1. Dewis traeth ag achubwyr bywyd

Bag traeth, gwisg nofio, tywel ac eli haul yn barod. Mae achubwyr bywyd yr RNLI’n goruchwylio 40 traeth arobryn ledled Cymru, ble mae pobl broffesiynol sydd wedi derbyn hyfforddiant wrth law i’ch cadw chi’n ddiogel yn y dŵr, ac allan ohono. Maen nhw’n monitro cyflwr y môr, yn cynnig cyngor diogelwch ac yn cadw llygad arnoch chi, eich teulu a’ch ffrindiau wrth i chi fwynhau ar y traeth.

Wyddoch chi mai’r lle mwyaf diogel i nofio neu gorff-fyrddio yw rhwng y baneri coch a melyn? Mae baneri sgwariau bach du a gwyn yn golygu fod yr ardal yn ddiogel ar gyfer badau dŵr fel caiac neu fwrdd syrffio. Mae baner goch yn golygu perygl – peidiwch â mynd i’r dŵr. Gellir cael rhestr o’r holl draethau ble ceir achubwyr bywyd yr RNLI ar eu gwefan.

Achubwyr bywyd ar draeth Dinbych-y-pysgod.
Arwydd'This way to the lifeboat' yn Ninbych-y-pysgod.

Dinbych-y-pysgod

2. Gwirio amser y llanw cyn cychwyn

Mae gan arfordir de-ddwyrain Cymru un o'r gwahaniaethau mwyaf rhwng llanw uchel ac isel yn y byd. Gallwch chi archwilio ynysoedd llanw trawiadol ledled Cymru hefyd, fel Pen Pyrod, Ynys Llanddwyn ac Ynys Sili i enwi ambell un. Gall rhai o’n traethau hirfaith euraidd gyda’u cilfachau dramatig ymddangos fel caeau chwarae eang, a gall cerdded i ddarganfod ynys lanw deimlo fel antur teilwng o lyfrau Cyfres y Llewod! Ond cofiwch, gall y llanw ddod i mewn yn syndod o gyflym.

Peidiwch â chael eich dal. Gwiriwch amser y llanw cyn i chi gychwyn, holwch am wybodaeth yn lleol am y lle rydych chi’n bwriadu mynd iddo, cadwch lygad ar arwyddion diogelwch, a gadewch i rywun wybod pryd i’ch disgwyl adref.

Pobl yn cerdded tuag at yr arfordir

Pen Pyrod

3. Paratoi

Os ydych chi’n adeiladwr cestyll tywod, yn syrffiwr neu’n forwr, cofiwch gynnal eich egni drwy gario cyflenwad o fwyd a diod gyda chi. Os ydych chi’n bwriadu treulio’r diwrnod ar ei hyd ar y traeth, beth am gyfuno syrff a swnd â selsig drwy gael barbeciw ar y traeth, neu beth am fwynhau blas arfordir Cymru ar ei orau yn rhai o’n bwytai glan-môr a pop-yps bwyd stryd fel Café Môr yn Freshwater West.

Gall llosg haul neu heuldrawiad ddifetha eich diwrnod hefyd. Cofiwch bacio’r eli haul, het haul a sbectol haul, ac ewch i’r cysgod yn enwedig yn ystod rhan boethaf y dydd. A chofiwch fynd â’ch sbwriel adref gyda chi!

Busnes bwyd pop-up ar draeth
Modrwy bywyd ar Fresh Water, Sir Benfro
Menyw yn trosglwyddo bwyd trwy'r ffenestr.

Café Mor, Sir Benfro

4. Bywyd gwyllt – edrych, ond dim cyffwrdd

Mae traethau Cymru ymysg y glanaf ym Mhrydain gyfan. Ac nid dim ond ni sy’n dweud hyn; mae ein Baneri Glas yn profi hynny. Mae ein harfordir hefyd yn eithriadol o hardd ac yn gyforiog o fywyd gwyllt. Mae hi’n llawer iawn o hwyl darganfod cyfoeth glan y môr gyda’r teulu cyfan. Gallwch ddarganfod byd newydd o fywyd gwyllt mewn pyllau bas rhwng creigiau a thywod.

Er bod y rhan fwyaf o greaduriaid yn ddiniwed, mae môr-wiberod, sglefrod môr ac anemonïau’r môr yn bethau sy'n hawdd i’w darganfod, ond sydd yn medru achosi anaf poenus, felly cofiwch edrych ond dim cyffwrdd. Holwch achubwr bywyd os nad ydych chi’n sicr.

