Gogledd Cymru

Abersoch, Pen Llŷn

Mae’r rhan hon o Ogledd Cymru yn gyrchfan hwylio. Os yw eich plant yn awyddus i ddysgu neu wella eu sgiliau yn hwylio dingi, caiacio neu hwylfyrddio, bydd Ysgol Hwylio Abersoch yn hapus i’ch helpu. Mae traeth tywodlyd Abersoch yn weddol gysgodol a heb gerrynt cryf, felly mae’n berffaith ar gyfer dyddiau diog yr haf. Ceir mynediad ar gyfer pobl anabl i’r traeth trwy lethr esmwyth ger y clwb golff.

Alt text: Y môr yn y gwyll, gydag ynys fach ac adar.
Cychod a chychod hwylio wedi'u hangori ar y traeth gyda'r llanw allan ar draeth Abersoch.

Abersoch, Gwynedd

Benllech, Ynys Môn

Mae mynediad rhwydd at draeth Benllech i goetsys a chadeiriau olwyn. Mae’r traeth Baner Las ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn yn ddelfrydol ar gyfer diwrnod allan i’r teulu. Gydag ehangder y traeth, pyllau glan môr a dŵr clir diogel oll i’w mwynhau, mae’n lle atyniadol i ymlacio neu roi cynnig ar chwaraeon dŵr. Mae yno gaffis a siopau’n agos at y bae, a rhagor ym mhentref Benllech ei hun.

Golygfa yn edrych dros draeth prysur

Benllech, Ynys Môn

Prestatyn, Sir Ddinbych

Mae ym Mhrestatyn bedair milltir o draethau tywodlyd, a’r mwyaf hygyrch ohonynt yw Traeth Canol. Mae’r traeth Baner Las hwn, hanner milltir yn unig o ganol y dref, ym man mwyaf gogleddol Llwybr Clawdd Offa. Mae’r cyfleusterau’n wych, gyda pharcio rhwydd, cawodydd y tu allan, cadeiriau dec ac ardal chwarae newydd. Mae criw achub yma ar waith yn ystod misoedd yr haf hefyd.

Llandrillo-yn-Rhos, Conwy

Mae’r traeth yn Llandrillo-yn-Rhos yn cael ei gysgodi gan forglawdd sy’n sicrhau nad yw’r tywod byth yn diflannu’n gyfan gwbl, hyd yn oed pan mae’r llanw’n uchel. Mae digonedd o lefydd parcio am ddim gerllaw. Mae promenâd Llandrillo-yn-Rhos yn hir ac yn fflat, sy’n ei wneud yn addas ar gyfer pramiau a chadeiriau olwyn. Mae’n gartref i’r Harlequin Puppet Theatre, theatr bypedau barhaol hynaf Prydain, a cheir ynddi sioeau cyson yn ystod cyfnod y gwyliau.

De Cymru

Bae Whitmore, Ynys y Barri 

Mae gan Canolfan Groeso Ynys y Barri (01446 747171) dair cadair olwyn addas ar gyfer y tywod y maent yn eu benthyca i bobl am ddim - dim ond i chi ddangos prawf ID. Mae’r traeth yn ffefryn gan deuluoedd, ond os nad yw hi’n dywydd torheulo, gallech chi fentro draw i Fae Caerdydd i hwylio yng nghanolfan Cardiff Sailing Centre, sydd â chyfleusterau hyfforddi hwylio’r RYA ar gyfer hwylwyr anabl.

Merch yn y môr yn defnyddio cadair olwyn traeth pob tir gyda'r fam y tu ôl.
Tri pherson yn gwthio cadeiriau olwyn traeth i lawr y llethr tuag at draeth tywodlyd

Cadeiriau olwyn addas ar gyfer y tywod, Bae Whitmore, Ynys Y Barri

Gorllewin Cymru

Aberllydan, Sir Benfro

Mae traeth hyfryd a diogel Aberllydan ger Hwlffordd yn un o nifer yn Sir Benfro lle mae modd llogi cadeiriau olwyn addas ar gyfer y tywod. Maent yn gyfforddus â chanddynt olwynion llydan sy’n gallu ymdopi â thywod a dŵr bas heb iddynt ddechrau suddo. Er mwyn cadw un ymlaen llaw, cysylltwch â Haven Sports Surf Shop ar Marine Road (01437 781354, info@havensports.co.uk).

