Y llecynnau dirgel gorau yw’r rhai y byddwch chi’n dod ar eu traws drosoch chi eich hun. Ond dyma 10 y gwnaethom ni eu darganfod wrth grwydro - ceisiwch ddod o hyd iddynt ar eich teithiau… 

Ynys Enlli

Ynys Enlli yw ‘ynys yr 20,000 o seintiau’ a gladdwyd yma ganrifoedd yn ôl - meddai'r chwedl. Mae hynny gryn, gryn dipyn yn fwy na’r boblogaeth bresennol (sef 4 yn unig). Bu Enlli’n gyrchfan ar gyfer encilio a phererindota erioed. Gallwch bellach fynd yno am y dydd, neu gallwch aros dros nos - a dyma’r ffordd orau o weld y miloedd adar drycin Manaw sy’n dod â’r ynys yn fyw dros nos wrth iddynt ddychwelyd fel ysbrydion i’w tyllau yn y ddaear. Mae enw Enlli’n ein hatgoffa o’r cerrynt cryf sy’n rhuthro drwy Swnt Enlli, y darn o ddŵr sy’n gwahanu’r Afallon hon oddi wrth y tir mawr.

Y machlud ac Ynys Enlli
Ynys Enlli

Porth Neigwl

Hell’s Mouth yw'r enw Saesneg ar y lle, ac efallai bod y fan hon yn uffern i forwyr yr hen ddyddiau wrth iddynt geisio morio yma yn nannedd drycinoedd yr Iwerydd. Ond heddiw mae'r traeth pedair milltir o hyd a'i donnau yn nefoedd i syrffwyr, ac mae ysgolion syrffio’n cynnal cyrsiau dyddiol yma. Mae’r tonnau’n cynyddu yn eu maint wrth i chi fynd tua gogledd y traeth. Yn ôl y syrffwyr lleol, mae’r tonnau gorau oll i’w cael drws nesaf ym Mhorth Ceiriad - ond pan fydd y môr yn arw, dim ond arbenigwyr ddylai fentro.

Morchras

Mae Mochras, ‘ynys y cregyn’, yn lleoliad i un o’r meysydd gwersylla mwyaf yn Ewrop, ond y rheswm y bydd gwersyllwyr gymaint wrth eu bodd yma yw ei bod hi wastad yn bosib dod o hyd i gilfach breifat ymysg y twyni, y coed a’r dolydd sy’n dal i gynnig naws ‘gwersylla gwyllt’ i’r lle - er bod yma bob cyfleustra modern wrth gwrs. Bydd stormydd y gaeaf yn adnewyddu’r cregyn bob blwyddyn, felly mae hi bron yn amhosib troedio’r tywod heb sathru ymysg rhai o’r 200 rhywogaeth wahanol y gellir eu casglu yma.

Y Borth

Mae traeth hiraf Ceredigion yn rhedeg am dair milltir o'r Borth hyd at dwyni tywod Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi Ynyslas. Pan fydd y llanw ar drai mawr, datgelir boncyffion hynafol coedwig sy’n 5,000 mlwydd oed. Yn ôl y chwedl dyma Gantre'r Gwaelod, a foddwyd gan y môr ar ôl i Seithennyn y porthor feddwi ac anghofio cau’r llifddorau.

Ynyshir

Roedd y Frenhines Fictoria’n berchen ar Neuadd Ynyshir ar un adeg, a doi yma i ddianc i’r arfordir. Bellach mae gerddi’r plas yn warchodfa gan yr RSPB, ac enw’r tŷ yw Ynyshir (heb y ‘Neuadd’) – bwyty ag ystafelloedd sydd wedi derbyn seren Michelin. Mae’r bwyd yn anghredadwy: mae bwydlenni blasu’r cogydd-berchennog Gareth Ward yn cymysgu blasau lleol a rhyngwladol â steil eithriadol.

Drws bwyty Ynyshir gydag arwydd arbennig yn dynodi'r enw.
Ynyshir, Eglwys Fach yn nythu yn y coed - o'r pellter.
Cwrs celfydd o fwyd lleol yn Ynyshir.
Celfyddyd coginio yn Ynyshir, Machynleth

Pwll y Wrach

Pwll y Wrach yw un o olygfeydd mwyaf trawiadol arfordir Sir Benfro: twll crwn enfawr a ffurfiwyd wrth i ogof ddymchwel, a gysylltir â’r môr gan dwnnel. Mae Llwybr yr Arfordir yn mynd â chi dros ben y bwa; ond gall caiacwyr (a morloi) fynd ar y llwybr tanddaearol a glanio ar draeth o gerrig mân yn y ceudwll ei hun.

Llys Meddyg

Mae naws dawel a diffwdan yn Nhrefdraeth (neu Tidrath, yn ôl yr acen leol) ac mae'r dref fach ddeniadol hon ar aber Afon Nyfer yn denu ymwelwyr lu i ogledd Sir Benfro. Mae gan Llys Meddyg fwyty ac ystafelloedd cysgu, tŷ mygu, a dewislen goctels sy'n cynnwys gwirod cartref sy'n llawn perlysiau. Maen nhw hefyd yn cynnal sawl cwrs ar thema bwyd yma - dysgwch sut i fforio, torri pysgod a’u mygu, bwtsiera a mwy...

Melin Tregwynt

Bu melin wlân yn y cwm bach coediog hwn ers yr 17eg ganrif, pan fyddai ffermwyr lleol yn dod â chnu’u defaid yma i’w droelli’n edafedd a’i wehyddu’n flancedi. Yr un teulu fu’n berchen ar y lle ers 1912, ac mae Melin Tregwynt yn dal i wneud deunyddiau yn y dull traddodiadol. Yn hyfryd o hynafol eu treftadaeth, diolch i lygad graff am ddyluniadau modern mae’r cynhyrchion bellach yn ffefrynnau mewn gwestai moethus a chan ddilynwyr ffasiwn ledled y byd.

Y Lagŵn Glas

Hen chwarel lechi yw’r Lagŵn Glas - 'Y Sinc' - a foddwyd yn bert gan y môr, gan adael lagŵn gwyrddlas yn ei lle. Mae cyfres ryngwladol plymio clogwyn Red Bull wedi ymweld â’r lle dair gwaith, ond gall unrhyw un roi cynnig ar neidio gyda help arbenigwyr lleol - dim ond pum munud o waith cerdded (neu gaiacio) o faes parcio Abereiddi yw e. Fel arfer bydd yma grwpiau yma’n arfordira ac yn cael hwyl, gan geisio magu digon o hyder i gwblhau’r naid 12m o’r copa.

Bachgen yn Abereiddi, Sir Benfro - mewn siaced achub felen a helmed goch.
Criw o dri ar fin neidio i 'Y Sinc', Abereiddi, Sir Benfro
Abereiddi, Sir Benfro 

Y Fferm Drychfilod

Yr entomolegydd, ffermwr trychfilod a chyflwynydd teledu Dr Sarah Beynon sy’n rhedeg y fferm weithredol hon, gyda’i chanolfan ymchwil a’i hatyniad i ymwelwyr, ar gyrion Tyddewi. Mae gan y Fferm Drychfilod ddigonedd o negeseuon gwyddonol difrifol i’w rhannu am ecoleg a chynaliadwyedd, ond mae hefyd yn llawer iawn o sbort, yn enwedig os oes gennych chi blant. Mae bwydlen y caffi’n cynnwys llawer o drychfilod bwytadwy.

Tu fewn y Fferm Drychfilod
Bwyta pethau anarferol ar fferm drychfilod Dr Beynon.
Fferm Drychfilod Dr Beynon, Tyddewi