Canolfan Grefftau Corris

Cewch ddewis o blith naw gweithdy crefft yng Nghanolfan Grefftau Corris, gan ymweld â'r artistiaid yn eu stiwdios a'u gwylio wrth eu gwaith. Mae dewis helaeth o nwyddau unigryw wedi'u gwneud â llaw, gan gynnwys crochenwaith a mân bethau del - rhowch gynnig ar wneud rhai eich hunan. Os ydych chi'n llwglyd wedi hynny, mae dewis da o fwyd lleol yng nghaffi'r ganolfan.

Melin Tregwynt

Fe ddechreuon nhw gynhyrchu gwlân ym Melin Tregwynt dros dri chan mlynedd yn ôl, ac mae'n dal yn un o'r mannau gorau i weld brodwaith cain, dillad, cyfwisgoedd, blancedi, carthenni a llawer mwy. Yn ogystal â'r gwaith gwlân celfydd mae yma gaffi lle gallwch ymlacio, oll o fewn tafliad pellen weu o'r arfordir, y clogwyni a golygfeydd godidog.

Llun o bedair carthen Gymreig gyda'r un patrwm ond lliwiau gwahanol, yn hongian ar ochr cwt
Edafedd mewn gwahanol liwiau yn cael eu storio mewn blychau ar silffoedd

Melin Tregwynt

Craft in the Bay

Mae Urdd Gwneuthurwyr Cymru yn cynrychioli 74 o artistiaid yng Nghymru, ac yn rhedeg Craft in the Bay gyda'r nod o roi lle amlwg i'r crefftau cyfoes gorau yn y wlad mewn stiwdios ac arddangosfeydd, a thrwy roi cyfle i bobl gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai. Dewch i ddysgu popeth am decstilau, neu tretiwch eich hun i ambell beth.

Dynes wrth droell crochenydd yn gwneud pot
Llun o freichled fetel gyda gwahanol haenau

Craft in the Bay, Bae Caerdydd

Pennau Crafts

Mae Pennau Crafts yn lle bach clyd yma ar odre'r bryniau wedi ennill sawl gwobr. Mewn un adeilad mae trysorfa o emwaith disglair, crefftau ac anrhegion, gydag uned wedi'i neilltuo'n arbennig ar gyfer croesbwytho. Mae digonedd o ddewis, a bwydlen helaeth o fwyd cartref yn y caffi drws nesaf. Cyfuniad perffaith o fwyd a chrefftau traddodiadol Cymreig.

Castle Welsh Crafts

Mae'r Cymry wedi defnyddio llwyau caru i ddatgan eu teimladau rhamantus ers yr 17eg ganrif – ac fe welwch chi rai o bob lliw a llun yn y siop yma gyferbyn â Chastell Caerdydd. Ar ben hynny mae gan Castle Welsh Crafts addurniadau, arfwisgoedd, mân bethau hanesyddol ac eitemau anghyffredin fel llusernau glowyr, yn ogystal â gemwaith Cymreig a Cheltaidd.

Canolfan Cwiltiau Cymru

Mae’r Ganolfan Gwiltiau’n olrhain hanes y cwilt Cymreig o’r 17eg ganrif hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, a hynny mewn ffordd liwgar, bywiog ac yn llawn dychymyg. Agorwyd y ganolfan yn 2009 yn adeilad urddasol Neuadd Tref Llanbedr Pont Steffan, ac mae’n cyflwyno amrywiaeth o gasgliadau rhyngwladol, arddangosfeydd sy’n newid drwy’r amser a chyfleusterau o’r radd flaenaf.

Canolfan Grefft Rhuthun

Mae'n werth dod i Ganolfan Grefft Rhuthun dim ond i weld yr adeiladau modern trawiadol, ond wrth fynd drwy'r drws fe welwch chi pam enwyd y lle ar y rhestr fer am Wobr y Gronfa Gelf. Mae'n lle ysbrydoledig i gael golwg ar y crefftau cyfoes gorau yng Nghymru, gydag arddangosfeydd sy'n newid bob amser a hyfrydwch Bryniau Clwyd yn gefndir i'r cyfan.

Llun o'r arddangosfa y tu fewn i'r ganolfan
Llun o'r tu allan i adeilad y ganonlfan, gyda phobl yn eistedd y tu allan

Canolfan Grefft Rhuthun, Sir Ddinbych

Crefftau a Dylunio Model House

Agorodd y ganolfan brysur hon ym 1989, ac erbyn heddiw mae Crefftau a Dylunio Model House yn fwrlwm o artistiaid a gweithdai ac yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae yma ddwy oriel hefyd lle gallwch edmygu gwaith y crefftwyr, a phrynu ambell i anrheg anarferol.

Craft Renaissance

Efallai’n wir mai hon yw un o’r orielau harddaf a welwch chi erioed, ac mae Craft Renaissance mewn casgliad o hen ysguboriau yn llawn ystafelloedd braf, golau. Dyma le dymunol iawn i gynnal arddangosfeydd o waith gwneuthurwyr galluog o Gymru, ac maen nhw hefyd yn cynnal dosbarthiadau ac yn gwerthu rhoddion prydferth yn y siop. Mae’n braf ymlacio yn y caffi, hefyd.

Oriel Grefftau Court Cupboard

Mae Oriel Grefftau Court Cupboard wedi'i gosod mewn hen adeiladau fferm sy'n bum canrif oed, ac yn sefyll drws nesaf i hen lys gyda chell danddaearol i garcharorion. Yma mae amrywiaeth o grefftwyr yn dangos eu doniau wrth nyddu, gweithio aur ac arian, gwneud gemwaith, gwneud gwaith gof, lliwio gwydr a gwneud mwclis, ac mae'r siop goffi'n braf iawn hefyd.

Straeon cysylltiedig