Parc Gwledig Ystâd y Gnoll, Castell-nedd

Does dim prinder ystadau crand fel hyn yn Ne Cymru. Byddai teuluoedd diwydiannol cefnog - sef teulu Mackworth yn yr achos hwn, yr oligarchiaid gwaith metel lleol - yn creu lleoedd chwarae i wastraffu eu cyfoeth arnynt. Erbyn hyn, datblygwyd Ystâd y Gnoll yn barc gwledig mewn gardd hardd wedi’i thirlunio o’r 18fed ganrif, yn llawn o fannau gwyrdd agored, llynnoedd a choetiroedd gwyllt, rhaeadrau a grotos. Ymhlith yr atyniadau mae pysgota, golff-droed a tharo a phytio, a chynhelir y Parkrun wythnosol yma.

Parc Gwledig Margam, Port Talbot

Mae olion Rhufeinig a Normanaidd o hyd ym Mharc Gwledig Margam, ond y plas Gothig Tuduraidd o’r 19eg ganrif yw’r brif nodwedd o hyd ar 850 erw (344ha) yr ystâd wledig hon. Mae’r gerddi lled-ffurfiol yn ymlwybro i lynnoedd a choedwigoedd gwyllt, ac mae digonedd o weithgareddau i’r plant, gan gynnwys llwybr fferm, lle chwarae antur gwych, ac antur brigau coed Go Ape.

Margam Castle, Neath Port Talbot
Castell Margam ym Mharc Gwledig Margam

Y Gogarth, Llandudno

Cafodd y clamp o glegyr calchfaen sy’n brif nodwedd ar Landudno ei enwi’n ‘orme’ (sy’n golygu ‘sarff fôr’) gan y Llychlynwyr. Y Gogarth yw’r enw Cymraeg arno, neu The Great Orme yn Saesneg, ac mae yno bopeth o rostiroedd i glogwyni môr serth, glaswelltir calchfaen, coetir, a gerddi ffurfiol i lawr yn y Fach, ffordd brydferth i’w gyrru a ffyrdd troellog i’r copa. Mae llwyth i’w wneud a’i weld, gan gynnwys tramffordd, car cebl, geifr gwyllt, mwynglawdd mwyaf y byd o'r Oes Efydd, llethr sgïo artiffisial, llethr tobogan, golff taro a phytio ... a golygfeydd godidog yr holl ffordd i Ardal y Llynnoedd, ac i’r traethau Baner Las islaw.

Car driving along a windy road on the Great Orme with the sea on the left hand side
Headland of the Great Orme
Y Gogarth, Llandudno

Castell Bodelwyddan, Sir Ddinbych

Mae’r atyniadau yng Nghastell Bodelwyddan ger y Rhyl yn seiliedig ar ei oes aur Fictoraidd, gyda chyfeiriadau at ei wreiddiau canoloesol ac at y Rhyfel Byd Cyntaf; cafodd milwyr eu hyfforddi yma, ac mae atgynhyrchiadau o ffosydd yn un o lawer o atyniadau yn y 260 erw (105ha) o barcdir. Ceir hefyd ardd furiog, llwybr coetir, lle chwarae antur, perllan ffrwythau Cymreig a drysfa gloddiau.

Parc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr

Mae Cymoedd De Cymru yn ymestyn i lawr i'r arfordir o gadwyn mynyddoedd Bannau Brycheiniog. Roedd yma eco-baradwys a oedd yn drwch o goed nes i’r diwydiannau haearn a glo newid popeth yn y 18fed ganrif. Ond erbyn hyn mae’n newid am yn ôl, a dyma enghraifft wych: Parc Gwledig Cwm Dâr yw safle dau bwll glo blaenorol sydd wedi’u hadfer i 500 erw (202ha) o hyfrydwch gwyrdd helaeth, a llwybrau cerdded yn mynd igam ogam ar hyd tirwedd eithriadol o fioamrywiol.

Parc Gwepra, Sir y Fflint

Llwybrau cerdded hardd drwy goetir yw’r prif atyniad yng ngwerddon Parc Gwepra a’i 160 erw (65 ha) o fannau gwyrdd, ond ceir hefyd hen nodweddion dŵr ac olion Castell Ewlo o’r 13eg ganrif, a adeiladwyd gan dywysogion Cymru i warchod y coetir rhag goresgynwyr o Loegr, a oedd wedi’i gipio’n barc hela ceirw. Tra byddwch yn yr ardal, mae hefyd yn werth archwilio Parc Treftadaeth Dyffryn Maes-glas yn Nhreffynnon, lle mae’r llwybrau coetir yn rhedeg rhwng adfeilion Abaty Dinas Basing a ‘Lourdes Cymru’, sef cysegrfa Ffynnon Sanctaidd Gwenffrewi.

Parc Gwledig Padarn, Eryri

Mae Llanberis yn fan cychwyn i fynd ar drên, ar droed neu ar gefn beic i gopa’r Wyddfa. Ond cyn i chi fynd, mae’n werth treulio ychydig oriau ym Mharc Gwledig Padarn, lle mae yna goetir hyfryd, chwarel, a llwybrau glan dŵr ar hyd glannau gogleddol Llyn Padarn. Hwn yw’r lle hefyd i ganfod yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol a threnau stêm Rheilffordd Llyn Padarn.

Llyn Padarn, near Llanberis, Snowdonia
Llyn Padarn

Pentref Canoloesol a Pharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston, Bro Morgannwg

Ar gyrion Penarth, mae Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston yn 247 erw (100ha) heddychlon o gwmpas dau lyn (chwareli wedi’u gorlifo, a dweud y gwir). Yr atyniad mawr i blant yw Pentref Canoloesol Cosmeston, lle mae’r anheddiad gwreiddiol o’r 14eg ganrif wedi’i ail-greu mewn modd hynod ddiddorol. Yn wahanol i’r gwreiddiol, nid yw hwn wedi’i ddifrodi gan y Pla Du, diolch byth.

Parc Gwledig Pen-bre, Sir Gaerfyrddin

Ar gyfer chwarae gyda’r teulu, mae Parc Gwledig Pen-bre heb ei ail, ac yno lwyth o weithgareddau antur yn ei 500 erw (202ha) o goetir, gan gynnwys golff mini, marchogaeth, chwarae antur, a llethr sgïo sych. A pheth arall, ar ei ymylon mae wyth milltir euraid (13km) Cefn Sidan, sef y traeth cyntaf yng Nghymru i ennill gwobr glodfawr y Faner Las.

Parc Gwledig Craig-y-nos, Bannau Brycheiniog

Yr Eidales-Ffrances o gantores, Adelina Patti (1843-1919), oedd prif gantores opera orau ei chyfnod, yn ffrind i gyfansoddwyr fel Verdi a Tchaikovsky, gan berfformio ym mhedwar ban – heb anghofio perfformiad preifat yn y White House i Abraham Lincoln. Ond eto ymgartrefodd mewn lle sydd bellach yn cael ei adnabod fel Parc Gwledig Craig-y-nos - yn swatio ym mhen uchaf Cwm Tawe, gan greu gardd Fictoraidd ysblennydd o goetiroedd, dolydd, llynnoedd a lawntiau ochr yn ochr ag Afon Tawe.

Related stories