Caiff un o wyliau llenyddol mwya’r byd ei chynnal bob haf rhwng ffiniau tref fechan y Gelli Gandryll.

Mae Gŵyl y Gelli yn denu dros 100,000 o ymwelwyr dros 11 diwrnod i fwynhau yng nghwmni rhai o awduron, beirdd, athronwyr, haneswyr, gwyddonwyr, comediwyr a cherddorion gorau’r byd. 

Rhwng sesiynau gall ymwelwyr ymlacio mewn cadeiriau torheulo ar borfa’r pentref, crwydro’r stondinau ac ymweld â siop lyfrau’r ŵyl sy’n gwerthu 55,000 o lyfrau gwahanol gan y siaradwyr gwadd. Ceir cerddoriaeth, comedi a ffilmiau yn ystod y nosweithiau.

Rhesi o bobl yn eistedd mewn digwyddiad mewn pabell fawr

Digwyddiad poblogaidd arall yn yr ŵyl

Pryd mae’n cael ei chynnal

Mae Gŵyl y Gelli yn para am 11 diwrnod dros gyfnod hanner tymor yr haf. Eleni cynhelir yr ŵyl rhwng 23 Mai - 02 Mehefin 2024.

Stephen Fry yn siarad o'r llwyfan

Stephen Fry yng Ngŵyl y Gelli

Sut mae cael gafael ar docynnau

Mae mynediad i safle’r ŵyl am ddim, gallwch wedyn ddewis prynu tocynnau ar gyfer digwyddiadau penodol sy’n dal eich sylw. Mae pris tocynnau’n dechrau o £5, er y ceir rhai digwyddiadau a gweithdai am ddim. Gallwch danysgrifio i’r rhestr ddosbarthu er mwyn i’r trefnwyr roi gwybod i chi pryd mae tocynnau’n cael eu rhyddhau, sydd fel arfer ddechrau mis Ebrill: ewch draw i wefan Gŵyl y Gelli, neu ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01497 822 629.

Mae tocynnau ar gyfer sesiynau’r enwogion yn gwerthu allan yn weddol gyflym, ond os cofrestrwch chi fel Ffrind, cewch gyfle i archebu eich tocynnau’n gynt a chewch fynediad cynt i’r digwyddiadau hefyd.

Er hynny, mae tocynnau o hyd ar gael ar y diwrnod ar gyfer sesiynau eraill. Yn wir, mae rhai o’r pethau difyrraf i’w gweld weithiau drwy ddewis digwyddiad ar hap. 

Beth sydd ymlaen

Mae oddeutu 700 o siaradwyr mewn 800 o ddigwyddiadau, a sesiynau awr o hyd yn cael eu cynnal bob rhyw 90 munud. Gall eich diwrnod ddechrau am 10yb gyda gweinidog cabinet yn cael ei groesholi, yna ymlaen at enillydd gwobr Nobel cyn cinio, sgwrs gan awdur byd enwog am ei syniadau ganol prynhawn, a chwmni seren Hollywood dros amser te.

Mae’n hawdd cael eich denu gan y digwyddiadau ac archebu tocynnau ar gyfer gormod o sesiynau, gan ddod allan o un sesiwn cyn ymuno â’r ciw i fynd i mewn i’r sesiwn nesaf, heb eiliad i fwyta, yfed na meddwl. Mae trefnu i fynd i oddeutu pedwar digwyddiad yn taro’n iawn, ynghyd ag unrhyw beth sy’n cymryd eich ffansi gyda’r nos; mae digonedd o nosweithiau comedi neu gerddoriaeth.

Bryniau gwyrdd a gwair gydag awyr las uwchben
Dyn a menyw yn edrych ar lyfrau mewn ffenest siop

Y Gelli Gandryll

Unrhyw uchafbwyntiau?

Mae’n dibynnu’n llwyr ar eich chwaeth. Mae cymaint o amrywiaeth a rhywbeth o hyd ar gael sy’n mynd i apelio at bob diddordeb neu oedran. Ymhlith gwesteion y gorffennol mae Margaret Atwood, Richard Dawkins, Chelsea Clinton, Jilly Cooper, Rupert Everett, Germaine Greer, David Walliams, Bear Grylls a Salman Rushdie. Ymysg y gwesteion sydd wedi cynnal sesiwn Gymraeg mae Jon Gower, Fflur Dafydd ac Eurig Salisbury. Un o’r sesiynau mwyaf poblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf yw Letters Live: darlleniadau o lythyrau nodedig gan rai fel Benedict Cumberbatch, Stephen Fry, Olivia Colman, Jude Law, Maxine Peake a Tom Hollander. 

