Mae adar gwyllt a mamaliaid yn heidio i ddyfroedd mewndirol Cymru - yn ogystal â phobl sydd wrth eu bodd â byd natur - a cheir cyfleoedd di-ri am ddiwrnod tawel yn yr awyr agored.

Chwaraeon dŵr penigamp

Ffurfiwyd Llyn Tegid, fel sawl un arall o blith llynnoedd Eryri, yn Oes yr Iâ, pan gerfiodd y rhewlifoedd ddyffryn mawr dwfn a gadael mur enfawr o ddaear a chreigiau o'i gwmpas. Dyma'r llyn mwyaf yng Nghymru, yn bedair milltir ar ei hyd ac yn cyrraedd dyfnder o 40 metr, ac os credwch chi'r hen chwedlau mae bwystfil yn llechu o dan y dyfroedd, fel un Loch Ness. Mae digonedd o le yma, felly, ac mae'r tywydd yn dueddol o fod yn gymedrol hefyd, felly mae'n lle da i gaiacio, hwylio a hwylfyrddio. Gallwch logi cyfarpar gan ddarparwyr cymeradwy ar ben gogleddol y llyn.

Ar gefn eich beic

Yng Nghwm Elan ym Mhowys mae cadwyn o gronfeydd dŵr a grëwyd rhwng diwedd y 19eg ganrif a chanol yr ugeinfed ganrif i ddarparu dŵr i ddinas Birmingham, drwy godi argae ar draws afonydd Elan a Chlaerwen. Gallwch fynd ar gefn eich beic ar hyd y glannau braf wrth ddilyn Llwybr Cwm Elan, rhan o rwydwaith feicio genedlaethol Sustrans a sefydlwyd ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Cwm Elan. Mae'r llwybr yn dechrau yn Rhaeadr Gwy ac yn mynd heibio Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan ac Argae Craig Goch, ac fe gewch chi dro bach braf yn dilyn yr hen reilffordd, heb fawr ddim o draffig o'ch cwmpas. Mae'n cymryd oddeutu awr i fynd o un pen o'r llwybr i'r llall.

Two people taking two dogs for a walk, walking over a bridge with autumnal trees in the background
Image of dark water and rocks
Cwm Elan

Y mynyddoedd ar eu gorau

Llyn Llydaw, Eryri - gallem sôn am sawl un o blith holl lynnoedd Cymru yma, ond Llyn Llydaw heb os yw'r harddaf, yn enwedig ar ddiwrnod braf pan welwch chi adlewyrchiad perffaith o'r Wyddfa ar yr wyneb. Ewch yn syth at y llyn ar hyd Llwybr y Mwynwyr gan gychwyn o faes parcio Pen-y-Pass ar yr A4086. Mae'n llwybr da, hawdd ei gerdded, ac fe welwch olygfeydd godidog o Nant Gwynant a'r Wyddfa. Os hoffech chi fynd am dro mwy heriol, cerddwch tua Llyn Glaslyn ac ymlaen tuag at gopa'r Wyddfa. Bydd yn rhaid dringo llethrau serth ar y ffordd, ond os ydych chi'n weddol sionc fe ddylech fedru cerdded o Ben-y-Pass i Hafod Eryri ac yn ôl mewn chwech awr.

Heidio i wylio adar

Mae Llyn Efyrnwy yn y Canolbarth yn gronfa ddŵr anferth a grëwyd yn Oes Fictoria drwy godi argae mawr o gerrig. Hwn yw'r argae hynaf o'i fath yn y byd, wedi'i adeiladu yn y 1880au. O gwmpas y llyn mae bryniau braf a choedwigoedd sy'n rhan o warchodfa natur a reolir gan yr RSPB a chwmni dŵr Severn Trent. Gallwch ddisgwyl gweld boncathod, llinosod gwyrddion a gwyachod yma, a chlywed caneuon clochdar y mynydd, telor y coed a'r tingoch. Ewch amdani mewn steil wrth aros yng Ngwesty Llyn Efyrnwy, un o'r llefydd prin hynny lle gallwch weld glannau llyn o ffenestr eich ystafell wely.

Image of the lake with the straining tower and trees in the background
Llyn Efyrnwy a'r tŵr hidlo, Powys

Plantos, coetsis a chadeiriau olwyn

Ar lannau Llyn Cwellyn yn Eryri mae pobl o bob gallu'n medru mwynhau hyfrydwch byd natur. Mae lle parcio i'r anabl yn Hostel y Snowdon Ranger yn ogystal â thoiled hygyrch a safle bws i ddal Sherpa'r Wyddfa. O'r fan honno gallwch fynd ar hyd Llwybr Ianws, llwybr 400 metr o hyd sy'n addas i gadair olwyn, gyda golygfeydd anhygoel o'r Parc Cenedlaethol. Ar ôl cychwyn ar y cerrig mân byddwch yn mynd dros lwybr bordiau drwy'r coed hyfryd ar lannau Llyn Cwellyn, llyn rhewlifol y rhoddwyd argae ar ei draws i greu cronfa ddŵr.

Hen, hen hanes

Ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mae Llyn Syfaddon, ac ar y glannau saif crannog o'r 12fed ganrif. Adeiladwyd yr ynysoedd bach hyn fel strwythurau amddiffynnol, ac roeddent yn dra chyffredin yn Iwerddon a'r Alban rhwng 5,000 a 400 o flynyddoedd yn ôl, ond dyma'r unig un y gwyddwn amdano yng Nghymru. Credir y bu Brenin Brycheiniog yn byw yma. Cewch fwy o wybodaeth am y llecyn hyfryd hwn yn y ganolfan ddehongli.

Yn frith o frithyll

Llyn hirgul a ffurfiwyd yn Oes yr Iâ yw Llyn Mwyngil, Tal-y-llyn, ar odre Cader Idris yn Eryri, a daw pobl o bell ac agos i bysgota am y brithyll brown sy'n byw yma. Mae'n lle da i wylio bywyd gwyllt hefyd – gallwch ddod o hyd i sgwarnogod, dyfrgwn, gwencïod, carlymod a ffwlbartiaid a gweld cigfrain a barcutiaid cochion yn hedfan uwch eich pen. Efallai'n wir y cewch gip ar walch y pysgod o Brosiect Gweilch Dyfi, sy'n gweithredu yng Ngwarchodfa Cors Dyfi ger Machynlleth.

Car driving away from the camera on a windy country road with a lake and mountains in the distance
Llyn Mwyngil, Talyllyn

Codi stêm

Ffurfiwyd Llyn Padarn yn Eryri yn Oes yr Iâ, ac mae'n ddwy filltir o hyd, chwarter milltir o led ac yn cyrraedd dyfnder go fawr o 29 metr. Ar y glannau i'r de-ddwyrain saif Llanberis, lle poblogaidd iawn â rhai sy'n hoff o'r awyr agored, a phentref bach Gilfach Ddu, lle dewch o hyd i Amgueddfa Lechi Cymru a Rheilffordd Llyn Padarn. Mae'r trenau bach stêm yn cymryd oddeutu awr i gwblhau taith hyfryd o bum milltir, gan bwffian yn braf ar hyd glannau'r llyn a chael seibiant yng Nghei Llydan ar hanner ffordd. Dyma le da am bicnic, ac mae croeso i chi gamu oddi ar y trên a dal yr un nesaf yn ôl.

Llyn Padarn, near Llanberis, Snowdonia
Llyn Padarn, Llanberis

Straeon cysylltiedig