Ynys Môn

Mae ynys fwyaf Cymru, sy’n sir ynddi’i hun, Ynys Môn, yn cynnig dewis o brofiadau i’r ymwelydd. Ar hyd gogledd yr ynys, creigiau garw a hanes diwydiannol sydd amlycaf, tra bo’r golygfeydd tua’r de o wastadeddau de-orllewin yr ynys yn rhoi panorama rhyfeddol i chi o fynyddoedd Eryri ar draws Afon Menai, y llain gul o fôr sy’n rhannu’r ynys a Gwynedd.

Mae Anglesey Adventures yn cynnig dewis helaeth o weithgareddau i bobl fentrus, gan gynnwys diwrnodau llawn neu hanner diwrnodau o hyfforddiant mewn arfordira, caiacio môr, sgrialu mewn ceunentydd, dringo creigiau, adeiladu rafftiau ac abseilio. Ar y llaw arall, gallech groesi dros y sarn i Ynys Llanddwyn, sydd ond yn ynys go iawn oddi ar Fôn pan fydd y llanw’n uchel, neu mentrwch mewn cwch i Ynys Seiriol tua’r dwyrain, neu dros y bont i Ynys Cybi.

Ar Ynys Cybi, gallwch dorheulo ar draethau poblogaidd Rhoscolyn a Threarddur a dringo i ben goleudy Ynys Lawd ar daith gyda thywysydd. Mae Ynys Seiriol ar ben dwyreiniol Afon Menai, sy’n gwahanu Môn a Gwynedd. Mae hi’n werth mynd ar daith gwch o Fiwmares i weld y bywyd gwyllt, y golygfeydd o’r dŵr, ac i bysgota yn y môr ffrwythlon sy’n amgylchynu’r ynys.

Cyrraedd yno: Gellir mynd i Ynys Môn (ynghyd ag Ynys Cybi ac Ynys Llanddwyn) ar hyd y ffordd fawr o Fangor, 3 milltir (5 km) i ffwrdd dros Bont y Borth; neu mae’r trên yn croesi Ynys Môn i Gaergybi. Bydd angen i chi archebu lle ar daith mewn cwch er mwyn ymweld ag Ynys Seiriol – mae Seacoast Safaris yn cynnig teithiau.

Llun o'r traeth a'r goleudy ar Ynys Llanddwyn

Ynys Llanddwyn, Ynys Môn

Ynysoedd Sir Benfro

Mae’r triawd o ynysoedd cyfagos, Sgomer, Sgogwm a Gwales, yn benthyg eu henwau gan ymwelwyr hynafol Llychlynnaidd. Lleolir yr ynysoedd oddi ar arfordir de Sir Benfro, ac maen nhw’n rhagori fel cartrefi i fywyd gwyllt eithriadol. Dynodwyd y tair ynys gyda’i gilydd fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac maen nhw’n cael eu cynnwys ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru.

Mae Sgomer, yr ynys fwyaf, yn gartref i haid lwyddiannus o balod, a daw ymwelwyr yn llu i weld yr adar bach doniol hyn â’u pigau mawr lliwgar. Os ewch am dro o gwmpas llwyfandir uchel yr ynys, fe ddewch ar draws yr hen fferm a chewch olygfeydd ysgubol o’r creigiau uchel a’r moroedd o gwmpas yn fyw gan adar y môr. Gallwch aros dros nos ar Sgomer mewn llety hunanarlwyo – ac mae’n brofiad a hanner pan fydd hi’n gyfnod nythu adar drycin Manaw, wrth i’r adar ddychwelyd gyda’r nos o’u helfa, i sain iasol eu cân arallfydol.

Mae Sgogwm gyfagos yn fwy garw. Mae’r creigiau’n gogwyddo i lawr i Fôr Iwerddon, sy’n torri’n wyllt ar hyd ei glannau, gan greu tirwedd ddramatig a gwyllt i ffotograffwyr. Mae Sgogwm yn enwog am yr wylfa adar sydd yma, lle sy’n denu pobl â diddordeb mewn bywyd gwyllt i ddod yma o bob cwr o’r byd.

Ynys bellennig, fechan Gwales yw pwynt mwyaf gorllewinol Cymru, ac mae 11 milltir o fôr rhyngddi hi ac arfordir Sir Benfro. Cewch gyfle i weld haid enwog yr ynys o huganod drwy gyfrwng taith fôr agored, ynghyd â dolffiniaid, llamhidyddion a morloi.

