Mae ein harfordir yn hardd o ddramatig. Ond mae’r wlad gyfan wedi’i chroesi blith draphlith ag afonydd a dyfrffyrdd, ac wedi’i brychu gan lynnoedd - oll yn cynnig profiadau fel rafftio dŵr gwyn ac i wlychu bodiau'r traed yn yr haul. Dyma gyflwyniad i rai o'n hafonydd, ein camlesi a'n llynnoedd - a'r anturiaethau sydd i'w canfod ar eu glannau, arnynt… ac o dan eu dyfroedd. 

1. Afon Gwy

Enillodd Afon Gwy bleidlais a gynhaliwyd i ddod o hyd i hoff afon Prydain, ac mae hynny oherwydd ei bod hi'n cynnig golygfeydd godidog, gwledd o fywyd gwyllt a bob math o anturiaethau. Fel y bydd Sefydliad Gwy ac Wysg yn dweud, mae’r afon ar gyfer ‘rhwyfwyr, canŵ-wyr, pysgotwyr, cerddwyr, pawb sy’n caru natur ac unrhyw un sy’n hoffi harddwch tirwedd’. Tipyn o bawb, felly!

Gallwch amsugno’r cyfan ar daith heddychlon mewn canŵ neu gaiac gyda Wye Valley Canoes. Llogwch ganŵ Canada neu gaiac sengl neu ddwbl am ychydig oriau - neu am sawl diwrnod.

Bydd angen hanner diwrnod arnoch i fynd i’r Gelli Gandryll, prifddinas llyfrau ail-law'r byd, a lle gwych i grwydro o’i gwmpas am y pnawn. Neu mentrwch i dref hardd Trefynwy, ble gallwch aros dros nos.

Golygfa o adeilad Wye Valley Canoes ar lannau'r Afon Gwy, Sir Fynwy

Wye Valley Canoes, Sir Fynwy

2. Yr Afon Tywi

Yn 75 milltir o hyd, Afon Tywi yw afon hiraf Cymru, a gwelir rhai o atyniadau mwyaf gogoneddus y wlad ar hyd ei glannau.

Mae’n ymdroelli drwy Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Gerddi Aberglasne bendigedig, a Pharc Dinefwr, ble gallwch gyfuno ymweliad ag olion castell Tywysogion Cymru o’r 12fed ganrif, â gweld y crëyr glas yn pysgota ar lan yr afon. O’r fan hon, mae’r afon yn troi tua’r gogledd a thrwy Warchodfa Natur RSPB Gwenffrwd-Dinas.

O ddilyn llwybr deniadol tair milltir o hyd ar lan yr afon, fe ddewch i’r ogofeydd serth ble'r arferai Twm Siôn Cati guddio rhag ei arch-elyn, Siryf Caerfyrddin, Ewch yno tua diwedd y gwanwyn neu ddechrau’r haf, pan fydd carped o glychau’r gog yn gorchuddio llethrau’r goedwig.

Yn y cyfamser, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ychydig filltiroedd i’r de o Ddinefwr, tafarn y Cennen Arms yw man cychwyn dau lwybr cerdded sy’n cynnwys croesi Afon Cennen. Gwyliwch y barcud coch yn hongian ar yr awel uwch eich pen wrth i chi ryfeddu ar Gastell Carreg Cennen, sy’n glynu wrth graig uwchlaw’r dyffryn.

Golygfa fewnol o'r Tŷ Gwydr Mawr, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Afon sy'n llifo gyda chreigiau wedi'i hamgylchynu gan goed

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac Yr Afon Tywi

3. Yr Afon Teifi

Prin ddwy filltir yn fyrrach nag Afon Tywi, mae Afon Teifi, 73 milltir o hyd, yn un o afonydd hiraf y wlad, a hi sy’n nodi’r ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ar hyd y rhan helaethaf o’i chwrs, a ffin Ceredigion a Sir Benfro ar hyd y tair milltir olaf tua’r môr.

Mae afon Teifi’n odidog o hardd a hir, ydy, ond mae hefyd yn faes chwarae llawn antur sy’n cynnig caiacio, canŵio, arfordira a nofio. Mae Llandysul Paddlers yn cynnig yr holl weithgareddau hyn, ynghyd â gŵyl afon flynyddol yn yr haf a’r ‘Teifi Tour’ – penwythnos o rwyfo a dathlu – yn yr hydref.

Afon Teifi yw lleoliad un o wir ryfeddodau byd natur y flwyddyn hefyd: naid yr eogiaid. Ewch i Raeadr Cenarth i weld y wyrth. Galwch heibio i Ganolfan Genedlaethol y Cwrwgl yr un pryd i ddysgu am draddodiad hudolus pysgota â chwrwgl: mynd allan mewn cwch bach crwn ynghanol nos (ar ôl i saith seren ymddangos) i bysgota am eog a sewin lleol.