Ydi'r ŵyl yn addas i blant?

Mae rhaglen wych ar gael ar gyfer plant a nifer o ddigwyddiadau sy’n addas ar gyfer y teulu cyfan, mae rhan gyfan o’r ŵyl wedi ei threfnu ar gyfer rhieni a phlant ifanc. Mae gŵyl i blant yn cydredeg â’r brif ŵyl lle ceir awduron eiconig a gweithdai. Mae digon i gadw’r rhai yn eu harddegau’n ddiddig hefyd gyda’r rhaglen #HAYYA, a gall myfyrwyr fwynhau digwyddiadau addysgol am ddim. Mae deuddydd cyntaf yr ŵyl yn llawn o sesiynau am ddim ar gyfer ysgolion Cymru a Swydd Henffordd, a hynny gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Ble i aros

Does dim prinder o lefydd i wersylla, glampio, ystafelloedd mewn tafarndai, gwestai gwledig a llety gwely a brecwast. Mae’r llefydd amlycaf i aros yn tueddu i gael eu bwcio’n gyflym bob blwyddyn ond y lle gorau i chwilio am lety yw’r tudalennau llety ar wefan Gŵyl y Gelli

Ble i fwyta

Ceir ar y safle neuadd fwyd anferth ac ynddi wahanol fathau o fwydydd stryd. Mae yno hefyd fwyty digon parchus, a bariau a siopau coffi wedi eu gwasgaru dros y lle. Mae’r Gelli ei hun yn dref ar gyfer y sawl sy’n ymddiddori mewn bwyd, ac fe welir stondinau dros dro sy’n perthyn i dafarndai neu fwytai rhagorol yn ymddangos yn y llefydd rhyfeddaf, mewn pebyll neu orielau. Mae archebu bwrdd ymlaen llaw yn sicr yn syniad da.

Mynychwyr yr ŵyl yn mwynhau neuadd fwyd

Gŵyl y Gelli

Sut le yw’r dref?

Mae’r Gelli Gandryll ei hun yn dref fyrlymus ar y ffin, gyda’i siopau annibynnol, siopau llyfrau ail-law di-ri, siopau hen bethau, orielau celf a chrefft, a digonedd o dafarndai a bwytai. Mae’r dref ar ei gorau adeg yr ŵyl: baneri amryliw yn croesi uwch y strydoedd, cerddorion yn chwarae ar y stryd, gŵyl fwyd ar dir y castell a theithiau tywys. Mae yna hefyd ddigonedd o weithgareddau ar Afon Gwy, lle gall pobl sy’n canŵio ac yn caiacio hwylio llif y cerrynt nes cyrraedd y Warren, ardal gadwraeth lle ceir traeth graeanog; llecyn delfrydol i gael picnic.

Llyfrau ar silffoedd
Tai a siopau lliwgar gyda baneri bach lliwgar

Gŵyl y Gelli

Beth i’w wneud yn lleol

Dyma un o’r ardaloedd â’r golygfeydd harddaf ym Mhrydain, ac mae pob math o weithgareddau ar gael i’w gwneud yn yr awyr agored (cerdded, beicio, marchogaeth, chwaraeon anturus, ayyb). Mae llwybr hynafol Clawdd Offa yn rhedeg drwy’r dref, ac o ddringo i ben Penybegwn fe gewch eich gwobrwyo â golygfeydd o Ddyffryn Gwy a Bannau Brycheiniog.

Sut mae cyrraedd

Mae bysiau’r ŵyl yn teithio yn ôl ac ymlaen o’r orsaf drenau agosaf yn Henffordd, 21 milltir i ffwrdd (34km). Mae gan Traveline Cymru amserlen ar gyfer y gwasanaeth bws arferol o Henffordd a Merthyr Tudful. Mae digonedd o feysydd parcio (a pharcio a theithio) ar gael, a gellir archebu lle ymlaen llaw yn y maes parcio anabl ar wefan yr ŵyl. Mae’n rhyw 10 munud o gerdded o’r dref i faes yr ŵyl, ac mae bysiau gwennol yn teithio’n ôl ac ymlaen drwy’r dydd.

Am fwy o wybodaeth am Ŵyl y Gelli ewch i hayfestival.com

Cadair haul goch yn dweud 'HAY FESTIVAL imagine the world' mewn ysgrifen gwyn.

Straeon cysylltiedig