Ymgolli yn y dyfroedd

Nawr, yn fwy nag erioed, mae menywod yn manteisio ar awyr agored ardderchog Cymru. Mae Sian Sykes yn rhedeg academi bwrdd-rwyfo ar eich traed, Psyched Paddleboarding, ar Ynys Môn. Meddai hi: “Dwi’n gweld mwy a mwy o ferched yn ceisio cyswllt â’r awyr agored er mwyn gosod her feddyliol a chorfforol iddyn nhw’u hunain – ac yn fwy na dim, i roi cynnig arni.”

Gellir dod o hyd i enghraifft ragorol yn Sir Benfro, ble mae’r nofwyr dŵr oer, y Bluetits Chill Swimmers yn gwneud yn fawr o’r môr, llynnoedd a phyllau gydol y flwyddyn. Mae Sarah Mullis wedi bod yn aelod ers pedair blynedd. Meddai hi: “Ro’n i’n arfer cysylltu’r awyr agored â dynion cystadleuol mewn lycra, ond mae nofio dŵr oer wedi newid hynny i mi. Mae gan y menywod y byddwn ni’n nofio gyda nhw bob math o bethau’n digwydd yn eu bywydau. Ond pan fyddwn ni’n dod at ein gilydd, mae pob problem fel pe bai’n teimlo ychydig bach yn llai.”

Ymhlith posibiliadau eraill o gwmpas arfordir Cymru mae arfordira, caiacio yn y môr a syrffio, ac mae’r awdur antur Phoebe Smith yn awyddus i annog merched i gamu y tu hwnt i’w canllath cysurus. ‘Y peth gorau am yr awyr agored yw mai dyma’r un peth sy’n gwneud pawb yn gyfartal,” meddai hi. “Does gan y creigiau ddim ots os ydych chi’n ddyn neu’n fenyw, yn ifanc neu’n hen, yn gyfoethog neu’n dlawd.”

Swimmers walking into the sea at Harlech
Four people paddle boarding at Portmeirion
Nofwyr yn Harlech a rhwyf-fyrddwyr ym Mhortmeirion.

Cerdded yn ôl at hapusrwydd

Mae manteisio cerdded yn ddi-ben-draw – yn enwedig fel gweithgaredd cymdeithasol. “Mae cydgerdded yn ein galluogi i agor ein hunain, cryfhau perthynas sydd eisoes yn bodoli a chreu cyfeillgarwch newydd,” meddai Jacky Cross o Meirionnydd Ramblers. “Mae’n dod â chwerthin, ysbrydoliaeth ac antur yn ei sgil.”

Sioned Humphreys yw’r swyddog marchnata ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru, sy’n 870 milltir o hyd. Meddai hi: “Rydym ni’n gweld cymaint o gyplau a grwpiau o ffrindiau’n cerdded gyda’i gilydd. Dyma’r ffordd ddelfrydol o hybu llesiant a dianc rhag pwysau bywyd beunyddiol.”

Ymhlith llwybrau hirion eraill Cymru mae Llwybr Llechi Eryri, sy’n mynd â chi i rai o rannau mwyaf diarffordd a hardd y Parc Cenedlaethol, a llwybr heriol Clawdd Offa ar hyd y ffin â Lloegr. Mae Ffordd Cymru i’w ddilyn hefyd – tri llwybr sy’n arwain ymwelwyr ar hyd arfordir y gorllewin, ar draws gogledd Cymru a thrwy ganol perfeddwlad fynyddig ein gwlad.

Cerdded wrth Pen Strwmbl, Sir Benfro - at y goleudy.
Couple walking near Gronant Dunes
A man and a woman walking along the coast path with the sea on the left hand side
Pen Strwmbwl, Sir Benfro a Phorth Ysgo, Pen Llŷn.

Dal ton llesiant

Gyda thonnau gwyllt yr Iwerydd a thraethau llydan, euraidd, mae Cymru ymhlith y mannau gorau yn Ewrop i ddysgu syrffio – ac wrth wneud, fe allech ddysgu llawer mwy na sut i reidio ton.

