Llefydd hygyrch i aros yng Ngorllewin Cymru

Mae Gorllewin Cymru yn hygyrch i bob ymwelydd. Mae yna ddewis enfawr o lefydd i aros gan gynnwys bythynnod gwledig oddi ar y ffordd, gwely a brecwast bwtîc a gwestai cyfoes twt sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a’r rhai sydd â symudedd cyfyngedig. Beth bynnag byddwch yn ei wneud yng Ngorllewin Cymru, mae llety at ddant pob ymwelydd.

Am fwy o ysbrydoliaeth ar bethau i'w gwneud yn ystod eich arhosiad, edrychwch ar atyniadau hygyrch Gorllewin Cymru.

Bythynnod hygyrch yng Ngorllewin Cymru

Ash Tree Lodge a Stangwrach Cottage

Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin SA32 7TG

  • Ystafelloedd gwely ar y llawr gwaelod ac ystafelloedd ymolchi hygyrch ym mhob bwthyn

Wedi'i leoli'n agos at Gaerfyrddin, mae'r pâr yma o fythynnod hunanarlwyo wedi'u dylunio'n arbennig ar gyfer gwyliau hygyrch. Mae Ash Tree Lodge yn cysgu hyd at wyth o westeion a Stangwrach Cottage yn cysgu hyd at chwech, a gall grwpiau mwy archebu'r ddau gyda'i gilydd. Mae gan bob bwthyn ystafell wely hygyrch ac ystafell wlyb ar y llawr gwaelod, sy'n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai â symudedd cyfyngedig. 

Ysgubor

Tretio Cottages, West Farm, Tretio, Tyddewi, Sir Benfro SA62 6DE

  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod gydag ystafell wlyb hygyrch i gadeiriau olwyn

Wedi'i leoli'n agos at ddinas fach hudolus Tyddewi mae Ysgubor hygyrch Tretio Cottages yn cysgu pedwar o westeion. Mae ramp hawdd i mewn i'r eiddo a drysau llydan drwyddi draw, ynghyd ag ystafell wely ar y llawr gwaelod ac ystafell ymolchi hygyrch gyda chanllawiau gafael a chawod sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn. 

 

Bythynnod Gwyliau Blaen Cedi

Blue Anchor, Penclawdd, Abertawe SA4 3LX

  • Bwthyn Stabl Lancelot yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn

Mae Bythynnod Gwyliau Blaen Cedi mewn lleoliad hardd yng Ngogledd Gŵyr. Yn cysgu 2-4 o bobl mewn ystafell ddwbl en-suite a gwely soffa, mae Stabl Lancelot ar un lefel ac yn berffaith ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae mynediad hawdd drwy’r bwthyn ac i’r patio, lle gallwch fwynhau golygfeydd hyfryd dros y caeau tuag at y môr. Ewch i wefan am ragor o wybodaeth.

 

Talog Country Retreat

Talog Country Retreat, Penrhiwbeili, Talog, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA33 6PE

Tri bwthyn 5 seren - Starlight, Moonlight a Shooting Star. Mae gan bob un erddi yn y cefn, gyda mannau eistedd allan a dodrefn gardd ar dir 30 erw gyda choetir. Mae gan bob un:

  • parcio wrth ymyl pob bwthyn
  • mynediad gwastad i'r bwthyn gyda rampiau
  • Ystafell wely mawr ar y llawr gwaelod
  • ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod gyda chawod a drws yn agor allan
  • cynteddau llydan
  • drysau hygyrch trwy rampiau

Mae'r bythynnod wedi’u lleoli ar 15 erw o dir gyda golygfeydd hyfryd o gefn gwlad, dim ond 20 munud o ganol tref Caerfyrddin  Mae yna goetiroedd i'w mwynhau a nant yn rhedeg trwy'r safle. Mwynhewch sêr yr awyr dywyll, tybiau poeth Jacuzzi preifat a choginio pizza yn yr awyr agored. Mae'r bythynnod wedi’u hadnewyddu i safon uchel yn 2021 ac mae ganddynt lwybrau mynediad cadeiriau olwyn o amgylch y safle. Mae gan y bythynnod ofod agored mawr gyda theledu ac ystafelloedd gwely mawr ar y llawr gwaelod. Darganfyddwch fwy ar dudalen Airbnb Talog Country Retreat.

Byngalo Gwyliau Hygyrch Bramwood

Pitton, Rhosili, Abertawe SA3 1PH

  • Wedi'i addasu'n llawn ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai â symudedd cyfyngedig
  • Ystafell wely hygyrch wedi'i haddasu gydag ystafell ymolchi en-suite hygyrch
  • Ystod eang o offer gan gynnwys teclyn codi tracio ar y nenfwd, gwely proffilio trydan a sling rhwyll bath cyffredinol

Wedi'i amgylchynu gan erddi preifat wedi'u tirlunio ar Benrhyn Gŵyr, mae Bramwood yn cynnig llety hunanarlwyo hygyrch i hyd at naw o westeion. Mae lloriau mynediad gwastad ar draws y llawr gwaelod cyfan a detholiad mawr o offer arbenigol a gynlluniwyd i helpu defnyddwyr cadeiriau olwyn ac ymwelwyr â symudedd cyfyngedig i fwynhau eu harhosiad. 

