Rhwng Ceredigion a Sir Benfro saif tref harbwr hanesyddol ar lannau'r Teifi. Hanner ffordd rhwng Aberaeron i'r gogledd ac Abergwaun i'r de mae’r dref farchnad sy’n falch o ddatgan mai dyma fan geni’r Eisteddfod - Aberteifi. 

Unwaith yn borthladd pwysig ar gyfer masnachu ar draws yr Iwerydd, mae heddiw yn dref fodern ac egnïol, yn llawn orielau, siopau a chaffis annibynnol a sîn greadigol sy’n ffynnu.

Canol tref Aberteifi.
Siopau yn Aberteifi
Canol tref Aberteifi. Adeilad cerrig gyda fflag y ddraig goch arni.

Aberteifi

Castell Aberteifi

Dan nawdd yr Arglwydd Rhys yn 1176, Castell Aberteifi oedd lleoliad yr Eisteddfod gyntaf erioed i gael ei chofnodi. Heddiw, mae holl haenau 900 mlynedd o hanes (a datblygiad gwerth £12 miliwn) yn cynnig lleoliadau amrywiol ar gyfer cynnal digwyddiadau - o olion y castell i’r Plas Sioraidd a’r gerddi rhestredig Gradd II. 

Ynghyd ag arddangosfeydd rhyngweithiol a theithiau tywys, mae sesiynau crefft wythnosol i blant a chyfle i wisgo fel morwyn, marchog neu fonedd Sioraidd. Mae llwybr yr Eisteddfod yn mynd trwy’r gerddi, ac mae gemau bwrdd anferthol i’w chwarae ar hyd y daith. 

Yn yr haf mae lawntiau'r castell yn gartref i ystod eang o berfformiadau, o gerddoriaeth a chomedi i ddramâu a dawns. Mae llety gwely a brecwast a llety hunan-ddarpar moethus ar y safle hefyd, yn ogystal â bwyty Cegin 1176 sy’n gweini cynnyrch lleol i frecwast a chinio.

Castell ger afon.

Castell Aberteifi

Pictwr o dref

Gyferbyn â’r Castell, mae Oriel Canfas yn arddangos gwaith arlunwyr cyfoes fel Meinir Mathias a Marian Haf, ac mewn stryd tu ôl i’r castell, fe gewch chi hyd i oriel a siop Custom House.

Yn Stiwdio 3, mae oriel a gweithdy lle mae cyrsiau crefft o bob math yn cael eu cynnal gan Made It In Wales - o greu gemwaith i ysgrifennu creadigol. 

Siop Gymraeg eiconig y dref yw Awen Teifi. Yn ogystal â llyfrau ceir adran deganau eang ac oriel sy’n gartref i waith nifer o artistiaid lleol.  

Neuadd Tref a Neuadd Marchnad Aberteifi oedd adeilad dinesig cyntaf Prydain yn yr arddull Gothig Modern, ac mae’n werth ei weld.

Bwyd a Diod

Fe gewch un o brydau brecwast gorau Prydain (y 7fed gorau ym Mhrydain i fod yn hollol gywir) yn Aberteifi yn ôl The Guardian. Diolch i gig moch Dewi James a’i Gwmni, pwdin gwaed Myrddin Heritage a Chaws Teifi (ac ychydig o ysbrydoliaeth gan un o fwytai bwyd cyflym mwyaf y byd) mae Crwst yn gweini’r McDoughnut gorau yng Nghymru! 

Mae’r dref yn ffodus iawn o gael ail fecws safonol hefyd. Mae Bara Menyn yn creu bara surdoes a theisenni arbennig o flawd maen organig.

Mae hen adeilad Capel Gobaith y dref wedi gweld sawl trawsnewidiad. Yn fwyaf nodedig fel y lle yr argraffwyd y papur newydd lleol y Tivyside am 30 mlynedd, erbyn hyn platiau bach sydd yn Yr Hen Printworks, nid platiau print. Mae’r bwyty teuluol wedi eu canmol yn The Good Food Guide a The Michellin Guide ac wedi derbyn Bib Gourmand Michellin - ‘Their strapline is ‘Drink, Dine, Unwind’ and you can easily do all three without breaking the bank.’

Ychwanegiad arall cyffrous i sîn fwyd annibynnol Aberteifi yw Boys and Girls ar hen safle El Salsa. Mae’r bwyty bychan yn arbenigo mewn byrgyrs a gwin naturiol, organig.

Sadwrn Barlys

Un o ddyddiadau pwysicaf calendr Aberteifi yw Dydd Sadwrn Barlys. Credir fod traddodiad Dydd Sadwrn Barlys wedi cychwyn yn 1871, a chaiff ei gynnal ar benwythnos olaf Ebrill bob blwyddyn.

Dathliad y gymuned amaethyddol i nodi diwedd y tymor hau cnydau oedd Dydd Sadwrn Barlys. Roedd hefyd yn gyfle i hurio gweision fferm ac i berchnogion ceffylau ddangos eu cobiau Cymreig hardd. 

Mae trigolion lleol ac ymwelwyr yn parhau i heidio draw yn flynyddol i weld pob math o geffylau a merlod yn gorymdeithio - o geffylau gwedd i Shetland, a Chobiau, wrth gwrs. Mae tractorau a pheirannau o bob math yn llenwi’r strydoedd a lliw hefyd - dathliad o fywyd cefn gwlad Cymreig ar ei orau. 

Theatrau Teifi

Gyda theatr, sinema, oriel a chaffi o dan yr un to, mae Theatr Mwldan yn llwyfannu rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau celfyddydol drwy gydol y flwyddyn. 

