Beth yw arfordira?

Y mwyaf o hwyl a gewch chi yn y dŵr, o bosib. Meddyliwch am chwilota pyllau môr i’r eithaf. Neu daith natur yn y dŵr. Yn ei hanfod, mae’n brofiad sy’n cyfuno amrywiaeth o weithgareddau gan ddefnyddio’r arfordir fel un cae chwarae mawr. Fe fyddwch chi’n llamu dros y creigiau, yn sgrialu ar draethau, yn reidio’r tonnau, mentro i ogofâu, heb anghofio plymio o ben clogwyni, wrth gwrs. Mae hefyd yn ffordd ardderchog o fynd i lygad y ffynnon a darganfod holl ryfeddodau ein bywyd gwyllt a’r arfordir; ewch chi ddim mor agos â hyn atynt wrth gerdded.

Criw yn arfordira rhwng clogwyni yn Sir Benfro.
Grŵp yn arfordira trwy greigiau ger Tyddewi.

Arfordira ger Sir Benfro

Ydy e’n beryglus?

Fe fyddai’n beryglus petasech chi’n ei wneud ar eich pen eich hun. Ond mae digon o ddarparwyr cymwys wrth law. Bydd yr hyfforddwyr yn eich helpu i ddysgu’r technegau angenrheidiol i chi fedru arfordira’n ddiogel, ac maent hefyd yn adnabod yr arfordir fel cefn eu dwylo, ble bynnag y mae’r llanw’n cyrraedd. Felly, gallant eich tywys i’r mannau lle mae ymchwydd y don ar ei fwyaf, i’r ogofâu a’r creigiau difyrraf, ac i weld y bywyd gwyllt mwyaf rhyfeddol. Yn syml, maent yn gwybod sut i gael hwyl. Mae’r hyfforddwyr hefyd yn gwybod am y mannau i’w hosgoi pan fo adar y môr a morloi’n bridio.

Llun o bobl yn dal offer arfordira, yn cynnwys helmedau

Offer arfordira

Pwy sy’n gallu rhoi cynnig arni?

Ydych chi’n wyth oed neu’n hŷn? Allwch chi nofio fel ci? Os felly, i ffwrdd â chi! Mae’n help os ydych chi’n hyderus yn y dŵr, ond bydd gennych chi siwt wlyb a siaced achub i’ch cadw’n gynnes ac uwchlaw’r tonnau, ac wrth gwrs byddwch yn gwisgo helmed ar eich pen. Mae’r rhan helaeth o ddarparwyr yn cynnig anturiaethau byr i deuluoedd yn ogystal â diwrnodau cyfan i blant hŷn yn eu harddegau ac oedolion.

Oes raid i mi neidio dros y dibyn? Mae arna i ofn uchder!

Na phoener – ni fydd unrhyw hyfforddwr yn eich gorfodi i neidio. Efallai na fydd eich ffrindiau a’ch teulu mor drugarog, serch hynny – a phwy a ŵyr, efallai y cewch chi hwyl arni heb edrych tua’r ddaear.

Grŵp yn arfordira gydag un aelod yn neidio i mewn i'r môr

Arfordira ger Tyddewi

Ydy e’n iachus?

Does dim byd gwell i gadw’n heini, magu nerth ac ystwythder a llosgi’r calorïau i ffwrdd. Pam trafferthu â’r gampfa?

Cyffro di-baid?

Gyda’r troeon yn y llanw a symud di-baid y tonnau a’r bywyd gwyllt, mae pob taith arfordira yn unigryw. Gallech fod yn nofio’n braf yn mwynhau’r golygfeydd, a’r munud nesaf bydd y môr yn eich taflu yma ac acw fel doli glwt mewn peiriant golchi. Efallai y cewch gip ar hebogiaid tramor a nofio ochr yn ochr â morlo. Mewn unrhyw sesiwn arferol o ddwy awr gallwch edrych ymlaen at sgrialu dros greigiau, nofio mewn ceunentydd, chwilota mewn ogofâu, syrffio ar eich bol dros y cesyg gwynion, sbecian i mewn i byllau môr, dysgu am ddaeareg a phlymio o ben clogwyn.

Neidio oddi ar glogwyn wrth arfordira ar Benrhyn Gŵyr.

Teulu'n arfordira ger Rhosili, Penrhyn Gŵyr

Mae hynny wedi'i setlo, dwi'n mynd. Beth sydd ei angen arna i?

Chwant am antur i ddechrau, a’r holl hanfodion: dillad nofio i fynd o dan eich siwt wlyb, pâr o hen esgidiau rhedeg i amddiffyn eich traed a chael gafael ar y creigiau, siaced achub a helmed. 

Dylech fynd gyda hyfforddwyr cymwys bob amser, i gael y cyfarpar priodol ac elwa ar eu holl brofiad o’r arfordir lleol, y tywydd ac amserau’r llanw.

Straeon cysylltiedig