Gwydraid o gwrw ar lan yr Afon Teifi
Cwch ar Afon Teifi, Aberteifi

Diod ac ymlacio ar yr Afon Teifi, Aberteifi

4. Traphont Ddŵr Pontcysyllte ac Afon Dyfrdwy

Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn gallu hawlio sawl peth: dyma'r draphont ddŵr hynaf a hiraf y gellir mynd arni mewn cwch ym Mhrydain, y draphont ddŵr uchaf yn y byd, mae'n adeilad rhestredig Gradd I, ac yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae hefyd yn atyniad rhagorol i ymwelwyr. Cafodd y strwythur 18 bwa ei gynllunio a’i adeiladu gan Thomas Telford a William Jessop i gario Camlas Llangollen dros Afon Dyfrdwy, ac mae’n un o orchestion mwyaf y chwyldro diwydiannol.

Gallwch gerdded ar draws y draphont, er na fyddem ni’n argymell hynny os nad ydych chi’n hoffi uchder! Efallai y byddai taith drosti mewn cwch yn well - a gallwch hyd yn oed logi eich cwch eich hun. I gael profiad arbennig arall ar y gamlas, ewch i Lanfa Llangollen ac ewch ar daith mewn bad a dynnir gan geffyl ar hyd cangen o’r brif gamlas.

Os yw hyn i gyd yn swnio’n rhy hamddenol i chi, rhowch gynnig ar brofiad rafftio dŵr gwyn i lawr Afon Dyfrdwy. Mae Whitewater Active yn un o nifer o gwmnïau sy’n trefnu dyddiau allan cyffrous ar rafftiau, ble byddwch chi’n tasgu dros ddŵr garw Gradd 2/3, gan gynnwys uchafbwyntiau fel ‘Cynffon y Sarff’.

Llun o'r draphont oddi tanodd gyda choed ac afon

Traphont Ddŵr Pontcysyllte ger Llangollen

5. Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu

Un o’r darnau mwyaf heddychlon o ddŵr yng Nghymru yw Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu – neu ‘Mon and Brec’ fel y'i gelwir yn lleol – dyfrffordd ddiarffordd sy’n igam-ogamu drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r gamlas, sy’n dilyn Dyffryn Wysg, yn hafan i fywyd gwyllt, ac fe allwch chi weld bwncath, barcud coch, crëyr glas a gwas y neidr yn trywanu drwy’r awyr lonydd yma. Ewch ar feic neu fad ar hyd y gamlas o Aberhonddu, neu gallwch gerdded ar hyd y llwybr a chael seibiant yn un o’r tafarndai niferus a geir ar lan y gamlas ar hyd y ffordd.

Mae’r ddyfrffordd yn pasio Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ym Mlaenafon – sy’n cynnwys Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru – ynghyd â threfi marchnad hyfryd Crughywel a’r Fenni. Mae’r Fenni yn gartref i un o wyliau bwyd gorau’r byd yn ystod yr hydref, ac mae’n lle delfrydol i brynu picnic. 

Golygfa o gwch cul yn agosáu at bont.
Cychod ar y gamlas wedi'i hangori o dan goeden gyda phont yn y cefndir.

Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu

6. Llyn Tegid

Llyn Tegid ger y Bala yw’r llun naturiol mwyaf yng Nghymru. Mae’n mesur dros dair milltir a hanner o un pen i’r llall, mae’n dri chwarter milltir o led, ac mae’n cyrraedd dyfnderoedd o 140 troedfedd mewn mannau - efallai mai yn y dyfnderoedd hyn y mae Tegi yn cuddio…?

Tegi yw ateb Cymru i Fwystfil Loch Ness, creadur dirgel sydd wedi cael ei ‘weld’ ers y 1920au. Er mai chwedl, fwy na thebyg, yw Tegi, mae Llyn Tegid yn gartref i greadur cynhanesyddol arall: pysgodyn o’r enw’r Gwyniad, sydd wedi goroesi yma ers Oes yr Iâ. Dim ond dros fisoedd y gaeaf y gwelir y pysgod prin hyn yn agos at wyneb y dŵr, pan fyddan nhw’n dodwy wyau.

Heddiw mae Llyn Tegid yn boblogaidd gan hwylwyr, canŵ-wyr a hyd yn oed syrffwyr gwynt. Mae Bala Watersports yn cynnal dewis o weithgareddau yma ac yn llogi offer. Mae'r ardal hon hefyd yn cynnig sawl peth arall o ddiddordeb i ddŵr-garwyr, gan gynnwys Pistyll Rhaeadr, rhaeadr uchaf Cymru; Llyn Efyrnwy (gweler isod); ac Afon Tryweryn, cartref Canolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol Cymru - ble rheolir y dŵr gan argae, er mwyn sicrhau fod dŵr garw yma ym mhob tymor. 