Pâl yr Iwerydd gyda glaswellt yn ei big
Manx Shearwater ar Ynys Sgomer

Ynys Sgomer,  Sir Benfro

Gallwch gael profiad hollol wrthgyferbyniol drwy fentro drosodd yr ychydig lathenni i Ynys Bŷr, yn agos i dref glan môr enwog Dinbych-y-pysgod. Mynnwch daith o gwmpas y Fynachlog Sistersaidd, a thorheulwch ar y traeth perffaith sydd yma. Cofiwch beidio â gadael cyn ymweld â’r siop anrhegion a’r Swyddfa Bost: mae’r mynachod yn gwneud ac yn gwerthu’u persawr lafant a bisgedi brau eu hunain, yn cyhoeddi stampiau’u hunain ac yn defnyddio’u harian unigryw ar yr ynys.

Cyrraedd yno: Gellir mynd i Sgomer, Sgogwm a Gwales am y dydd ar fad neu ar daith o gwmpas yr ynysoedd o St. Martin’s Haven, ger Dale. Gellir cael cwch i Ynys Bŷr o Ddinbych-y-pysgod.

Llun o Gaer Ynys Catrin ar Ynys Catrin, a chychod bach yn casglu teithwyr o Ddinbych-y-pysgod

Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

Ynys Enlli

Rhaid teithio i ben pellaf Llŷn yng Ngogledd Cymru, ac yna mynd ar gwch ar draws y Swnt, i gyrraedd Ynys Enlli. Wrth groesi, mae’n debygol y gwelwch chi balod ar y dŵr, yn y tymor cywir, wrth gwrs.

Mae ‘ynys yr ugain mil o seintiau’ yn lle hudolus, wrth i niwl y môr glirio copa Mynydd Enlli, pwynt uchaf yr ynys, gan roi golygfa i chi dros y fferm weithredol, olion yr abaty a’r morloi sy’n gorffwyso ar y creigiau.

Cyrraedd yno: Archebwch daith mewn cwch o Aberdaron gyda Theithiau Cychod Enlli er mwyn ymweld â’r ynys. 

View of Bardsey Island with the lighthouse in the distance
Golygfa o ynys a'r mor

Ynys Enlli, Gwynedd

Pen Pyrod, Penrhyn Gŵyr

Breuddwyd pob cynllunydd cardiau post yw Pen Pyrod, sy’n ymwthio allan o benrhyn Rhosili ym mhen pellaf Gŵyr yng Ngorllewin Cymru. Am chwe awr pan fydd y llanw allan, gallwch sgrialu dros y creigiau cyn dringo i’r gefnen ac – os ydych chi’n ffodus – weld morloi’n ymlacio yn y dŵr islaw. Mae’n lle ardderchog i edrych yn ôl ac edmygu traeth hir Rhosili, ble mae syrffwyr wrth eu bodd, heb sôn am deuluoedd yn cael diwrnod mas a pharau rhamantus hefyd. Gallwch gael amserau croesi yng Nghanolfan Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili, neu gwiriwch ymlaen llaw ar-lein.

Cyrraedd yno: Gellir ymweld â Phen Pyrod am y dydd o Abertawe, 20 milltir (32km) i ffwrdd.

Golygfa o'r awyr o Ben Pyrod yn ymestyn allan i'r môr

Pen Pyrod, Penrhyn Gŵyr

Ynys Echni, ger Caerdydd

O argae Bae Caerdydd, gellir gweld Ynys Echni draw dros y tonnau, fel pe bai ynghanol Môr Hafren. Mae creigiau Ynys Ronech, Seisnig, yn sefyll fel cawr dros Echni wastad, Gymreig, wrth ei hymyl. Ymunwch â thaith dywys o gwmpas yr ynys i ddysgu am hanes smyglo yn ei gorffennol, a’r goleudy sy’n dal i gynorthwyo morwyr. Oddi yma, yn 1897, y darlledwyd y signalau diwifr cyntaf ar draws môr agored gan y ffisegydd o’r Eidal, Guglielmo Marconi. Yn yr un modd ag y gofynnodd neges gyntaf Marconi: “Ydych chi’n barod?”.

Cyrraedd yno: Gellir ymweld ag ynys Echni am y dydd o Gaerdydd fel rhan o daith 5 milltir (8 km) mewn cwch. Gallwch gyrraedd yr ynys ar gwch Ynys Echni.

Straeon cysylltiedig