Ewch i blymio sgwba i weld olion hen longddrylliad, ewch i syrffio mewn caiac, neu syrthiwch - i gysgu! - oddi ar ochr clogwyn. A chofiwch, os yw’r profiad ‘bwced a rhaw’ clasurol yn eich denu, yn yr hen ddull glan môr traddodiadol, wnawn ni ddim gweld bai!

Syrffio

Mae syrffio’n newyddion mawr yng Nghymru ac mae’r wlad wedi sefydli’i Ffederasiwn Syrffio Cymru ei hun yn ddiweddar. Does ryfedd fod syrffio mor boblogaidd yma - mae traethau Cymru’n darparu’r amodau delfrydol ar gyfer ymarfer, yn ogystal â lagŵn syrffio mewndirol cyntaf y byd yn Nyffryn Conwy - Surf Snowdonia. Mae gan Borthcawl yn Ne Cymru gymuned syrffio fywiog ac mae Ysgol Syrffio Porthcawl yn cynnig popeth o wersi i ddechreuwyr i benwythnosau syrffio i fenywod.

Person yn cerdded ar y traeth tuag at y môr gyda bwrdd syrffio ar draeth Porthcawl
Tri pherson ar fyrddau syrffio yn Adventure Parc Snowdonia

Traeth Pprthcawl ac Adventure Parc Snowdonia 

Barcut-syrffio

Ffrwynwch ynni’r gwynt mewn lleoliadau arfordirol o gwmpas Cymru er mwyn teimlo ias ddigymar barcut-syrffio. Gall y rheiny sy’n berchen ar yr offer a’r gallu anelu’n syth am rai o draethau gorau’r wlad i gymryd rhan yn y gamp hon, yn Niwgwl, Sir Benfro, er enghraifft, neu Langennydd ar Benrhyn Gŵyr, Porth Neigwl ar Ben Llŷn a Rhosneigr ar Ynys Môn – heb anghofio’r brifddinas syrffio ym Mhorthcawl. Dechreuwr? Mae’r Big Blue Experience, a leolir yn Niwgwl, yn cynnal cyrsiau diwrnod neu ddeuddydd i’r rheiny sydd eisiau dechrau barcut-syrffio, ac maen nhw’n addas i unrhyw un 13 oed a hŷn.  

Dyn yn barcudfyrddio ar draeth Neigwl gyda thywod mewn y pellter

Barcut-syrffio, Traeth Neigwl

Caiacio syrff

Yn ogystal â’r teithiau canŵio a chaiacio arferol a gynhelir gan y cwmni ar hyd aberoedd hardd Gogledd Cymru, mae Snowdonia Adventure Activities hefyd yn cynnig profiad caiacio anarferol: caiacio syrff! Mae hyn yn golygu mynd â’r caiacs i lawr i’r traeth a rhwyfo allan er mwyn dawnsio dros y tonnau. Mae’n gyffrous ac yn llawer o hwyl, ac yn addas i bobl sydd wedi rhwyfo o’r blaen. Am brofiad mwy hamddenol - ac i ddechreuwyr - gallwch fynd am dro neu ar saffari ymlaciol mewn canŵ neu gaiac ar hyd afon, i wylio bywyd gwyllt ac oedi ar y lan i nofio. Delfrydol.

Arfordira

Does bosib mai’r ffordd orau i brofi glan y môr yw drwy daflu eich hunan yn hollol rydd i ryferthwy’r môr – wel, dyna feddyliodd arloeswyr arfordira, yn amlwg, pan wnaethon nhw ddyfeisio’r gamp yn Sir Benfro. Mae arfordira’n cynnwys neidio oddi ar glogwyni, sgramblo a hyd yn oed nofio gyda morloi’r Iwerydd, os ydych chi’n ffodus, wrth i chi ddod o hyd i’ch ffordd o gwmpas yr arfordir. Gallwch arfordira mewn sawl lle ar hyd yr arfordir, ac mae darparwyr fel Preseli Venture neu Celtic Quest yn cynnig anturiaethau arfordira hanner diwrnod neu hyd yn oed benwythnosau cyfan, i bawb o wyth oed i fyny.

Criw yn arfordira rhwng clogwyni yn Sir Benfro.
Criw yn neidio i'r tonnau wrth arfordira yn Sir Benfro.

Arfordira, Sir Benfro

Gwersylla ar glogwyn

Dewch i brofi’r arfordir o ongl hollol wahanol – oddi ar ochr clogwyn, gan syllu i lawr ar y tonnau. Ac nid edrych yn unig fyddwch chi – yn ogystal â’u ‘Prynhawn ar y Dibyn’, mae Gaia Adventures yn trefnu gwersylla ar glogwyn i unrhyw un sy’n dymuno cysgu ar y dibyn! Mae’r profiad, sy’n digwydd ar Ynys Môn, yn cynnwys ymarfer abseilio cyn i chi ddisgyn i’ch ‘portaledge’ sy’n gallu cynnal hyd at bedwar o bobl, a ble byddwch chi’n mwynhau bwyta swper poeth wrth i’r haul fachlud, a noson o dan y sêr â’r tonnau’n llepian islaw.