 

Gwestai a Gwely a Brecwast hygyrch yng Ngorllewin Cymru

Twr y Felin

Ffordd Caerfai, Tyddewi, Sir Benfro SA62 6QT

  • Ystafell wely wedi'i haddasu gydag ystafell wlyb hygyrch
  • Gerddi a mannau cymunedol sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai â symudedd cyfyngedig
  • Croeso i gŵn cymorth

Mae Twr y Felin yn gyn-felin wynt a gwesty celf gyfoes cyntaf Cymru. Wedi’i leoli yn ninas leiaf Prydain, Tyddewi, mae’n cynnwys dyluniad chwaethus drwyddi draw ac mae’n gartref i dros 100 o ddarnau o gelf wedi’u comisiynu yn arbennig. Mae ystafell wlyb hygyrch ar wahân yn ystafell Porthclais sydd wedi'i haddasu, sydd ar y llawr gwaelod. Mae prif fannau'r gwesty ar un llawr a'r gerddi yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a phobl â symudedd cyfyngedig.

 

Tu mewn i ystafell wely hygyrch - gwely mawr a digon o le
Y tu mewn i fwyty gwesty gyda chelf ar y waliau

Ystafell wely hygyrch Porthclais ac ystafell fwyta â chelf yng Ngwesty Twr y Felin, Tyddewi

Yr Ysgubor

Fferm Ty'n Cellar, Stryd y Dŵr, Margam SA13 2PD

  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod gydag ystafell ymolchi hygyrch i gadeiriau olwyn

Yn ysgubor restredig Gradd II yn wreiddiol, mae Ty'n Cellar wedi'i hadfer yn ofalus gyda nodweddion hanesyddol yn Wely a Brecwast llwyddiannus. Mae yna ystafell wely ar y llawr gwaelod gydag ystafell wlyb wedi'i haddasu, sy'n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn ac ymwelwyr â symudedd cyfyngedig. Mae'r patio a'r maes parcio hefyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn. 

The Plough

Rhosmaen, Llandeilo SA19 6NP

  • Dwy ystafell wely hygyrch gyda chawodydd gwastad a rheiliau bachu
  • Sedd gawod ac addaswyr uchder i sedd toiled ar gael ar gais
  • Lolfa cwbl hygyrch ar y llawr gwaelod, bar a mannau cyhoeddus

Yn Nyffryn Tywi, mae gwesty bwtîc The Plough yn cynnig dwy ystafell wely hyfryd sy'n addas ar gyfer yr anabl gyda gwelyau maint brenhines, ystafelloedd gwlyb chwaethus a mannau eistedd cyfforddus. Mae gan un ystafell falconi hygyrch hefyd i gadeiriau olwyn gyda golygfeydd hyfryd dros y wlad o amgylch. 

Canaston Oaks

Canaston Bridge, Arberth, Sir Benfro SA678DE

  • Pob ystafell ar y llawr gwaelod gyda drysau llydan hygyrch
  • Mae dwy ystafell yn cynnwys ystafelloedd gwlyb sy'n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn

Wedi'i drawsnewid o gasgliad o adeiladau fferm traddodiadol yn agos at y dref gosmopolitan, Aberth, mae Canaston Oaks yn Wely a Brecwast bwtîc ecogyfeillgar sy'n croesawu cŵn ac mae wedi'i leoli mewn gerddi cwrt wedi'u tirlunio'n hyfryd. Mae gan bob un o’r deg ystafell wely en-suite ar y llawr gwaelod ddrysau wedi’u lledu, gyda dwy ystafell yn cynnig ystafelloedd gwlyb moethus sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn. 

Y tu allan i grŵp o fyngalos gwyliau wedi'u paentio'n wyn.
Ystafell gefell twin olau ac agored.

Canaston Oaks, Arberth, Sir Benfro

Gwesty Fferm Llanerchindda

Cynghordy, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin SA20 0NB

  • Un ystafell wely â gwely dwbl wedi'i haddasu gydag ystafell gawod sy'n addas ar gyfer ymwelwyr â symudedd cyfyngedig
  • Un ystafell wely â dau wely wedi'i haddasu gydag ystafell gawod sy'n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
  • Croeso i gŵn cymorth
  • Bwyty, lolfa, bar ac ystafell wydr i gyd ar y llawr gwaelod gwastad

Wedi'i leoli mewn man gwledig ychydig filltiroedd o dref farchnad Llanymddyfri, mae Fferm Llanerchindda yn cynnig llety cyfforddus i'r anabl yng nghanol Gorllewin Cymru. Bydd ymwelwyr yn dod o hyd i ddigonedd o nodweddion hygyrch drwyddi draw, gan gynnwys mynediad i deras mawr gyda golygfeydd godidog dros y wlad o amgylch.

Gwely dwbl mawr mewn ystafell gyda drws patio.
Ystafell wlyb hygyrch gyda chanllawiau bachu, toiled, basn a chawod.

Gwesty Fferm Llanerchindda, Cynghordy, Sir Gaerfyrddin

Straeon cysylltiedig