Mae arfordir Cymru’n nefoedd i’r ffotograffydd, o biers pert i oleudai dramatig, heibio i sawl cei, harbwr a bae hardd.

Goleudy Ynys Lawd

Waeth beth fo’r tywydd, bydd eich gên yn taro’r llawr o weld Goleudy Ynys Lawd, un o nodweddion gorau’r Deyrnas Unedig i dynnu llun ohono. Mae’n dyddio’n ôl i 1809 a gellir mynd iddo drwy ddisgyn 400 o risiau i lawr y creigiau serth. Unwaith y cyrhaeddwch chi’r ynys, gallwch ddringo i ben y goleudy i werthfawrogi golygfeydd ysgubol.

Goleudy Trwyn Whiteford, Penrhyn Gŵyr

Dyma’r unig oleudy haearn bwrw sy’n cael ei olchi gan y môr yn holl Ynysoedd Prydain bellach, ac mae hi’n wir werth mynd ar ymweliad â Goleudy Trwyn Whiteford cyn iddi fod yn rhy hwyr. Peidiwch â disgwyl mynd yn rhy agos ato, mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i amser â’i draed yn y tonnau. Ewch am daith gerdded drwy dirwedd arallfydol twyni Whiteford i weld yr olygfa drawiadol.

Llun o oleudy ar lanw isel

Goleudy Trwyn Whiteford, Penrhyn Gŵyr

Goleudy Pen Strwmbwl, Sir Benfro

Tra bod Whiteford ac Ynys Lawd yn llawn drama, natur fwy rhamantus sydd i Ben Strwmbwl, ar ynys fechan oddi ar arfordir gogledd-orllewin Sir Benfro. Mae pont grog yn cysylltu Strwmbwl â’r tir mawr, er mai peiriant sy’n rhedeg y goleudy bellach, felly ni ellir cael mynediad i’r ynys. Dim ots – syllwch ar yr olygfa o bell a rhyfeddu at y tirweddau godidog sydd i’w gweld yn y rhan hon o’r byd. Gallwch fynd yno ar y bws lleol â’r enw hyfryd – Gwibiwr Strwmbwl. 

Pier Llandudno

Dewch yn llu i weld pier hiraf Cymru! Bydd cerdded i ben y pier hwn, sy’n 700 metr o hyd, yn gweithio eich coesau’n dda, a gallwch edmygu’r nodwedd restredig Gradd-II wrth wneud. Cofiwch, doedd hi ddim yn gymaint o daith ar y dechrau – dim ond 72 metr o hyd oedd y pier gwreiddiol, ond cafodd ei ddinistrio mewn storm yn 1859, a’i ailagor yn 1884. Cafodd ei adnewyddu mewn concrit a dur yn y 60au, gan roi’r fersiwn sy’n gyfarwydd i ni heddiw. Yn unol â phob pier gwerth ei halen, mae gan hwn reidiau ffair, siopau sy’n gwerthu bwcedi a rhawiau, a llecynnau i fwynhau darn o deisen.  

Golygfa hardd o'r pier yn Llandudno

Pier hiraf Cymru, Llandudno 

Prom Aberystwyth

Yr olygfa orau o brom golygus ac eang Aberystwyth yw honno o ben bryn Consti, neu Graig Glais i roi’r enw cywir arno. Mae’r bryn yn codi’n serth o’r môr a gellir mynd i’r copa ar Reilffordd y Graig, rhaffordd drydanol, yr hiraf o’i math ym Mhrydain, sydd wedi bod yn cludo ymwelwyr ers 1896. Yn ôl ar lefel y môr, ewch am dro ar hyd y Prom 2000m o hyd, heibio’r Hen Goleg, y Castell, yr Harbwr a’r Marina i aber afonydd Rheidol ac Ystwyth.

Glan môr, prom a phier Aberystwyth, gyda Phen Dinas yn y pellter

Prom Aberystwyth, Ceredigion 

Bae Caerdydd

Mae Bae Caerdydd yn llawn dop o olygfeydd ffotogenig. O ochr draw’r marina, ymhyfrydwch ym mhanorama’r adeiladau eiconig, gan gynnwys brics coch adeilad y Pierhead, gweledigaeth lechi Canolfan Mileniwm Cymru a tho modern, tonnog y Senedd. Ar ôl ei adnewyddu’n llwyr dros y blynyddoedd diweddar, mae Bae Caerdydd yn denu pobl i fwynhau diwylliant, bwyd a diod: dewch draw gyda’r nos i weld sioe neu i gymdeithasu â ffrindiau. 

Pier Penarth

O fewn tafliad carreg, bron, i Gaerdydd, ond â’i naws lednais, fonheddig, unigryw, mae Penarth yn gartref i Bafiliwn y Pier hardd, sydd wedi cael ei adnewyddu er mwyn cynnal arddangosfeydd celf, sinema a cherddoriaeth fyw. Dyma wledd i garwyr Art Deco, gyda’r colofnau trawiadol wrth y fynedfa a’r to glas lliw’r môr yn crymu uwchlaw. Dewch yma ar doriad gwawr neu fachlud haul i weld yr adeilad fel pe bai’n pefrio, a’r pier yn sgerbwd du yn ymestyn i’r môr. Chwant bwyd? Gerllaw ar yr Esplanade mae Restaurant James Sommerin a’i seren Michelin.

Harbwr Solfach, Sir Benfro

Gallwch ddychwelyd dro ar ôl tro i Harbwr Solfach, a bydd yn edrych yn wahanol bob tro. Pan fydd y llanw ar ei uchaf, dim ond llain gul o draeth sydd yma, ond ar y distyll, does yna ddim ond nant yn rhedeg ar hyd cwm tywodlyd, sy’n lleoliad delfrydol i ddal crancod a chwarae yn y pyllau môr. Dringwch y penrhyn i gael y lluniau gorau o Solfach; bob ochr i’r gilfach a’i llongau hwyliau lliwgar, mae bryniau ir hyfryd.

Y Cei yng Ngheinewydd, Ceredigion

Mae'n anodd credu y gwelwch chi faes parcio cychod mwy taclus na’r un yng Ngheinewydd drwsiadus. Mae Traeth yr Harbwr yma’n boblogaidd gyda phobl yn torheulo yn yr haf, ac mae’r lleoliadau tynnu lluniau’n ddi-ben-draw wrth i ffotograffwyr snapio cychod o bob lliw a llun, a’r tai lliwiau losin yn dringo’r bryn i’r dref. 

Pen y Gogarth, Llandudno

Gan beri i bier hiraf Cymru edrych yn fach, hyd yn oed, mae Pen y Gogarth, Llandudno yn benrhyn calchfaen enfawr na allwch chi ddim peidio â thynnu lluniau ohono. Rhowch eich hun yn y llun drwy fynd ar gar cebl o Happy Valley i gopa’r Gogarth, 207 metr uwchlaw’r môr. Oddi yma cewch olygfeydd anhygoel i bob cyfeiriad dros Fae Llandudno, Trwyn y Fuwch neu’r Gogarth Fach, Morfa Conwy ac am filltiroedd dros y môr.

Car yn gyrru ar hyd ffordd droellog gyda'r môr ar yr ochr chwith

Car yn gyrru ym Mhen y Gogarth 

Straeon cysylltiedig