Rafftio

Gwyddom fod Caerdydd yn brifddinas fywiog sy’n llawn o holl atyniadau’r ddinas fawr, ond wyddech chi ei bod hi hefyd yn cynnig antur i gyffroi pawb sy’n caru’r amgylchedd naturiol hefyd? Lleolir Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd ym Mae Caerdydd ac mae’n cynnig cyfle i rafftio yn y ddinas, dafliad carreg o ddŵr agored Môr Hafren, ar gwrs dŵr llawn hwyl, gyda hyd at bump o ffrindiau! Maen nhw hefyd yn cynnig rafftio i’r teulu, canŵio a chaiacio a ‘hot-dogging’, gweithgaredd hwyliog i ddau o bobl sy’n cynnwys caiac gwynt a llawer o ddŵr garw cyffrous!

Grŵp o bobl mewn cwch rafft gyda rhwyfau yn Dŵr Gwyn Rhyngwladol Cymru

Rafftio yn Dŵr Gwyn Rhyngwladol Cymru

Rhwyf-fyrddio

Mae rhwyf-fyrddio (‘stand-up paddleboarding’ neu SUP) wedi bod yn aflonyddu’r dyfroedd(!) ymysg dŵr-garwyr dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnig cyfle i godi uwchlaw lefel y môr ar eich bwrdd SUP eich hun, a llywio cwrs drwy’r dŵr fel anturiaethwr eofn. Mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn cynnig sesiynau SUP, ac ychydig ymhellach i’r gorllewin, mae 360 yn Abertawe hefyd yn lle gwych i roi cynnig ar y gamp. Ceir pedair lefel sy’n darparu ar gyfer plant o bump oed, hyd at oedolion a sesiynau preifat. 

Ymgolli yn y Gymraeg

Efallai nad ydych chi’n byw mewn ardal ble clywir y Gymraeg yn rheolaidd. Os hoffech ymgolli mewn cymuned sy’n gyfan gwbl Gymraeg, anelwch am Ben Llŷn. Yno, rhaid i chi ymweld â phentref unigryw Nant Gwrtheyrn, cartref y Ganolfan Iaith a Threftadaeth Genedlaethol. Mae llawer mwy na gwersi Cymraeg ar gynnig yma, gan gynnwys llety pum seren yn hen fythynnod chwarelwyr y llecyn diarffordd a hardd hwn, bwyty da, a chyfle i ddeall hanes y Nant, ddoe a heddiw. 

Llun o'r awyr yn edrych i lawr ar y pentref, gyda choed ar un ochr a'r môr ar yr ochr arall

Nant Gwrtheyrn, Pen Llŷn

Plymio sgwba

Bydd haneswyr sy’n hoffi plymio sgwba wrth eu bodd ar arfordir Cymru, gan ei fod yn cynnig digonedd o gyfleoedd i archwilio hen longddrylliadau, yn ogystal â bywyd gwyllt y môr. Mae Penrhyn Rhoscolyn oddi ar Ynys Môn yn un o’r safleoedd plymio drifft gorau ym Mhrydain, gyda chyfle i gael cip ar longddrylliadau, pysgod, cimychiaid ac anemonïau os yw’r cerrynt yn llifo’n iawn. Erioed wedi plymio i’r dyfnderoedd o’r blaen? Mae Anglesey Divers yn cynnig cwrs undydd ‘Rhoi Cynnig ar Blymio Sgwba’ sy’n dechrau yn y pwll nofio ac yn parhau yn y môr.

Celf a diwylliant 

Mae arfordir Cymru’n atyniad enfawr i’r llygad ac yn ysbrydoliaeth ddi-ben-draw i’r bobl sy’n byw ar ei hyd ac yn ymweld â hi. Bob mis Medi, bydd yr Helfa Gelf yn digwydd yng Ngogledd Cymru, wrth i lawer o stiwdios artistiaid a chrefftwyr a leolir ger y môr agor eu drysau i’r cyhoedd am fis. Ewch ar antur i ymweld â gweithdai arlunwyr, gemyddion, crochenwyr, artistiaid tecstilau, a llawer mwy. I ymgolli mewn theatr, cerddoriaeth a dawns, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth yw’r lle i chi – mae ‘canolfan fwyaf blaenllaw’r celfyddydau’n genedlaethol’ yn cynnig rhaglen gyfoethog o ddigwyddiadau a golygfeydd diguro dros Fae Ceredigion. Neu beth am gymryd rhan yn un o weithdai niferus Craft in the Bay yng Nghaerdydd. Gallwch hefyd fynd ar daith drwy stori diwydiant a menter yng Nghymru yn Amgueddfa’r Glannau yn Abertawe, ac wedi’r holl waith ymenyddol, ymlaciwch ar lan y Marina gyda theisen a choffi yn y caffi awyr agored, â’i golygfeydd hyfryd dros fastiau’r cychod. 

 Y tu mewn i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Arddangosfa o wrthrychau mewn cwpwrdd hir gwydr

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Straeon cysylltiedig