Penderyn oedd y ddistyllfa chwisgi Gymreig gyntaf ers dros 100 mlynedd

Ymestynnai hanes cryf o ddistyllu yn ôl drwy'r oesoedd, ond rhoddwyd y gorau gan mwyaf i gynhyrchu chwisgi yng Nghymru tua dechrau'r 19eg ganrif. Daeth criw o ffrindiau at ei gilydd tua diwedd y 1990au a meddwl 'Os gallwch chi gael chwisgi Scotch o'r Alban a chwisgi Gwyddelig - pam nad chwisgi Cymreig?' A dyma ni, bron 20 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae Penderyn yn llwyddiant ysgubol. Ni fyddwn yn ceisio copïo neb: dim ond cynhyrchu chwisgi Cymreig. Cyffrous iawn yw gweld datblygiad mawr chwisgi'r byd. Ceir chwisgi gwych o Taiwan, Japan, India, Ffrainc. Ac mae'n wych fod Penderyn ymhlith y ceffylau blaen.

Nid distyllu oedd yr yrfa oedd gennyf mewn golwg

Cefais radd mewn gwyddor fforensig, ac roeddwn i'n dychmygu mai gweithio ar safleoedd trosedd y byddwn i. Wedi gadael y brifysgol, gwelais hysbyseb am swydd dechnegol, ond ni soniai am chwisgi yn benodol. Felly nid oeddwn wedi sylweddoli am beth yn union roeddwn yn ymgeisio. Cyrhaeddais y cyfweliad ac fe osodwyd rhes o ddeg gwydraid o'm blaen ar y bwrdd, a phob un wedi'i lenwi â gwahanol doddiant, a bu'n rhaid imi ddisgrifio beth oedd ym mhob gwydraid. Fi a gafodd y sgôr uchaf, a'r swydd hefyd. Roedd fy hyfforddiant i gyd yn gwbl ymarferol. Ni allwn fod wedi'i ddysgu yn y brifysgol nac yn unrhyw le arall.

Laura Davies yn arogli gwydr o ddiod tu mewn i ddistyllfa Penderyn gyda chydweithiwr

Mae Laura Davies yn arwain tîm distyllu benywaidd ym Mhenderyn 

Rydym yn dîm technegol o ferched i gyd

Nid bwriad Penderyn erioed oedd cael tîm distyllu o ferched. Nid am ein bod yn ferched y cawsom y swyddi. Rydym yma am mai ni yw'r bobl orau am y swydd, a phob un ohonom wedi gweithio’n galed iawn i gael ein swydd. Wedi dweud hynny, mae cryn dipyn o ymchwil sy'n awgrymu bod gan fenywod well trwynau a gallu synhwyro, ac rwy'n credu bod hynny'n bendant yn wir.

Mae gwneud chwisgi yn syml… ac yn dechnegol iawn hefyd

Fe gymerwn farlys a brag a'i drosglwyddo i'n tun stwnsio gyda dŵr poeth. Daw'r dŵr o'n dyfrdwll ein hunain o dan y ddistyllfa. Caiff ei dynnu o ddyfnderoedd Bannau Brycheiniog felly mae'n gyflenwad glân, cyson o ddŵr meddal hyfryd. Dros yr wyth neu naw awr nesaf, byddwn yn tynnu'r siwgrau o'r barlys a brag. Pan fyddwn wedi cael yr hylif siwgrog hwnnw, o'r enw'r 'breci', caiff ei drosglwyddo i'n tanciau eplesu, cyn ychwanegu burum a gadael i hwnnw eplesu. Ar ôl i hwnnw eplesu byddwn yn llenwi'n distyllbeiriau â'r 'brag' ac yn ei ddistyllu am gyfnod rhwng chwech a deuddeg awr. Mae gennym ddau ddistyllbair Faraday unigryw sy'n creu gwirod ysgafn sy'n gryf a phur iawn, a chanddo lawer o ffrwyth a blas. Cawn wirod gwych yn fan cychwyn, a dim ond gwella a wnaiff hwnnw ar ôl mynd i'r gasgen.

Barlys brag yn nistyllfa Penderyn
Distyllbair Faraday yn nistyllfa Penderyn sy'n cael ei ddefnyddio i wneud wisgi

Barlys brag a distyllbair Faraday yn y ddistyllfa

Mae'n cymryd o leiaf tair blynedd i wirod droi'n chwisgi

Ar hyn o bryd, mae gennym wyth neu naw mil o gasgenni yn ein warws aeddfedu, yn aros eu cyfle, yn aros am y foment gywir. Mae gennym lond gwlad o gasgenni – rhai madeira, port, sieri, bwrbon, mawn – a byddwn yn gweithio gyda'r cyfan i greu ein gwahanol fynegiadau. Pan deimlwn fod y chwisgi wedi cyrraedd ei lawn botensial, dechreuwn y samplu. Rhaid ichi fod yn ofalus iawn wrth gymysgu gwahanol chwisgi â'i gilydd i sicrhau bod y gwahanol gasgenni a ddefnyddiwch yn gweithio gyda'i gilydd ac yn ategu ei gilydd.