5. Adnabod eich ffiniau

Mae gan donnau grymus, gwynion y potensial i ddeffro’r anturiaethwr ynom ni i gyd. Dyma un o nodweddion mwyaf cyffrous a thrawiadol ein harfordir, yn enwedig mewn traethau cyffrous fel Traeth Mawr, Niwgwl a Phorth Neigwl. Ystyriwch eich ffiniau a’ch profiad eich hun bob amser, am fod tonnau’n gallu eich taro oddi ar eich traed yn hawdd. Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt deufor-gyfarfod (rip) sef cerrynt cryf iawn sy’n llifo allan i’r môr. Wyddoch chi fod deufor-gyfarfod yn gallu symud ar gyflymder o 4.5 milltir yr awr? Mae hynny’n gynt na nofiwr Olympaidd. Pan fydd y môr yn arw, mwynhewch rym y dŵr a’r tonnau o bellter diogel a hyd braich.

Parchwch y Dŵr: Os cewch eich dal mewn cerrynt deufor-gyfarfod, peidiwch â mynd i banic na cheisio nofio yn ei erbyn. Os gallwch, safwch yn stond a cheisiwch gerdded. Os nad ydych chi’n gallu sefyll, nofiwch yn gyfochrog â’r lan, codwch eich llaw a gwaeddwch am gymorth.

Golygfa o'r môr a'r llinell lan o'r creigiau ar dir uchel

Porth Neigwl, Eryri

6. Meddwl am y tywydd ac offer

Mae arfordir Cymru’n edrych yn barod am antur bob amser waeth beth fo’r tywydd, ond hyd yn oed os yw’r haul yn tywynnu, mae’r môr o gwmpas glannau Cymru wastad yn llawer oerach nag y mae’n edrych. Os ydych chi’n cynllunio i fwynhau’r dŵr, gwiriwch gyflwr y môr a’r tywydd – gan gynnwys tymheredd y dŵr – cyn cychwyn. Gwisgwch siwt wlyb o drwch addas ar gyfer y tymheredd a’r math o weithgaredd rydych chi’n mynd i’w wneud. Gwisgwch siaced fywyd neu gymhorthydd arnofio (ar gyfer caiacio, mynd mewn cwch ac ati) a pheidiwch ag anghofio cario dull addas o alw am gymorth.

Parchwch y Dŵr: os byddwch chi’n disgyn i ddŵr oer yn annisgwyl, rhaid i chi geisio gwrthsefyll eich greddf i gorddi’r dŵr â’ch coesau neu nofio’n galed. Y peth gorau i’w wneud yw ymlacio ac arnofio ar eich cefn i adfer eich gwynt. Unwaith y bydd sioc y dŵr oer wedi pasio, galwch am gymorth, ceisiwch ddod o hyd i rywbeth nofiadwy i’w ddal, neu nofiwch i le diogel os yw’n bosib. www.respectthewater.com 

Bachgen yn Abereiddi, Sir Benfro - mewn siaced achub felen a helmed goch.

Abereiddy

7. Gadael i’r arbenigwyr arwain y ffordd

Mae Cymru’n barod am bob math o antur awyr agored. Os ydych chi’n rhoi cynnig ar weithgaredd arfordirol newydd, beth am fynd gydag arweinydd cymwys, neu cofrestrwch i gael sesiwn flasu yn gyntaf. Fe welwch chi ysgolion syrffio, profiadau arfordira, gwyliau cerdded yr arfordir, hyfforddiant barcudfyrddio a llawer mwy. Dyma’r ffordd ddelfrydol o ennill hyder, rhoi tro ar eich offer, a dysgu sut i brofi’r gweithgaredd mewn ffordd ddiogel. Beth am ddarganfod eich antur arfordirol nesaf?

Grŵp o bedwar syrffiwr yn rhedeg ar y traeth.
Modrwy achub bywyd oren ar ffens gyda glaswellt o'i cwmpas

Freshwater West, Sir Benfro

8. Gwybod sut i alw am gymorth

Fyddech chi’n gwybod beth i’w wneud pe baech chi’n gweld rhywun (hyd yn oed cyfaill pedair coes) mewn trafferthion ar yr arfordir? Er mor anodd yw hi i wrthsefyll y reddf i’w dilyn i’r dŵr, ein cyngor ni yw dweud wrth achubwr bywyd, neu ffonio 999 neu 112 a gofyn am Wylwyr y Glannau.

Os ydych chi eisiau helpu, ceisiwch weiddi cyfarwyddiadau am sut i arnofio, neu ceisiwch ddod o hyd i rywbeth nofiadwy i’w daflu atynt i’w helpu i gadw pen uwchlaw’r dŵr. Peidiwch â mynd i mewn i’r dŵr heb hyfforddiant cywir, profiad neu offer.

Straeon cysylltiedig