Perffaith i blant bach a mawr!

Boulders yng Nghaerdydd yw un o'r canolfannau dan do gorau i chi ddechrau dysgu dringo, gyda waliau lliwgar i ddifyrru'r plant ac amrywiaeth o heriau i brofi'ch gallu ar gyrion canol y ddinas.

Dewch gyda'r teulu i roi cynnig ar sesiwn awr a hanner a gweld pwy sy'n dod i'r brig. Yng nghanolfan Rock UK ger Merthyr Tudful mae amrywiaeth enfawr o 180 llwybr dringo o dan do, a'r tu allan mae cerrig mawr ac amrywiaeth o weithgareddau i bobl fentrus eu mwynhau. Agorodd y ganolfan ym 1997, ac mae'n adnabyddus am y mur 18 metr sydd yma. Holwch un o'r hyfforddwyr a fydd yn gwybod am lu o bethau y gallwch eu gwneud mewn diwrnod yng nghanol ysblander Cymoedd y De.

Cadw'n ddiogel ar ymyl y dibyn

Ewch i ganolfan weithgareddau Adventures ym Mhorthcawl, lle byddant yn barod i'ch tywys am ddiwrnod egnïol yn sgrialu ar hyd ceunentydd. Gyda chyfle i gerdded dros ben rhaeadr mae'n hawdd gweld pam fod y tîm mor brysur yn croesawu'r holl ymwelwyr.

Mae rhywbeth i grwpiau o bob lliw a llun ei wneud gyda Hawk Adventures. Maent yn cynnig peth wmbreth o brofiadau yn yr awyr agored, a gallwch roi cynnig ar amrywiaeth o bethau fel dringo creigiau, abseilio, ceunenta a mynydda. 

Wrth gael cymaint o hwyl yn dringo ac abseilio, mae'n werth cymryd seibiant i fwynhau harddwch naturiol y De, yn enwedig ar glogwyni'r arfordir o amgylch Abertawe, Caerdydd a Phenrhyn Gŵyr. Mae'n ardal arbennig i fynd ar eich gwyliau, ac fe welwch chi'r cyfan wrth ddringo i'r entrychion.

Straeon cysylltiedig