Mae Ffordd yr Arfordir yn teithio ar hyd yr arfordir gorllewinol o gwmpas Bae Ceredigion, taith ffordd o 180 milltir (290km) rhwng y môr a'r mynyddoedd. Mae Ffordd Cambria'n croesi asgwrn cefn ein gwlad am 185 milltir (300km) rhwng Llandudno a Chaerdydd, trwy Barciau Cenedlaethol ac eangderau gwyrdd gwyllt. Mae Ffordd y Gogledd yn arwain 75 milltir (120km) heibio cestyll cedyrn i Ynys Môn.

Rydym ni hefyd wedi argymell dolenni a dargyfeiriadau fel y gallwch fynd igam ogam a chreu eich taith Ffordd Cymru eich hun.

Map yn dangos llwybrau Ffordd Cymru

Llwybrau Ffordd Cymru

Ffordd y Gogledd

Dilynwch yr hen lwybr masnachu ar hyd yr arfordir gogleddol i Ynys Môn. Archwiliwch Ffordd y Gogledd.

Pont fawr yn croesi afon.
Golygfa yn edrych dros y dŵr tuag at Gastell Conwy

Pont Menai a Chastell Conwy

Ffordd Cambria

Siwrne gyfan de i'r gogledd ar hyd calon fynyddig Cymru. Archwiliwch Ffordd Cambria.

Pod gwersylla pren gyda glaswellt a bwrdd picnic
Trên stêm yn teithio heibio coedwig
Cwch ar gamlas gyda choed a dail hydrefol

Wigwam Holidays yn Llanfair-ym-Muallt, Rheilffordd Mynydd Aberhonddu a Brecon Park Boats

Ffordd yr Arfordir

Mae trefi harbwr a gwyliau, pentrefi pysgota a childraethau cyfrinachol ar hyd ein harfordir. Mae yna dywod euraidd, clogwyni aruthrol, a thraethau o bob math. Archwiliwch Ffordd yr Arfordir.

Richard Parks ar gefn beic wrth y môr

Abermaw/Y Bermo, Gwynedd

Straeon cysylltiedig