Mae rhaeadrau Cymru yn rhyfeddol: maen nhw'n hudol brydferth, yn llawn asbri, ac yn gyforiog o blanhigion ffrwythlon a hen chwedlau hud a lledrith. Pan ddaw cip o'u rhuthr dros glogwyni drwy frigau'r coed, mae mynd am dro bach yn troi’n rhywbeth go arbennig.

Rhaeadr uchaf Cymru

I gyrraedd y rhaeadr uchaf yng Nghymru, anelwch at Afon Rhaeadr ger Llanrhaeadr yn y Berwyn, nid nepell o Glawdd Offa. Mae Pistyll Rhaeadr yn disgyn am 80 metr, yn bellach na’r un rhaeadr arall ym Mhrydain - a llawer yn bellach na Rhaeadr Niagara. Mae’n lle rhyfeddol bob amser, ac yn llawn hud a lledrith ar yr adegau prin pan mae’r dŵr yn rhewi. Gallwch gerdded o’r maes parcio i waelod y rhaeadr mewn dim o dro, a dringo i’r brig mewn ugain munud.

Waterfall in sunshine at Pistyll Rhaeadr
Pistyll Rhaeadr, Powys

Am dro yng Ngwlad y Sgydau

Byddwch yn ymwybodol y gall ffyrdd o amgylch y rhaeadrau fod yn gul iawn, ac maent yn aml yn ffyrdd trac unffrwd gyda gwelededd gwael a dim llawer o fannau pasio. Byddwch yn barod i ildio a bacio yn ôl ar lonydd cul. Cyn mynd ar eich taith, gwiriwch wefan Bannau Brycheiniog.

Gwybodaeth allweddol:

  • Noder nad oes un o’r rhaeadrau yn agos i’r maes parcio.
  • Dim ond arian parod mae’r meysydd parcio yn derbyn, felly sicrhewch fod gennych arian mân i dalu i barcio.
  • Sicrhewch eich bod yn dilyn arwyddion unffordd cynghorol ble gofynnir i chi.
  • Mae’r meysydd parcio yn fach, ac yn gallu bod yn brysur, a maent yn aml yn llawn erbyn canol dydd.
  • Cadwch lygad ar gyfryngau gymdeithasol Bannau Brycheiniog am unrhyw gyhoeddiadau pwysig ar ddiwrnod eich ymweliad.

Mae cymaint o raeadrau yn y ceunentydd coediog rhwng Pontneddfechan ac Ystradfellte yn Fforest Fawr, ar flaenau de-orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae pobl yn galw’r lle yn Wlad y Sgydau, neu Fro'r Sgydau.

Ewch am dro i ddarganfod holl fwrlwm yr ardal hyfryd hon.

Fe ddewch o hyd i beth wmbreth o lwybrau cerdded - gallwch chi grwydro’n braf drwy geunentydd unig o dan gwrlid o goed derw, gydag arogl garlleg gwyllt yn llenwi’ch ffroenau."

Sgwd yr Eira

Bydd un o’r llwybrau yn mynd â chi at Sgwd yr Eira ar Afon Hepste, lle gallwch gamu y tu ôl i’r dŵr wrth iddo ddisgyn yn un llen fawr dros y creigiau mwsoglyd i’r plymbwll islaw.

Llwybr Elidir

Chewch chi ddim trafferth mynd at Sgydau Sychryd chwaith, hyd yn oed mewn cadair olwyn neu gyda choets. Wedyn mae gennych chi Lwybr Elidir sy’n mynd ar hyd glannau Afon Nedd Fechan, gan fynd heibio pedair rhaeadr fendigedig, ac os crwydrwch chi rywfaint oddi ar y llwybr fe ddewch chi ar draws Sgwd Gwladus, rhaeadr eithriadol o brydferth sy’n dwyn enw’r Dywysoges Gwladus, merch Brychan, Brenin Brycheiniog.

Sgwd Henrhyd

Sgwd Henrhyd ar Nant Llech yw’r rhaeadr fwyaf yn y De, lle mae’r dŵr yn disgyn am 27 metr. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol faes parcio gerllaw, ar gyrion pentref Coelbren. Nid nepell o’r fan honno mae’r rhaeadr, a gallwch gerdded yno ar lwybr braf iawn, er ei fod yn serth ac yn greigiog.

Rhaeadr Ewynnol

Does yr unman cystal am ramant pur na Rhaeadr Ewynnol ar Afon Llugwy yn Eryri. Fyddwch chi ddim chwinciad yn cyrraedd y rhaeadr o’r A5, tua dwy filltir a hanner i’r dwyrain o Fetws-y-Coed. Wrth sefyll ar y glannau o bobtu’r afon gallwch edmygu’r olygfa wrth i’r dŵr ruthro heibio. Neu os ewch chi ar daith ar Reilffordd Talyllyn, dewch oddi ar y trên yng ngorsaf Dolgoch i fynd at Raeadrau Dol-gôch, tri phistyll bach byrlymus mewn rhes, ac mae’r glannau wedi’u gorchuddio gan fwsogl a rhedyn o rywogaethau prin.

 

Two men looking at Swallow Falls
Rhaeadr Ewynnol, Betws-y-Coed

Rhaeadr Mynach

Yn cuddio dan y coed ym Mhontarfynach mae gogoniant Rhaeadr Mynach, sy’n disgyn 300 troedfedd mewn cyfres o sgydau prydferth. Rhowch her i’ch hun wrth fynd ar hyd y llwybr natur drwy’r trwch o goed derw i ddyfnderoedd y ceunant. Cewch sawl golwg wahanol ar y rhaeadr wrth i i chi wneud eich ffordd i lawr. Yn ôl hen chwedl, y diafol a gododd y bont wreiddiol dros Afon Mynach, ger pen uchaf y rhaeadrau, ond peidiwch â gadael i hynny’ch dychryn. Bu pobl yn dod ers canrifoedd i weld y rhaeadr a’r pontydd ym Mhontarfynach, ac i fynd ar y trên i Aberystwyth ar hyd Rheilffordd Cwm Rheidol, taith hyfryd o ddeuddeg milltir drwy gefn gwlad Ceredigion.

Steps and waterfall at Devil's Bridge, Ceredigion, Mid Wales
Girl walking over bridge at Devil's Bridge
Waterfall at Devil's Bridge
Rhaeadr Mynach, Ceredigion

Related stories