Eryri

Y gorau ar gyfer: mynydda, cerdded, beicio mynydd, abseilio, nofio gwyllt, rafftio dŵr gwyn, trenau bach, rhaeadrau, llynnoedd, ffotograffiaeth.

Walker on Y Garn Mountain, Snowdonia
Mynydd y Garn, Eryri

Mae mynyddoedd Gogledd Cymru yn rhai garw a chaled - ac mae hynny wrth ein bodd. Efallai bod modd mynd mewn trên i gopa'r Wyddfa, ond mae hwn yn fynydd go iawn, yn siŵr i chi. A dweud y gwir, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ei gyfanrwydd yn baradwys i rai sy'n hoff o fynydda ac anturio, llawn cystal ag unrhyw le yn yr Alpau. Ceir chwe llwybr swyddogol wyth milltir o hyd sy'n mynd i gopa mynydd uchaf Cymru (1085 metr) ac mae'n bleser i gerdded pob cam ohonynt.

Yn y naw cadwyn o fynyddoedd yn Eryri saif pymtheg copa'n uwch na 900 metr, gan gynnwys yr Wyddfa, wrth gwrs. Dringwch i dri chopa Tryfan (918 metr) lle cewch chi fodd i fyw yn sgramblo ac yn mwynhau rhai o'r golygfeydd gorau ym Mhrydain. Yn bwrw cysgod dros aber hyfryd Afon Mawddach mae Cader Idris, sy'n 893 metr o uchder.

Mynyddoedd Cambria

Y gorau ar gyfer: gwylio adar, cronfeydd dŵr, llwybrau gwyllt, snorclo mewn cors.

Two people taking two dogs for a walk, walking over a bridge with autumnal trees in the background
Cronfa ddŵr Garreg Ddu, Cwm Elan

Yn ucheldir tawel y Canolbarth saif Mynyddoedd Cambria, sy'n ymestyn o fynydd Pumlumon (752 metr) ger Machynlleth i fynydd Mallaen (462 metr) ger Llanymddyfri. 

Rhwng Mynyddoedd Cambria, Eryri a'r Mynydd Du mae dyffrynnoedd Dyfi a Thywi. Yma mae tarddle Afon Gwy ac Afon Hafren, cronfeydd dŵr hyfryd Cwm Elan a chefn gwlad gwyllt sy'n ymestyn am filltiroedd, yn gynefin i dylluanod a sawl math arall o adar ysglyfaethus.

Y Mynydd Du, y Mynydd Du arall, Fforest Fawr a Bannau Brycheiniog

Y gorau ar gyfer: cerdded, mynd ar gefn beic, beicio mynydd, marchogaeth, barcuta, camlesi, syllu ar y sêr, chwilota mewn ogofâu, llwybrau byd natur, safleoedd cynhanesyddol.

View of Pen y Fan mountain and other mountain peaks in the background
Pen y Fan, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Oes, mae dau Fynydd Du yng Nghymru, y ddau ohonynt yn digwydd bod o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Saif un ohonynt tua'r gorllewin, i'r gogledd o Abertawe. Dyma un o'r mannau mwyaf garw ac anghysbell yng Nghymru, ac mae'n werth mentro am filltiroedd o'r ffordd agosaf i weld y tarenni mawreddog a'r llynnoedd tawel y gadawodd y rhewlifoedd ar eu hôl. Fan Brycheiniog (802 metr) yw'r copa uchaf ar y Mynydd Du hwn.

Tua'r dwyrain mae'r Mynydd Du arall, ar y ffin â Lloegr. Mae'n bwrw cysgod dros y Fenni, y Gelli Gandryll, Llan-gors a Chamlas Mynwy ac Aberhonddu, ac yn dringo i 811 metr ar wastadeddau Waun Fach.

Wrth fynd tua'r de-orllewin fe ddewch chi o hyd i Fforest Fawr, ucheldir sy'n llawn o glogwyni calch ac ogofâu anhygoel. Dyma'r unig le yng Nghymru â statws Geoparc.

Mae Bannau Brycheiniog yn ymgodi'n fawreddog yng nghanol y Parc Cenedlaethol, a'r mynyddoedd enwocaf yw'r rhai uchaf yn neheubarth Prydain - Pen y Fan (886 metr) a Chribyn (795 metr). Daw pobl yn eu miloedd i Fannau Brycheiniog i gerdded milltiroedd ar hyd y llwybrau di-ri, ond dyw hi ddim mor brysur yma ag Eryri. Wrth gerdded weithiau ar y mynyddoedd, ni welwch chi'r un dyn byw o'ch cwmpas.