Ewch ymhell o bobman

Gogoniant y Llwybr Cenedlaethol hwn yw’r mannau diarffordd a welwch chi ar eich taith. Mae’n cymryd naw diwrnod i gerdded o un pen o’r llwybr i’r llall, gan ymweld â safleoedd o bwys mawr o ran hanes Cymru ar y ffordd. Gallwch ddewis cychwyn eich taith yn y Trallwng, Trefyclo neu Fachynlleth, a mynd ymlaen i wylltiroedd tawel y Canolbarth.

Wrth gerdded fe welwch chi ffermdir ffrwythlon, rhostiroedd eang a bryniau llawn grug, yn ogystal â golygfeydd godidog tuag at Gader Idris a Phumlumon. Mae trefi bach fel Llanidloes neu bentrefi hyfryd fel Llanbadarn Fynydd i chi aros dros nos, ond gallwch gerdded am filltiroedd heb weld yr un copa walltog, oni bai am ambell i ffermwr wrth ei waith. Fyddwch chi ddim yn unig yng nghwmni’r barcutiaid, yr hebogiaid a’r bwncathod. Hwyrach y daw wiwer goch i ddweud helô, hefyd.

Torrwch y daith yn ei hanner gan ddefnyddio Machynlleth fel dechrau neu ben draw’r daith. Mae prif orsafoedd rheilffordd yn y Trallwng a Threfyclo, dau ben arall y llwybr, neu gallwch ddal bws. Dyma dair gwahanol ffordd i chi ddod yn gyfarwydd â’r llwybr.

Hiker standing on a mountain overlooking a lake
Llyn Cau a Chader Idris

O Fachynlleth i Lanbrynmair, 18.2 milltir

Bydd y diwrnod yn hir ond fe gewch chi daith werth chweil. Fe welwch olygfeydd mawreddog dros Fro Dyfi at Gader Idris, ac o Fynydd y Berwyn sy’n codi uwchlaw caeau’r ffermydd. Mae’r llwybr yn un gwastad hefyd, a gallwch alw i mewn i’r dafarn yng Nglantwymyn am ddiod neu damaid i’w fwyta ar hanner y ffordd. Pan gyrhaeddwch chi ben eich taith bydd digon o fysus i fynd â chi’n ôl adref o Lanbrynmair.

Image of the Owain Glyndŵr Centre sign, with the Owain Glyndŵr flag waving in the background
Canolfan Owain Glyndŵr, Machynlleth

Cylch Trefyclo, 12 milltir

Wrth dreulio diwrnod yn cerdded ar hyd y llwybr hwn fe gewch flas ar yr eangderau diffaith a’r golygfeydd braf dros gaeau ffermydd a’r rhosydd. Nid yw’r eangderau hynny’n gwbl ddiffaith, cofiwch – mae Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed yn gofalu am yr ardal hon, felly gallwch ddisgwyl pob math o greaduriaid bach i gadw cwmni i chi ar y ffordd.

Abaty Cwm Hir

Adeiladwyd Abaty Cwm Hir yn y 12fed ganrif, ond daeth Owain Glyndŵr i losgi’r abaty Sistersaidd i’r llawr ar ôl clywed bod y mynachod yn bleidiol i’r Saeson. Mae’r adfeilion sydd ar ôl yn ychwanegu rhyw naws ramantus i’r golygfeydd braf o amgylch y pentref. Ewch i weld beddfaen Llywelyn, Ein Llyw Olaf cyn anelu at Lwybr Glyndŵr i fynd am dro bach drwy goedwigoedd derw a dringo ar hyd y creigiau wrth i’r barcutiaid cochion hedfan uwchben. 

O Lanidloes i Fachynlleth, 27 milltir

Fe gewch chi benwythnos gwych yn cerdded ar hyd y rhan wyllt yma o’r llwybr. Mae’r daith yn anhygoel i lawr o Lanidloes i Lyn Clywedog, cronfa ddŵr gyda’r argae concrit mwyaf ym Mhrydain. Wedyn, trowch eich golygon tua’r bryniau, gan ddringo o’r godreon gwyrddion i rostir gwyllt Mynyddoedd Cambria, gwneud eich ffordd o amgylch Llyn Glaslyn ac i fyny at gopa Moel Fadian, lle cewch chi olygfeydd hyfryd o Gwm Dulas. Gallwch ymlacio wedi hynny a cherdded i lawr yr allt yr holl ffordd. Os yw’ch amser yn brin, mae’n werth chweil treulio diwrnod yn cerdded o amgylch yr ardal hefyd.

Signpost of Glyndŵr's Way with Clywedog Reservoir and hills in the background
Llyn Clywedog a Llwybr Glyndŵr