Theatr Mwldan (ac Eglwys y Santes Fair) yw cartref gŵyl gerddoriaeth Lleisiau Eraill pob Tachwedd. Gŵyl gyda’i wreiddiau yn Dingle, Iwerddon, yw Other Voices / Lleisiau Eraill sy’n dathlu cerddoriaeth, diwylliant ac iaith. Mae’r ŵyl yn creu Llwybr Cerdd o amgylch y dref gyda digwyddiadau mewn lleoliadau llai, o gaffis i galeirau, yn creu awyrgylch hynod o arbennig.

Mae’r Mwldan hefyd yn un o leoliadau Gŵyl Fawr Aberteifi, wythnos o gyngherddau, cystadlaethau, a digwyddiadau celfyddydol.

Gerllaw, mae Theatr y Byd Bach, sy’n gartref i'r cwmni theatr bypedau o'r un enw. Maent yn cynnal perfformiadau cyson gyda llawer ohonynt yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, gan gynnwys sioeau syrcas a gorymdeithiau llusern hudolus. 

Dwy galon wedi taflunio ar gastell gyda'r geiriau Other Voices / Lleisiau Eraill.

Lleisiau Eraill, Aberteifi

Datblygu Sîn Gerddoriaeth

Mae’n amhosibl trafod Aberteifi heb sôn am ddylanwadau enfawr sîn gerddoriaeth Gymreig y dref. Ffurfiwyd Datblygu mewn ysgol yn Aberteifi yn 1982 gan fynd ymlaen i ysbrydoli cenedlaethau o gerddorion. Tua’r un cyfnod sefydlwyd Recordiau Fflach gan y brodyr Richard ac Wyn Jones, o’r grŵp Ail Symudiad, ac yma hefyd daeth y band arbrofol Jess at ei gilydd yn yr 80au hwyr. 

Heddiw, mae’r Selar yn parhau i ddatblygu’r sîn yng Nghymru - dyma leoliad gigs annibynnol sy’n angerddol am gerddoriaeth. Mae criw gweithgar Gŵyl Crug Mawr yn cynnal nosweithiau yma, ac mewn sawl lleoliad lleol arall, cadwch lygaid ar eu tudalen Facebook am y newyddion diweddaraf.

Afon Teifi

Mae'r Teifi yn un o brif afonydd Cymru - yn llifo o’i tharddle yn Llynnoedd Teifi ym Mynyddoedd Cambria at y môr yn Aberteifi. Mae’r afon yn lle gwych i bysgota â phlu am frithyllod, eogiaid a sewiniaid, ac mae dyfroedd afon Teifi yn lle delfrydol am antur. Mae A Bay to Remember yn cynnig tripiau awr, awr a hanner a dwy awr mewn cwch RIB. Cewch ryfeddu ar fywyd gwyllt Bae Ceredigion sy'n cynnwys dolffiniaid, morloi, llamhidyddion a chrwbanod môr.

Tu hwnt i Aberteifi

Pum munud tua’r gorllewin fe ddowch i Landudoch. Mae Llwybr Arfordir Penfro yn cychwyn yma, ger adfeilion Abaty Llandudoch. Drws nesaf saif y Cartws, gydag amgueddfa ryngweithiol a chasgliad o gerrig Cristnogol hynafol. Mae yna gaffi gwych yma hefyd, gyda chrancod Sir Benfro a Chaws Cenarth ar y fwydlen. Ar foreau Mawrth, mae yna farchnad wythnosol yn y pentref, yn gwerthu gwinoedd lleol, crefftau coed a charcuterie. 

Mae’r Hydd Gwyn yn fwy na thafarn, mae’n un o dafarndai cymunedol Cymru ac yn fan cwrdd i deuluoedd, cymdogion ac ymwelwyr. Mae yma gwrw da a bwyd lleol, rhesymol, a’r cyfan yn ceisio hybu’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig. 

Pum munud ymhellach ac rydych ar draeth Baner Las Poppit. Mae chwaraeon dŵr yn boblogaidd yma, ond mae digon o le i ymlacio hefyd. 

Deg munud i’r de o'r dref, mae Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru ar fryn uwchlaw’r Teifi. Mae llwybrau natur ar gyfer cerddwyr, beicwyr a theuluoedd a gweithgareddau rheolaidd fel celf a chrefft, chwilota mewn pyllau, a helfeydd bwystfilod bach. Mwynhewch ginio yn yr awyr agored yng nghaffi Tŷ Gwydr.

Adeilad pren a gwydr gyda blodau o'i flaen.
A ruined stone abbey with varying height walls.

Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru ac Abaty Llandudoch

Aros yn Aberteifi

Awydd aros dros nos? Mae gan fforest sawl opsiwn. Ar lannau’r Teifi mae’r Albion Aberteifi yn fwyty a gwesty bwtîc moethus sydd ond yn addas ar gyfer oedolion - neu ar gyfer teuluoedd mae opsiynau hunan arlwyo yn y Granary Lofts. Dim ond ychydig o filltiroedd i lawr y ffordd mae fferm fforest hefyd - 200 erw o dir a choetir gyda llety at ddant pawb - o babelli moethus i ffermdai clud. Mae tafarn bach Y Bwthyn ar y safle hefyd a sawna pren yn y goedwig.

Tu fewn i ystafell wely mewn gwesty. mae waliau pren a charthen Gymreig ar y gwely.

Albion, Aberteifi

Straeon cysylltiedig