Syniad y cyn Fôr-filwr Brenhinol Sean Taylor, brodor o Ddyffryn Conwy, yw Zip World. I Sean, gwifren wib yw'r peth agosaf at nenblymio heb neidio allan o awyren. Ei fformiwla lwyddiannus yw cymryd safleoedd treftadaeth ddiwydiannol a'u trawsnewid yn feysydd chwarae llawn adrenalin ar gyfer pobl sydd eisiau gwefr. Mae ei lwyddiant wedi bod yn allweddol i roi gogledd Cymru ar fap antur Ewrop.

Wedi'i leoli dros dri safle sy’n agos at ei gilydd, mae casgliad Zip World yng ngogledd Cymru yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau: gwifren wib gyflymaf y byd a’r hiraf yn Ewrop, Velocity 2 yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda; Titan 2, gwifren wib pedwar person gyntaf Ewrop, a’r trampolîns Bounce Below tanddaearol yn Llechwedd uwchben Blaenau Ffestiniog; ac yn olaf Fforest, yr unig reid alpaidd drwy’r coed yn y DU.

Yn ne Cymru, Zip World Tower, sydd wedi’i leoli yn Rhondda Cynon Taf, yw pedwerydd safle Zip World, a’r diweddaraf.

Zip World Chwarel Penrhyn

Chwarel y Penrhyn oedd y fwyaf yn y byd ar un adeg, a bu llechi’n cael eu cloddio yno am dros ddwy ganrif. Bellach mae’n gartref i Zip World Chwarel y Penrhyn a chyflymder yw popeth yno. Velocity 2 yw gwifren wib gyflymaf yn y byd, a'r hiraf yn Ewrop, mae’n cynnwys pedair llinell gyfochrog sy'n ymestyn bron i filltir dros ddŵr glas dwfn hardd y llyn.

Mae eich calon yn curo’n gyflym wrth i lori'r fyddin goch droelli'n uchel i fyny i’r safle lansio, gan gludo ei gargo o ofodwyr pryderus, i'r man lansio yn uchel dros y chwarel. Mae’r golygfeydd ar draws Eryri i Ynys Môn yn wych, ond does dim amser i feddwl cyn i chi gael eich strapio’n ddiogel ar y wifren wib ac i ffwrdd a chi, yn torri drwy’r awyr. Byddwch chi’n gwibio 500 troedfedd uwchben y ddaear ar gyflymder o dros 100 mya. Byddwch chi'n cyrraedd y gwaelod ac mae'n siŵr y byddwch eisiau gwneud y cyfan eto.

Person ar fin gwibio ar weiren wib uwchben llyn.
Gwib-gartiwr yn gyrru i lawr chwarel gyda phobl yn pasio heibio ar wifrau gwib.

Velocity 2 a Cartiau Chwarel yn Zip World Chwarel y Penrhyn, Bethesda

Yn berffaith ar gyfer pobl sydd eisiau rhoi cynnig ar wifren wib heb ddwyster Velocity 2, mae'r Gwibiwr Chwarel yn antur fyrrach gyda dwy weiren wib i hedfan ar eu hyd. Y Certiau Chwarel yn yr un lleoliad yw trac cart mynydd cyntaf y DU, gyda cherbydau tair olwyn sy'n cael eu tanio gan ddisgyrchiant y byddwch chi'n eu llywio trwy rwystrau gosod, twneli ac amrywiaeth o rwystrau eraill hyd at 40 mya.

Ac i ymlacio wrth gael paned a chacen, mae Bwyty Blondin, lle gallwch weld anturiaethwyr eraill yn gwibio uwch eich pen wrth i chi wylio o'r teras. Mae’n cynnig amrywiaeth o fwyd a diod lleol, ac mae’r golygfeydd yn anhygoel. 

Anturiaethau Llechwedd Zip World

Mae llawer o bethau gwahanol i’w gwneud yn Anturiaethau Llechwedd Zip World i bob oed eu mwynhau. Wedi’i leoli o amgylch chwareli llechi Llechwedd, gallwch archwilio treftadaeth ddiwydiannol yr ardal ar Daith Chwarel Ddwfn, neu ddarganfod sut mae’r ceudyllau llechi wedi’u troi’n baradwys danddaearol i anturiaethwyr.

