Arfordir De Cymru a Moryd Hafren

Wrth gwrs, mae’r cyfan yn dechrau gyda chastell. Mae Cas-gwent yn gartref i gadarnle sydd wedi goroesi’n rhyfeddol, a dyma ble mae Llwybr Arfordir Cymru’n dechrau (neu’n gorffen, yn dibynnu o ble rydych hi’n cychwyn!). Yma hefyd mae’n cysylltu â Chlawdd Offa, y llwybr sy’n rhedeg ar hyd ffin Cymru a Lloegr. O anelu am y gorllewin, mae’r llwybr yn mynd â chi i ganol cyffro’r dinasoedd, a thrwy brifddinas lachar Cymru. Ym Mae Caerdydd, ewch am daith o gwmpas y Senedd (cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru). Yna gallwch weld sioe yng Nghanolfan y Mileniwm, y ganolfan berfformio ryngwladol eiconig. Gallwch adfer eich nerth yn un o’r barrau a’r bwytai niferus sydd yn yr ardal. Os ydych chi’n teimlo’n egnïol iawn, gallwch roi cynnig ar her yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd. Mae traethau godidog a llawer mwy ar hyd Arfordir Treftadaeth Morgannwg rhwng Aberddawan a Phorthcawl, ble gallwch oedi yn y castell a fu’n gartref di-dor i bobl am amser hir, San Dunwyd, sy’n gartref i’r lleoliad diwylliannol cyfoes arbennig, Canolfan Celfyddydau San Dunwyd.   

two people white water rafting at Cardiff International White Water.

Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe 

Penrhyn Gŵyr oedd yr ardal gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae’n hawdd gweld pam. Cafodd Bae Rhosili ei enwi’n ddiweddar yn draeth gorau’r DU ar TripAdvisor, a gall Bae’r Tri Chlogwyn cyfagos hawlio’r golygfeydd gorau o gae gwersylla unrhyw le ym Mhrydain, gyda golygfeydd ysblennydd ar draws twyni tywod, clogwyni calchfaen a morfa heli. O Rosili, gwiriwch amser y llanw cyn mentro allan i Ben Pyrod, ynys lanw fendigedig ble daliwyd y bardd Dylan Thomas gan y tonnau un tro! I’r rheiny sy’n hoffi syrffio mae tonnau traethau Caswell a Langland yn werth eu dal, tra bo modd llogi bwrdd padlo i sefyll arno oddi wrth 360 Chwaraeon Traeth a Dŵr. Mae’r llwybr yn cordeddu drwy ddinas Abertawe hyd at y Marina, llecyn deniadol yn llawn o gaffis awyr-agored, bariau ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sy’n rhad ac am ddim. Cofiwch alw heibio’r Mwmbwls, hen bentref pysgota hudolus sydd bellach yn denu pobl i fwyta hufen ia a mwynhau’r golygfeydd ar draws y bae o ddatblygiad glan-môr newydd Oyster Wharf.

Golygfa o'r awyr o Ben Pyrod yn ymestyn allan i'r môr

Bae'r Tri Chlogwyn, Penrhyn Gŵyr

Sir Gaerfyrddin

Rhedwch fel y gwynt ar draethau Cefn Sidan a Phentywyn, dau o draethau hiraf Cymru. Gosodwyd a thorrwyd record byd cyflymder ar dir ym Mhentywyn ar ddechrau’r 20fed ganrif. Heddiw gall anturiaethwyr godi cyflymder y galon drwy roi cynnig ar fygi-barcud, hwylio tir a Blo-karting. Bydd teuluoedd wrth eu bodd ym Mharc Gwledig Pen-bre, sy’n cefnu ar draeth Cefn Sidan ac yn cynnig digonedd o weithgareddau i blant bach, ynghyd â chanolfan farchogaeth. Mynnwch hufen ia, llogwch feic yng Nghanolfan Ddarganfod Parc Arfordir y Mileniwm, sy’n adeilad modern trawiadol. A chofiwch alw yn Nhalacharn, y dref lan-môr a hudodd Dylan Thomas. Gallwch ymweld â’r Boathouse, ble roedd e’n byw, a phicio i Browns, ei hoff dŷ tafarn. 

Golygfa o'r aber ar bwys Talacharn

Talacharn – un o hoff lecynnau Dylan Thomas

Sir Benfro

Mae Sir Benfro’n gartref i 58 traeth, 14 harbwr a llwybr pell ail-orau’r byd, yn ôl National Geographic. Yma, mae Llwybr Arfordir Cymru’n dilyn y Llwybr Cenedlaethol trawiadol, Llwybr Arfordir Sir Benfro; ar hyd ei 186 milltir, fe ddewch o hyd i ddinas leiaf y DU, Tyddewi, cartref Cadeirlan ysblennydd ac adfeilion atmosfferig Llys yr Esgob. O blith yr holl draethau gwych, daliodd Freshwater West a thraeth Marloes lygad y gwneuthurwyr ffilmiau, a gwelir eu golygfeydd dramatig yn Harry Potter, Robin Hood a Snow White and the Huntsman. Os oes chwant bwyd arnoch chi, mae Coast yn Saundersfoot yn cynnig bwydlen ragorol a ysbrydolwyd gan y môr, a hynny reit ar lan y dŵr. Mae Sir Benfro’n lle rhagorol i daflu eich hun oddi ar lwybr yr arfordir i’r môr, yn llythrennol felly: yma y mentrwyd gyntaf ar y gamp gyffrous o Arfordira, ac mae’r Lagŵn Glas yn Abereiddi wedi cynnal Cystadleuaeth Plymio Clogwyni Rhyngwladol Red Bull droeon.  

