Mentrwch oddi ar y brif Ffordd Cambria, gan ddarganfod llwybrau a gelltydd sy'n gwau eu ffyrdd dros y mynyddoedd. 

Dolen y Bala

Ewch tua’r dwyrain o Drawsfynydd ac mae’r ffordd yn sgubo heibio i fynyddoedd Arenig, y mae cynifer o artistiaid wedi’u peintio, i Lyn Tegid. Dyma lyn naturiol mwyaf Cymru, ac mae rhywogaeth unigryw o bysgod yn byw ynddo ers Oes yr Iâ – y Gwyniad. Mae’r llyn yn boblogaidd gan syrffwyr gwynt, hwylwyr a physgotwyr. Bu tref y Bala’n ganolog i fywyd diwylliannol a gwleidyddol Cymru erioed. Ychydig filltiroedd tua’r gogledd, codwyd argae ar Afon Tryweryn yn 1965 i greu cronfa i gyflenwi Lerpwl, gan foddi pentref Capel Celyn. Hyd heddiw, mae pobl yn dal i ddweud Cofiwch Dryweryn – a’i ysgrifennu ar waliau – fel atgof a datganiad o hunaniaeth. 

Dros y top

Bydd pobl leol yn tueddu i dorri’r gornel rhwng Machynlleth a Llanidloes drwy fynd heibio i Lyn Clywedog. Mae hi’n ffordd droellog, donnog ar hyd y rhan fwyaf o’r daith, ond yn hen ddigon llydan i geir basio’i gilydd. Tua’r gogledd y cewch chi’r olygfa orau: oedwch ger cofeb Wynford Vaughan-Thomas i weld panorama eang dros Eryri. Hon oedd hoff olygfa’r darlledwr mawr yn y byd i gyd.

'Ardal y Llynnoedd' Cymru

Yn ôl teithwyr Oes Fictoria, dyma ‘ddiffeithwch glas Cymru’: y Mynyddoedd Cambrian, sy'n eangderau mawrion, heb ddim pobl. Dyma’r ardal â’r boblogaeth leiaf drwy’r wlad o hyd (o ran pobl, o leiaf): bywyd gwyllt sy’n teyrnasu yn y dirwedd enfawr hon. Y lle gorau i gychwyn yw Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan. Gallant argymell llwybrau cerdded, seiclo a gyrru o gwmpas y rhwydwaith o argaeau a chronfeydd dŵr, a’r rhosydd a’r coedwigoedd sy’n eu hamgylchynu.

Fotografie im Elan-Tal, Powys.
Car yn dod ar y ffordd hir dros bont garreg, gyda chronfa ddŵr i'r chwith, a bryniau yn y cefndir

Cwm Elan, y Canolbarth

Bannau Brycheiniog

Mae’r A470 yn torri llwybr dramatig fel cyllell drwy fenyn ar draws mynyddoedd Bannau Brycheiniog yng nghanol y Parc Cenedlaethol. Ond mae’n werth archwilio unigeddau'r bryniau sydd ar ddwy ysgwydd y Bannau hefyd: i’r gorllewin, y Mynydd Du (unigol) sy’n rhoi golygfeydd godidog dros Sir Gaerfyrddin, a’i draed yn cyffwrdd â Llandeilo. Tua’r dwyrain, y Mynyddoedd Duon (lluosog, peidiwch â drysu!) sy’n ymestyn tua’r ffin â Lloegr (lleoliad Gŵyl y Dyn Gwyrdd yng Nghrughywel). A thua’r de, mae Bro’r Sgydau’n cynnig y casgliad gorau o raeadrau a cheunentydd ym Mhrydain gyfan.

Grass covered mountainsides.
Llun o raeadr llydan a choed

Copaon gwyrdd Bannau Brycheiniog a Sgwd Pannwr

Y Daith Fwyd

Byddwch chi’n pasio (neu, yn ddelfrydol, yn oedi yn) y Felin Fach Griffin rhagorol; dyma flas o’r hyn sydd i ddod. Anelwch i’r dwyrain i’r Fenni, a dyma chi ym mhrifddinas fwyd Cymru. Cynhelir Gŵyl Fwyd y Fenni yma bob mis Medi, a cheir dyrnaid o fwytai-â-llety rhagorol yn Sir Fynwy a Dyffryn Gwy: The Walnut Tree, The Whitebrook (y ddau wedi derbyn seren Michelin), The Hardwick, The Bell at SkenfrithThe Bear... mae pob un yn werth stopio ynddo.

Yr arwydd ar gyfer The Hardwick, Y Fenni.

Bwytai blasus - The Hardwick, The Walnut Tree

Straeon cysylltiedig