Mae digonedd o lefydd i chi logi byrddau syrffio a siwtiau gwlyb o’r Pasg tan fis Hydref, felly’r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dewis ble i fynd. Gadewch i’n harbenigwyr ni eich helpu gyda hynny.

Tonnau i ddechreuwyr yn y De

Mae Simon Jayham wedi hyfforddi syrffwyr ym mhob cwr o Brydain, ond Penrhyn Gŵyr  oedd ei ddewis cyntaf i sefydlu’i ysgol syrffio, Gower Surf Development, yn yr ardal o harddwch naturiol eithriadol gyntaf ym Mhrydain. Mewn llefydd syrffio enwog fel Cernyw fe gewch chi gymysgedd o ddechreuwyr ac arbenigwyr yn dod i reidio’r tonnau. Gall fynd yn reit danbaid yn y dŵr wrth i bobl golli’u tymer. Ar Benrhyn Gŵyr fe gewch chi’r un ymchwydd â Chernyw, ond gyda mwy o gysgod rhag y gwynt a thonnau sy’n addas i bob math o syrffwyr: yn hen ac ifanc, yn brentisiaid neu’n hen lawiau. Felly, mae pawb yn dod ymlaen â’i gilydd yn hamddenol. Mae’n dra gwahanol i’r prysurdeb a gewch chi awr neu ddwy i ffwrdd yn Abertawe neu Gaerdydd.

Gair i gall gan Simon Jayham:

Ewch â rhai ifanc i Fae Caswell: mae’r maes parcio’n agos, mae achubwyr bywyd ar y traeth, ac mae’r dŵr yn lân.

Tua’r de ym Mae Rhosili mae’r tonnau’n ddigon bach i ddechreuwyr. I gael tonnau mwy, crwydrwch draw i Langenydd.

Mae Rest Bay ym Mhorthcawl yn lle gwych i fynd am sesiwn sydyn os ydych chi’n teithio o Gaerdydd.

Plant yn rhedeg mewn i'r mor gyda byrddau syrffio

Bae Rest, Porthcawl

Tonnau i ddechreuwyr yn Sir Benfro

Mae’n werth gwneud yr ymdrech i ddod i Sir Benfro, meddai Dean Gough o ysgol syrffio Outer Reef. Yn ymestyn o amgylch y penrhyn mae’r unig barc cenedlaethol arfordirol ym Mhrydain, a byddwch yn sicr o gael dŵr glân a thonnau braf boed law neu hindda. Fe gewch fwy o lonydd yma nag ar draethau prysur Abertawe, er enghraifft, sydd awr i ffwrdd. Lle delfrydol i ddechreuwyr, meddai. Delfrydol i bawb, yn wir, gan ystyried fod Sir Benfro’n gyson â mwy o draethau Baner Las na’r unman arall ym Mhrydain.

Gair i gall gan Dean Gough:

Ar draeth digyffwrdd Freshwater West mae ymchwydd mawr yn y môr, ond efallai fod y tonnau braidd yn beryglus i ddechreuwyr.

Mae Maenorbŷr yn anhygoel! Yng nghysgod y castell mawreddog gall dechreuwyr a syrffwyr profiadol fynd amdani fel ei gilydd.

Ewch â’r plant i Niwgwl, neu i draeth cysgodol Bae Sain Ffraid.

Golygfa o draeth gyda tonnau yn y mor

Traeth Freshwater West, Sir Benfro

Tonnau i ddechreuwyr yn y Gogledd

Hamddenol. Dyna’r gair a ddefnyddia Jonathan Waterfield i ddisgrifio syrffio yn y Gogledd, ac yntau wedi treulio deng mlynedd ar hugain yn reidio’r tonnau oddi ar Ben Llŷn. Mae perchennog ysgol syrffio West Coast Surf yn dweud fod ymchwydd Môr Iwerydd yn llai garw yma, a’r traethau’n dawelach na’r rhai yn y De. Wrth ddod ar draws rhyw ddwsin o syrffwyr lleol a faint bynnag o ymwelwyr sy’n dod o Lerpwl a Manceinion, fe sylwch fod naws hamddenol yma hefyd. Paradwys i ddechreuwyr.

Gair i gall gan Jonathan Waterfield:

Mae Porth Neigwl yn wastad, yn lân, mae digonedd o le yma a thywod ar wely’r môr – lle gwych i ddysgu.

Os ydy’n rhy arw ym Mhorth Neigwl, mae Traeth Penllech (Porth Colmon) yn draeth mwy cysgodol sydd hefyd yn dda iawn i syrffio.

Golygfa o'r môr a'r llinell lan o'r creigiau ar dir uchel
Golygfa o'r môr gyda chaeau gwyrdd o amgylch

Porth Neigwl, Gogledd Cymru

Straeon cysylltiedig