Wrth gwrs, mae 'na weiren wib neu ddwy hefyd. Am brofiad awyr llai anturus na Velocity, er ei fod yn dal yn hynod gyffrous, mae Titan 2, weiren wib pedwar person gyntaf Ewrop. Mae rhan o’r profiad yn cynnwys taith dywys o amgylch y ceudyllau llechi uwchben Blaenau Ffestiniog. Mae BIG RED yn weiren wib ferrach, 30m o hyd, sy'n ddelfrydol ar gyfer plant 5 oed a hŷn sydd eisiau rhoi cynnig ar weiren wib.

Os ydych chi wedi cael digon ar hedfan drwy'r awyr, mae'n amser mentro’n ddwfn o dan y ddaear. Mae Bounce Below yn eglwys gadeiriol danddaearol o oleuadau seicedelig a thrampolîns wedi'u cysylltu gan sleidiau ac ysgolion neilon. Hefyd, mae cwrs gwefreiddiol y Caverns o wifrau gwib sy’n frith o bontydd rhaffau, trawstiau cydbwyso, twneli a darnau cyffrous o via ferrata, sy'n gyfarwydd i ddringwyr.

 

Land Rover yn gyrru ar hyd ffordd lychlyd mewn chwarel lechi.
Tri pherson ar wifrau gwib cyfochrog.
Grŵp o bobl ar rwydi’r parc trampolîn tanddaearol Bounce Below yn Zip World Slate Caverns.

Zip World Llechwedd, Blaenau Ffestiniog

Zip World Fforest

Yn ôl uwchben y ddaear ac i mewn i’r goedwig mae Zip World Fforest, amrywiaeth o weithgareddau canopi ar gyfer pob oed, gan gynnwys yr unig reid alpaidd yn y DU sy’n gwibio rhwng y coed. Edrychwch ar y golygfeydd o Rwydi’r Coed, llwybr cerdded rhwydi ​​mwyaf Ewrop sydd 60 troedfedd i fyny yn y goedwig, neu heriwch eich hun i Zip Safari 2 – 21 weiren wib a rhwystrau sigledig amrywiol, gan gynnwys byrddau syrffio, sy’n hongian 60 troedfedd uwchben y ddaear. Mae ‘na lwybrau amgen o amgylch y rhannau mwyaf brawychus felly gallwch chi benderfynu pa mor ddewr i fod ar y diwrnod.

Gall anturwyr bach yn y teulu roi cynnig ar Tree Hoppers, cwrs rhwystrau cychwynnol gyda dau lwybr gwahanol yn dibynnu ar ba mor ddewr mae eich plentyn yn teimlo ar y diwrnod.

Os ydych chi’n teimlo’n ddewr iawn, ewch amdani a metro ar brofiad gollwng tandem cyntaf y byd, Plummet 2, o dŵr 100 troedfedd o uchder. Skyride 2 yw siglen enfawr uchaf Ewrop, ac yn olaf, mae taith gyffrous 1km Fforest Coaster drwy’r goedwig. Mae rhan gyntaf y profiad yn hyfryd ac yn hamddenol, yn gorwedd yn ôl yn gwylio'r awyr trwy ganopi'r goedwig wrth i chi gael eich tynnu i fyny i'r man cychwyn. Yna rydych chi'n gollwng y brêcs ar y brig - ac mae'n daith ddwys, syfrdanol yn ôl i lawr i'r gwaelod.

Ac mae digonedd o fwyd a diod lleol i’w fwynhau wrth i chi gael eich gwynt atoch cyn cychwyn ar yr antur fawr nesaf.

 

Golygfa o sêt cart Fforest Coaster – gyda’r trac a’r coed o’i flaen.
Dau berson ar weiren wib a’r gwifrau ymysg y coed pinwydd tal yn Zip World Fforest.

Zip World Fforest, Betws-y-Coed

Straeon cysylltiedig