Three male walkers on Wales Coast Path, Pembrokeshire, West Wales

Ceibwr, Sir Benfro

Ceredigion

O unrhyw un o’r traethau sy’n wynebu’r gorllewin ar hyd rhan Ceredigion o Lwybr Arfordir Cymru, fe welwch chi fachlud godidog, a’r môr yn glytwaith o liwiau dan belydrau olaf yr haul. Ym Mwnt, ysbrydol a chyfrinachol, cewch gip ar ddolffiniaid a morfilod, neu gallwch fynd am dro ar gwch o Aberteifi gyda A Bay to Remember. Ymhellach tua’r gogledd mae Aberaeron, un o drefi pertaf Cymru â’i thai glan-môr o liwiau siop losin. Am ddos o ddiwylliant ger y môr, mae hi’n werth ymweld â Theatr Mwldan yn Aberteifi, neu anelwch am Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth. Mae Rheilffordd Craig Aberystwyth yn mynd â chi mewn trên bach i fryn Craig Glais, neu Consti, gan gynnig golygfeydd bendigedig o’r arfordir. 

Golygfa o'r traeth wrth i'r haul fachlud

Mwnt, Ceredigion

Menai, Llŷn a Sir Feirionnydd

Profiad deniadol yr oes a fu gewch chi ar lan y môr yn Aberdyfi ac Abermaw/y Bermo; ar gyrion y Bermo (fel y gelwir ef gan y bobl leol) mae bwyty cyfoes Norbar, bar a bwyty slic sy’n ddelfrydol i oedi ynddo am dipyn. Rhwng y Friog a’r Bermo mae darn arbennig o hardd o’r llwybr, sy’n cynnig golygfeydd o Aber Mawddach a Chader Idris a Pharc Cenedlaethol Eryri’n bwrw’i gysgod. Cewch eich taro gan dri o gestyll grymus yr arfordir yn Harlech, Cricieth a Chaernarfon, tra bo Portmeirion yn wlad o hud a lledrith gyda’i phensaernïaeth chwareus a’i blodau lliwgar. Mae ardal Pen Llŷn yn un o wir ogoniannau Cymru. Mae gan y llwybr deimlad gwyllt a rhamantus yma. Dringwch i Uwchmynydd o Aberdaron i deimlo eich bod wedi cyrraedd diwedd y byd – ac i deimlo’n un â byd natur. 

Llun o westy ar y lan y dŵr ar ochr dde y llun

Portmeirion, Gwynedd

Ynys Môn

Mae'r rhan fwyaf o arfordir Ynys Môn wedi’i ddynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Cewch olygfeydd godidog o fôr, mynyddoedd a choedwigoedd wrth i chi gerdded allan i Ynys Llanddwyn ar hyd y traeth. Mae’n werth y daith, i gael mwynhau’r safle heddychlon ac ysbrydol hwn, man gorffwys nawddsant y cariadon, Santes Dwynwen. Ar ymyl gorllewinol yr ynys mae Caergybi, a gyda'i draed yn y môr mae Goleudy Ynys Lawd – lleoliad bythgofiadwy i bob ffotograffydd. Yn ôl tua’r tir mawr, cofiwch am Gastell Biwmares, sy’n cael ei ystyried fel y castell mwyaf technegol berffaith ym Mhrydain gyfan. Chwant gweld Môn o ongl arall? Dewch ar daith RIB gyffrous, wrth i’r cwch modur cyflym daranu o dan bontydd ysblennydd Afon Menai. Ar y daith i Ynys Seiriol, fe welwch chi gannoedd o balod, ynghyd â morloi, bilidowcars a sawl hen longddrylliad.

Trees at Llanddwyn Island

Niwbwrch, Ynys Môn

Gogledd Cymru a Moryd Dyfrdwy 

Mae Castell Conwy hanesyddol yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, gydag adeiladau hynafol sydd wedi derbyn gofal eithriadol ynghyd, â chastell gwirioneddol ryfeddol – a’r cyfan lai na herc, cam a naid o’r arfordir. Tref lan-môr eich breuddwydion yw Llandudno, sy’n adnabyddus am y cyswllt â Lewis Carroll ac Alys yng Ngwlad Hud, ond yma hefyd mae Pen y Gogarth gogoneddus. Mae’r llwybrau serth i’r copa’n cynnig golygfeydd anhygoel o’r arfordir, ac os yw’r coesau’n gwegian, gallwch fynd i’r brig mewn tram neu gar cebl. Yn Llandudno y mae pier hiraf Cymru hefyd – 2,295 troedfedd – ac mae dos o ddiwylliant i’w gael yn amgylchedd soffistigedig Venue Cymru, lleoliad celfyddydau perfformio ar lan y môr. Mae digon o fywyd gwyllt i’w weld ym Mae Colwyn, a thraethau euraid ym Mhrestatyn, cyn i lwybr yr arfordir ddirwyn i ben gyda chastell arall – beth arall?! Castell y Fflint, o’r 13eg ganrif, oedd y castell cyntaf i’w adeiladu yng Nghymru yn ystod goresgyniad milain Edward I. Cofiwch aros i edmygu mawredd goleudy Talacre, ar lwybr yr arfordir rhwng Prestatyn a’r Fflint.

Conwy castle taken with Welsh flags taken from a hill a few fields away.

Castell Conwy

Straeon cysylltiedig