorau yn Sir Benfro ar gyfer y teulu. Mae cymoedd coediog serth yn arwain i lawr at forfeydd heli a chorsydd. Byddwch yn barod i weld dyfrgwn, adar hirgoes ac ambell forlo sydd wedi crwydro oddi ar eu llwybr.

Mae The Little Retreat yn cynnig llu o weithgareddau i'r teulu, rhowch gynnig ar syllu ar y sêr, gwersi celf, coedwriaeth, nofio gwyllt a phadlfyrddio. Beth am aros yn un o'u pebyll lle gallwch fwynhau golygfeydd o'r sêr? Mae yno hefyd delesgopau, neu beth am ryfeddu ar y lleuad tra’n ymdrochi yn y twba twym? Mae hefyd yn gartref i un o brif wyliau lles ac antur y DU, The Big Retreat Festival.

Cestyll a chrwydro

Gyda dros 600 o gestyll ar hyd a lled y wlad, lle bynnag yr ewch chi ar wyliau yng Nghymru byddwch chi ond rhyw dafliad carreg i ffwrdd o safle hanesyddol. Dau ddewis cyfagos yw Castell Penfro, man geni'r llinach frenhinol Tuduraidd, lle bydd y naws canol oesol yn cydio’n syth wrth i chi droedio drwy'r giatiau, a Chastell Caeriw, â’i naws rhamantus sy’n swatio ym mhen pellaf Afon Caeriw. Ar noson glir, mae'r diffyg llygredd golau yn golygu bod hwn yn fan godidog i syllu ar y sêr. Mae'r pwll melin fel drych yn adlewyrchu sioe olau naturiol drawiadol. Dywedir bod yna ysbrydion yn crwydro’r castell hwn. Gwelwyd ysbryd 'gwraig wen' yn symud o ystafell i ystafell, ac mae epa Barbari yn crwydro'n rheolaidd yn y gerddi (er nad ydw i erioed wedi aros yn ddigon hwyr i'w weld!). Mae Melin heli Caeriw hefyd yn lle gwych i ddod â'ch bwced a'ch rhwyd. Adeg llanw uchel, mae wal y felin yn llawn o grancod a bywyd morol. Cofiwch wneud yn siŵr eich bod chi’n dychwelyd unrhyw greaduriaid yn ôl i'r dŵr yn ofalus.

Golygfa o gastell Caeriw ger aber Cleddau gyda chymylau yn adlewyrchu yn  yr afon.

Un o hoff bethau’r teulu ar ein rhestr yw Llwybr Cresswell. Llwybr beicio ardderchog sy'n dechrau yn y castell ac yn troelli trwy gilfach gysglyd Cei Cresswell. Trwy gilfachau llanw, morfeydd heli a llanerch o löynnod byw.

Os ydy’r teulu am fan tawelach, ewch i Gastell Cas-wis. Bellach yn ddim mwy nag adfail, dyma un o'r ychydig gestyll tomen a beili sy'n weddill yng Nghymru. Adeiladwyd gan gyfaneddwr Ffleminaidd cynnar o’r enw Wizo. Os am daith hir ar y beic, dilynwch Daith Wizo sy’n ymdroelli drwy ganghennau dwyreiniol afon Cleddau, ac yn pasio tri chastell gan gynnwys Castell a gerddi Picton. Llwybr teuluol hyfryd arall i’w archwilio yw Melin Blackpool ar estyniad llanw Cleddau Ddu.

Beiciwr mynydd mewn top oren gyda helmed ddu yn beicio trwy goedwig.
Dau berson yn reidio beic ar ffordd ger yr arfordir.

Beicio mynydd o amgylch y Cleddau

Archwilio’r arfordir

Ychydig i'r de o'r afon, fe welwch chi lwybr troed yr arfordir, sy'n ymestyn am 186 milltir. Ron i'n arfer byw gerllaw yn Ystagbwll, a dwi wir yn argymell y Stackpole Inn am groeso cynnes a bwyd o’r safon uchaf, ond cofiwch archebu ymlaen llaw.

Ewch i Byllau Lili Bosherston, sy’n llawn o weision neidr, dyfrgwn a llwyth o adar hirgoes. Yna ewch ymlaen dros y sarn gan gyrraedd harddwch Traeth De Aberllydan. Lle perffaith am bicnic i'r teulu. Ar ganol y llanw, mae crater glas enfawr i’r dwyrain yn gorlifo, ac yn cael ei adnabod yn lleol fel y 'Crater Glas'. Daliwch ati i'r dwyrain ar hyd y clogwyni i ddarganfod yr enwog Bae Barafundle, cyn cael hoe fach yn Nghaffi’r Boathouse ar Gei Ystagbwll. Am yn ôl dros y twyni tywod tuag at goedtiroedd Ystagbwll, ac fe fyddwch yn siwr o weld un o’r tair 'carreg sy’n dawnsio'. Mewn llên gwerin lleol, y gred yw bod y diafol yn galw'r graig unwaith y flwyddyn (ynghyd â dwy arall ger Fferm Ystagbwll a Sampson Cross), a dywedir bod y creigiau'n dawnsio'n hir hyd berfeddion nos i sŵn ffliwt y diafol.

Traeth tywodlyd llydan.
Person ar ben clogwyn, yn eistedd ar fainc yn edrych allan ar draws traeth i'r môr, gyda chi wrth eu hymyl.

Traeth De Aberllydan a Chei Stagbwll

Gallwch hefyd ddod o hyd i draeth bendigedig i’r teulu yn Freshwater East, sy’n hawdd i’w gyrraedd gyda thoiledau a faniau hufen iâ. Os ydych chi’n chwilio am ddiwrnod allan i'r teulu, teithiwch ar hyd yr arfordir a’i sgrialu hi lawr i Fae Bullslaughter. Un o'r mannau gorau yn Sir Benfro ar gyfer broc môr a hel trysor. Mae'r cerrynt yn gryf yma felly peidiwch â mentro i'r dŵr.

Os ydych chi’n ysu am nosweithiau dan y sêr, yna ewch i Faes parcio De Aberllydan. Yr unig le yn Sir Benfro lle gallwch gael golwg 360° ar y Llwybr Llaethog. Sylwch ar yr ystlum Pedol Mwyaf prin – mae Stagbwll gerllaw yn gartref i nythfa fwyaf Cymru. Lle ardderchog arall ar gyfer nosweithiau dan y sêr yw Capel Sant Gofan sydd gerllaw - cell feudwy fechan wedi'i hadeiladu yn y clogwyn. Cyfrwch y camau ar y ffordd lawr ac eto ar y ffordd i fyny – yn ôl pob sôn dyw’r nifer byth yr un fath!

Straeon cysylltiedig