Roedd yn anodd iawn eu dewis, ond dyma 10 o’n hoff bethau i’w gwneud ar hyd Ffordd yr Arfordir – gan ddilyn y Ffordd o’i phen gogleddol ar Ben Llŷn, o amgylch yr arfordir i Dyddewi ar y gwaelod.

Antur yn Abersoch

Mewn cilfach yn AHNE Pen Llŷn, mae Abersoch wedi datblygu i fod yn gyrchfan hwylio sy'n llawn steil a chymeriad. Mae’r dref ar ei phrysuraf adeg yr ŵyl hwylio ym mis Awst, a gynhelir am wythnos bob haf ers 1881. Bydd ymwelwyr a phobl leol yn ymuno ar gyfer hwylio, rasio rafftiau, dal crancod a chystadlaethau cestyll tywod. Gallwch hefyd logi pob math o gychod (gan gynnwys pedalos a rhwyf-fyrddau), o ysgolion hwylio lleol.

Golygfa brydferth o Abersoch, Llŷn

Abersoch, Gwynedd

Crwydro Castell Cricieth

Mae Castell Cricieth yn sefyll ar safle perffaith i adeiladu castell: ar benrhyn creigiog rhwng dau draeth gyda golygfeydd anhygoel o’r môr. Llywelyn Fawr oedd yn gyfrifol am godi’r castell gwreiddiol, ac ychwanegwyd at yr adeilad gan Edward I, cyn i’r lle gael ei losgi’n ulw gan Owain Glyndŵr yn ystod gwrthryfel 1404. Gerllaw, yn Llanystumdwy, mae amgueddfa sy’n dathlu bywyd mab enwocaf y pentref, sef y gwladweinydd a’r prif weinidog, Amgueddfa David Lloyd George.

Dau oedolyn a dau o blant yn archwilio Castell Cricieth.
Castell Cricieth, Gwynedd

Castell Cricieth, Gwynedd

Byddwch yn seren yn eich sioe deledu eich hun ym Mhortmeirion

Mae Portmeirion yn hudolus - dyma leoliad addas o swreal ar gyfer y gyfres deledu unigryw o’r 1960au, The Prisoner. Mae pentref Eidalaidd unigryw Syr Clough Williams-Ellis, sy'n llechu mewn cilfach ar benrhyn uwchlaw aber Afon Dwyryd, yn eithriadol o boblogaidd o hyd. Ond os arhoswch yma dros nos, gorau oll, oherwydd fe gewch chi’r lle i chi eich hun bron yn y bore bach. I gael y profiad bywyd gwyllt eithaf gerllaw, ewch i Glaslyn a gwyliwch y gweilch rhyfeddol.

Golygfa o ardd a bwrdd gwyddbwyll anferth o falconi mewn pentref Eidalaidd.

Portmeirion

 

Treuliwch y noson yng Nghastell Harlech

Ciliodd y môr ers adeiladu Castell Harlech tua diwedd y drydedd ganrif ar ddeg, sy’n peri fod y cadarnle’n edrych ychydig fel llong ar dir sych ar ben y graig heddiw - ond dyma un o’r cestyll canoloesol gorau yn unman. Mae codi pont newydd wedi’i gwneud hi’n llawer haws cael mynediad i’r lle, gan gysylltu’r castell â chanolfan ymwelwyr, sy’n cynnwys pum fflat hunanarlwyo moethus y gellir eu llogi.

Edrych i lawr at gastell ac arfordir y tu hwnt.
Cwpl hŷn yn yfed coffi i fynd y tu allan i gastell, yn mwynhau’r golygfeydd.

Castell Harlech, Gwynedd

Mwynhewch y traeth yn y Bermo

Gan barhau i lawr yr arfordir, porthladd i adeiladu llongau ac allforio llechi oedd y Bermo tan i ymwelwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg ddechrau dotio ar harddwch môr-a-mynydd y lle. Heddiw, dyma gyrchfan gwyliau mwyaf poblogaidd de Eryri, gyda thraethau eang a golygfeydd ysblennydd i fyny Aber Mawddach. 

Taith ffair gyda thraeth tywodlyd yn y cefndir.
Dyn a phlant ifanc yn pysgota.