Llaw yn dal gwydraid o wisgi yn yr awyr yn nistyllfa Penderyn
Casgenni yn nistyllfa Penderyn

Blasu'r cynnyrch, a rhai o'r miloedd o gasgenni yn y ddistyllfa

Ein harddull unigryw yw ein gorffeniad madeira

Llunnir mynegiad clasurol Penderyn â chasgenni bwrbon a chasgenni gwin madeira i roi blas hyfryd, meddal, hufennog, fel cyffaith, a chanddo lawer o ffrwyth: syltanas, afalau. Mae'n rhoi chwisgi nerthol a llyfn iawn ichi. Un o'n mynegiadau poblogaidd eraill yw ein gorffeniad port. Mae ganddo liw coch dwfn, a math o orffeniad bras iawn megis gwin syrypaidd, sy'n teimlo'n hyfryd o felfedaidd yn y geg, gyda llawer o nodweddion siocled tywyll a mefus.

Weithiau byddwn yn canfod gwir drysor

Weithiau byddwn yn dod ar draws chwisgi sy'n wirioneddol wych, a byddai'n drueni colli'r nodweddion hynny mewn swp chwisgi cyffredin. Felly byddwn yn ei botelu fel swp arbennig ar ei ben ei hun, ddau neu dri chant o boteli o'r gasgen, a phob un yn ei blwch ei hun â stensiliau llaw, wedi'i lofnodi gan dîm y ddistyllfa. Maen nhw'n ddeniadol iawn i gasglwyr.

Gallwch ychwanegu unrhyw beth a fynnwch… os mynnwch chi

Os ydych yn ddigon caredig i brynu ein chwisgi, dylech ei fwynhau sut bynnag y mynnwch. Ni ddywedaf wrthych am beidio ag ychwanegu dŵr neu iâ. Ond rwy'n credu'n gryf mai fel y daw yw'r ffordd orau i'w fwynhau. Cymerodd lawer o waith caled a chrefft i'w gynhyrchu ac rwy'n credu ei bod yn werth mwynhau fel y mae. Un o'r pethau gwych am chwisgi yw ei fod mor hyblyg. Gallwch ei yfed ar ei ben ei hun ond, i'r un graddau, gallwch ei baru ag unrhyw beth a fynnwch. Mae ein chwisgi Portwood yn gweddu'n dda iawn i siocled tywyll neu fwrdd caws. A'r chwisgi mawn yn cyfateb yn dda iawn i ginio Sul cig oen.

Poteli wisgi ar y llinell gynhyrchu yn nistyllfa Penderyn

Y cynnyrch gorffenedig ar linell gynhyrchu Penderyn

Am flynyddoedd byddem yn osgoi defnyddio draig Cymru ar ein poteli

Nid oeddem am fod yn adnabyddus am mai Cymry oeddem. Roeddem am i bobl fod yn falch iawn o'r brand am eu bod yn hoff o'r cynnyrch. Ond yna dywedodd rhai o'n mewnforwyr, 'Mae eich cynhyrchion yn wych ond nid llawer o bobl sy'n gwybod am Gymru.' Erbyn hyn, mae ein hamrywiaeth Dragon yn amlwg iawn ac mae'n helpu i ddod â Chymru i weddill y byd. Ceir hefyd ein cyfres Icons of Wales, sy'n dathlu achlysuron pwysig yn hanes Cymru. Bu honno'n wych i hybu ein proffil ar draws y byd.

Mae'r ganolfan ymwelwyr yn ofnadwy o bwysig i ni

Croesawyd 40,000 o ymwelwyr yma'r llynedd. Hanfod chwisgi yw adrodd storïau, ac egluro i bobl beth rydyn ni'n ei wneud a pham, gan adael iddynt weld y gofal a'r sylw a rown i'n cynhyrchion. Mae pawb sy'n cymryd yr amser i ymweld â ni yn gadael yn gennad i'r brand. Cawn ymwelwyr o bedwar ban byd, sy'n mynd â'r neges adref gyda nhw. Rydym yn ffodus iawn hefyd o fod yng nghanol rhai o'r golygfeydd gorau yng Nghymru.

Gwybodaeth bellach

Ewch i ymweld â gwefan Penderyn: http://penderyn.cymru

Dilynwch Penderyn ar y cyfryngau cymdeithasol: Twitter ac Instagram

Sgwd Henrhyd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Arwydd ffordd yn dangos yr enwau Rhigos, Brecon ac Ystradfellte

Rhaeadr syfrdanol Sgwd Henrhyd; mae distyllfa Penderyn yng ngodre Bannau Brycheiniog

Straeon cysylltiedig