Llyn Tegid yn adlewyrchiadau arian.

Llyn Tegid, y Bala

7. Llyn Efyrnwy

Cronfa ddŵr yw Llyn Efyrnwy mewn gwirionedd, a adeiladwyd yn yr 1880au i ddarparu cyflenwad o ddŵr croyw i Lerpwl. Bu’n rhaid boddi pentref bach Llanwddyn i greu’r llyn, a symud y bobl oddi yno i gartrefi newydd. Wrth i chi edrych allan dros lonyddwch digyffro’r dŵr, mae’n anodd dychmygu’r tai, y swyddfa bost a’r eglwys sy’n dal i orwedd o dan yr wyneb. Mae hi hefyd yn anodd credu mai gwaith dyn yw’r llecyn hwn o harddwch byd natur.

Amgylchynir y llyn pum milltir o hyd gan olygfeydd mynyddig godidog sy’n gartref i gyfoeth o fyd natur – rheolir y llyn a’r ystâd ar y cyd gan yr RSPB a chwmni dŵr Severn Trent. Bydd gwylwyr adar a phobl sy’n caru byd natur yn heidio yma, a gellir mwynhau seiclo’r 12 milltir o gwmpas y dŵr ynghyd â dilyn sawl llwybr cerdded deniadol.

Mae’r lleoliad hefyd yn denu pobl sydd eisiau dianc i foethusrwydd Gwesty a Sba Llyn Efyrnwy. Hyd yn oed os nad ydych chi’n bwriadu aros, archebwch fwrdd â golygfa ysgubol ym Mwyty’r Tŵr, a mwynhewch bryd rhagorol o fwyd wrth i chi syllu ar y gogoniannau drwy’r ffenest.

Edrych i lawr ar Lyn Efyrnwy, y coed a'r bryniau

Llyn Efyrnwy

8. Llyn y Fan Fach

Efallai fod yr heol i fyny at Lyn y Fan Fach yn arw, a’r llwybr i ben y gefnen yn eithaf serth, ond mae’r cyfan yn werth yr ymdrech er mwyn mwynhau’r golygfeydd syfrdanol a gewch chi dros y dŵr dirgel a chwedlonol hwn o gopa Picws Du ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a’r Mynydd Du’n bwrw’i gysgod drosoch.

Mae’r llyn wir yn chwedlonol, oherwydd dywedir yn y Mabinogion fod un o’r tylwyth teg wedi codi o’r llyn i briodi â ffermwr lleol, ond bod y briodas wedi mynd i’r gwellt oherwydd camddealltwriaeth a hudoliaeth. Dihangodd y forwyn yn ôl i’r llyn, a bu’n rhaid i’r ffermwr fagu’u meibion ar ei ben ei hun; aeth y tri mab ymlaen i fod yn feddygon rhagorol, a gofir hyd heddiw fel Meddygon Myddfai.

Mwynhewch bicnic ar lan Llyn y Fan Fach neu gallwch hyd yn oed fentro i nofio yn y dŵr, gan gadw llygad am y ferch sy’n dal i fyw dan y tonnau, wrth gwrs…

Llyn y Fan Fach o'r awyr, gyda'r bryniau ar y dde

Llyn y Fan Fach

9. Llyn Ogwen

Os ydych chi eisoes wedi dringo copaon Eryri ac yn ystyried fod angen gorffwyso cyhyrau’r coesau, ewch am dro cylchynol o gwmpas Llyn Ogwen, sy’n cynnig golygfeydd rhagorol o fynyddoedd Tryfan a’r Glyderau – heb orfod dringo’r un allt!

Mae’r llyn hwn fel rhuban ac yn filltir o hyd, ond dim ond tri metr o ddyfnder ydyw, felly dylai fod yn ddigon hawdd i’r anturiaethwr chwedlau leoli Caledfwlch ynddo, sef cleddyf enwog y Brenin Arthur, am fod sawl un yn honni mai Llyn Ogwen yw’r man ble taflwyd yr arf chwedlonol gan Bedwyr, yn drist a distaw, wrth iddo ffarwelio am y tro olaf â’i frenin… 

10. Llyn Llydaw

…Neu ydy Caledfwlch ar waelod Llyn Llydaw?! Nid nepell o Ogwen ac ar lethrau isaf yr Wyddfa, mae gan Lyn Llydaw achos da hefyd i fod yn gartref dyfriog i’r arf enwog. Mae Llwybr y Mwynwyr i ben yr Wyddfa yn mynd heibio i’r llyn, gan gynnig golygfeydd ysgubol wrth i chi ddringo.

Cerddwr yng nghanol copaon o eira yn Eryri - ar lan Llyn Llydaw yn y gaeaf.

Llyn Llydaw, Eryri

Straeon cysylltiedig