Y Bermo, Eryri

Dewch o hyd i fywyd gwyllt ar Safle UNESCO Biosffer Dyfi

Mae’n un o blith llond llaw o fiosfferau yn y DU a’r unig un yng Nghymru. Mae Dyfi yn cynnwys amrywiaeth anhygoel o gynefinoedd pwysig iawn ar gyfer bywyd gwyllt prin. Ar yr adegau cywir o’r flwyddyn efallai y gwelwch bob math o adar hirgoes a gwyddau yng Ngwarchodfa RSPB Ynys-hir, gweilch y pysgod ac afancod yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Dyfi yng Ngwarchodfa Cors Dyfi, a thegeirianau a ffyngau ymhlith twyni Ynyslas Gwarchodfa Natur Dyfi a’r cyforgorsydd mawn unigryw yng Nghors Fochno.

Darllen mwy: Bywyd gwyllt Safle UNESCO Biosffer Dyfi

Aber afon Dyfi gyda gwair ar bob ochr a bryniau yn y cefndir, o dan gymylau tywyll.

Aber afon Dyfi, Biosffer Dyfi

Crwydro Aberystwyth

Wrth symud ymlaen i Geredigion, mae Aberystwyth yn gyrchfan pier-a-phrom go iawn, gyda’r fantais ychwanegol o brifysgol ffyniannus a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae llawer i’w wneud yma, yn cynnwys teithio ar Reilffordd y Graig i ben Consti, neu Graig Glais, ble gallwch syllu ar y camera obscura, trysorau amhrisiadwy Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Ceredigion a Rheilffordd Cwm Rheidol. Ond wrth gerdded i ben gogleddol y prom cofiwch gicio’r bar, yn ôl y traddodiad lleol.

Golwg o Aberystwyth o’r awyr.

Aberystwyth, Ceredigion

Mynd i weld dolffiniaid yng Ngheinewydd

Mae'r darn cyfan yma o'r arfordir yn hynod o gyfoethog mewn bywyd gwyllt. Mae’r ysgol fwyaf o ddolffiniaid ym Mhrydain yn treulio’r haf ym Mae Ceredigion, wedi’i ganoli o amgylch Ceinewydd. Gallwch eu gweld unrhyw adeg o'r flwyddyn, ond yr amser gorau yw misoedd yr haf. Neidiwch ar gwch ac ewch allan i Aber-porth, Ynys Aberteifi neu Ben Cemaes. Os ydych chi'n lwcus fe fyddan nhw'n ymddangos wrth eich ochr chi.

Llun manwl o ddolffin yn nofio yn y môr mawr glas.
Dolphin watchers Ceredigion Heritage Coast

Gwylio dolffiniaid oddi ar arfordir Ceinewydd

Awyrgylch cŵl Aberteifi

Hen borthladd pysgota yw Aberteifi â gwreiddiau Cymreig cadarn iawn: yn 1176, yng Nghastell Aberteifi y cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf. Mae yma elfen fodern, flaengar iawn hefyd. Cynhelir eisteddfod flynyddol fawr o hyd, ynghyd â gŵyl syniadau DO Lectures. Mae teulu Fforest hefyd yn trefnu bob math o wyliau a digwyddiadau cofiadwy, ac yn gwneud pizza rhagorol mewn ffwrn tân coed ar y cei.

Merch yn dal malws melys ar ffon dros dân

Gŵyl Caught by the River Teifi, Aberteifi

Darganfyddwch hanes Tyddewi

Ym mhen gorllewinol eithaf Cymru, Tyddewi yw’r ddinas leiaf ym Mhrydain (poblogaeth: 1,600). Adeiladwyd Eglwys Gadeiriol ein nawddsant ar safle mynachlog a sefydlwyd ganddo yn y chweched ganrif, ac mae’n sefyll mewn pant cysgodol wrth ochr adfeilion Llys yr Esgob. Amgylchynir y ddinas gan arfordir o’r radd flaenaf, ac ymysg yr uchafbwyntiau mae Porth Mawr, sy'n fendigedig ar gyfer syrffio a theuluoedd, Porthclais - harbwr bach Rhufeinig - ac Ynys Dewi. Gallwch fwynhau teithiau cwch i’r hafan byd natur hwn ac o gwmpas yr ynys ei hun.

 

Dyn mewn cadair olwyn yn cael ei wthio gan ffrind y tu mewn i dir abaty adfeiliedig.
Harbwr bach wedi’i amgylchynu gan glogwyni a’r llanw i mewn.

Llys yr Esgob yn Nhyddewi a’r harbwr bach ym Mhorthclais, Sir Benfro

Straeon cysylltiedig