Penrhyn Gŵyr

Mae gan nifer o draethau Penrhyn Gŵyr fynediad da, parcio i'r anabl a thoiledau hygyrch, gan gynnwys Traeth Abertawe, Bae Caswell, Bae Oxwich, Bae Horton a Phorth Einion. Gellir llogi dwy gadair olwyn traeth am ddim ym Mae Caswell gan y Cyngor ond mae'n hanfodol archebu ymlaen llaw trwy e-bostio Peter.Beynon@swansea.gov.uk neu ffonio 01792 635718.

Harbwr Ceinewydd, Ceredigion

Mae tipyn o gymeriad i’r rhesi teras Fictoraidd fu’n ddylanwad mawr ar Dylan Thomas yn y 1940au ac sy’n glwstwr uwch y bae bach tlws, lle mae dingis hwylio yn arnofio ar y dŵr pan mae’r llanw’n uchel. Mae nifer o strydoedd Ceinewydd yn serth, ond mae llethrau esmwyth yn arwain yr holl ffordd i lawr at y traeth. Mae dolffiniaid trwynbwl i’w gweld yn aml tu draw i’r bae. Darganfyddwch ragor am draeth Harbwr Ceinewydd.

Llun o harbwr a phentref Ceinewydd o'r awyr

Ceinewydd

Saundersfoot, Sir Benfro

Gyda thywod euraidd a llithrfa sylweddol, mae Saundersfoot ger Dinbych-y-pysgod yn lle delfrydol i dorheulo, nofio a hwylio. Mae gan draeth Saundersfoot bedair cadair olwyn addas ar gyfer y tywod, dwy o faint llawn a dwy maint plant, wedi eu rhoi yn garedig gan elusennau lleol. Gallwch eu llogi am ffi fechan. Er mwyn bwcio ymlaen llaw, cysylltwch â’r Ganolfan Groeso (01834 813672, saundersfoot.tic@pembrokeshire.gov.uk).

Teuluoedd yn chwarae ar y traeth
Llun o draed a choesau plentyn bach yn padlo yn y môr

Saundersfoot

Traeth Porth Mawr, Sir Benfro

Rhaid dilyn lôn wledig droellog o ddinas fach berffaith Tyddewi er mwyn cyrraedd y bae hwn, sy’n dipyn o ffefryn gan nofwyr, syrffwyr a rhai sydd ar eu gwyliau’n gwersylla yn un o’r meysydd gwersylla cyfagos. Mae’n well cyrraedd yn gynnar yn ystod yr haf, yn enwedig os ydych chi’n gyrru – mae’n gallu bod yn brysur. Mae gan y gwasanaeth cadeiriau dec lleol (01437 720692) ddwy gadair olwyn addas ar gyfer y tywod i’w llogi. Darganfyddwch ragor am draeth Porth Mawr.

Llun o berson yn edrych allan at y môr

Traeth Porth Mawr

Arfordir Penfro - Traethau mynediad hwylus

Mae 14 o gadeiriau olwyn traeth ar gael i'w defnyddio ar draws Arfordir Penfro trwy system archebu ar-lein. Bydd angen o leiaf 48 awr o rybudd ond ar ôl archebu, bydd y gadair olwyn yn aros amdanoch ar y traeth o'ch dewis. Mae yna 18 o draethau i ddewis ohonynt. Gellir gweld rhestr o draethau â mynediad rhwydd atynt a manylion cyfleusterau ar wefan Arfordir Penfro.

Cadair olwyn traeth ar dywod ym Mae Gorllewin Angle, Sir Benfro.

Bae Gorllewin Angle, Sir Benfro

Dolenni defnyddiol

Accessible Countryside For Everyone: Adnodd gwych er mwyn dod o hyd i wybodaeth am lefydd hygyrch yn y Deyrnas Unedig.

Information Now: Erthygl â dolenni er mwyn dod o hyd i’r toiledau cyhoeddus agosaf, gan gynnwys toiledau anabl a rhai sy’n rhan o gynllun RADAR/National Key Scheme.

Tourism For All: Gwybodaeth i deithwyr trên anabl sy’n teithio i Gymru.

Straeon cysylltiedig