Yn ôl Tim Woodman, Athro seicoleg perfformiad ym Mhrifysgol Bangor: “Gall dysgu syrffio helpu pobl i ddatblygu hunan-barch, am eu bod nhw’n dysgu addasu i amgylchedd sy’n newid yn barhaus. Mae’n hyfforddiant rhagorol ar gyfer bywyd.”

Gogledd Cymru yw cartref llyn syrffio artiffisial cyntaf Prydain, Adventure Parc Snowdonia. Mae rheolwr gyfarwyddwr yr atyniad, Andy Ainscough, yn lladmerydd arall dros fanteision meddyliol y gamp. Meddai ef: “Drwy ddal ati a mentro i ysgwyddo heriau mwy o faint damaid ar y tro – tonnau mwy grymus, er enghraifft – rydym ni’n graddol ymestyn ein hymdeimlad o’r hyn y gallwn ei gyflawni o osod ein meddwl ar rywbeth.” 

Man jumping from a rock into the sea while coasteering
Pete Jones Surfing Llangennith, West Wales
Sir Benfro, cartref gwreiddiol arfordira, a syrffio yn Llangennydd, Gŵyr.

Cyffro sy’n para byth

Os yw’n well gennych chi fwynhau’r awyr agored gyda chwistrelliad o adrenalin, mae’n annhebygol y cewch eich siomi yng Nghymru. Beth am arnofio fry uwch chwarel lechi enfawr ar weiren sip gyflymaf y byd, torri drwy drobyllau ar gwch cyflym neu dreulio’r nos ar babell ‘portaledge’ yn hongiad wrth raff oddi ar glogwyn uwchlaw’r môr?

Nid dim ond y wefr sy’n cyfri. Yn ôl Andrew Hudson, cyfarwyddwr masnachol Zip World: “Yn aml, bydd pobl sy’n dod yma am y tro cyntaf yn wedi methu ag ystyried yr effaith y bydd yn ei gael arnyn nhw. Mae hwylio weiren sip yn un o’r gweithgareddau adrenalin mwyaf hygyrch – gall pawb gymryd rhan. Ond pan fyddan nhw’n gwneud, byddan nhw’n llithro drosodd i weld bywyd mewn ffordd hollol newydd.”

Mae Phil Scott, cyfarwyddwr cwmni teithiau cychod RibRide yn Ynys Môn yn cytuno. “Pan fydd ein cwsmeriaid yn dod ar ein teithiau cwch, mae pob un o’u synhwyrau’n cael eu canolbwyntio ar y profiad yn unig – y cyflymder, y gwynt a’r golygfeydd syfrdanol,” meddai ef. “Mae’n cymryd tipyn o amser i ddychwelyd i normal ar ôl hynny, ac mae’r ymdeimlad o fod wedi cyflawni rhywbeth gwirioneddol ardderchog yn para yn y cof am amser maith.”

Four people going head first down a zip wire
ZipWorld Velocity, Bethesda

Mwynhau antur ddanteithiol

Mae llawer o ymwelwyr â Chymru’n awyddus i archwilio’r cyswllt rhwng ein bwyd a’r dirwedd ble caiff ei gynhyrchu. Fwyfwy, mae’n ymwneud â gwybod o ble daw’r cynhwysion gorau a mwyaf ffres – a hyd yn oed fynd allan i fforio amdanynt.

Mae Sian Tucker a’i phartner James Lynch yn rhedeg fforest, ‘gwesty awyr-agored’ 200-erw yng Ngheredigion, gorllewin Cymru, sy’n cynnig llety ecogyfeillgar. Meddai hi: “Rydym ni mor ffodus o fyw mewn ardal o’r fath, fel cymaint o gefn gwlad Cymru, ble mae ansawdd y cynnyrch, dan ddylanwad ffermio a physgota ar raddfa fechan, yn ail i ddim yn y byd. Pleser o’r mwyaf yw tyfu a bwyta eich bwyd eich hun, yn ogystal â fforio a hel bwyd o’r awyr agored.” 

Glamping dome at Fforest Farm
Diners at Aberporth
Llety cromen Onsen a chwsmeriaid yn mwynhau eu swper yn Fforest, Ceredigion

Related stories