Mae Pen y Fan yn un o deithiau cerdded mwyaf poblogaidd Cymru. Pan fydd y tywydd yn braf, mae'r golygfeydd yn odidog. Milltiroedd ar filltiroedd o fryniau tonnog, a chlogwyni serth o'u cwmpas. Ond, fel Yr Wyddfa, gall y llwybrau fynd yn brysur iawn. Felly, dros yr haf beth am roi cynnig ar y Mynyddoedd Duon cyfagos neu Fynyddoedd Cambria - yn enwedig os ydych chi'n hoffi cerdded heb lawer o bobl eraill o gwmpas. 

Os byddwch yn dewis cerdded Pen y Fan, cadwch at y llwybrau sydd wedi'u nodi a byddwch yn ofalus - mae rhai rhannau'n serth iawn. Hefyd, cofiwch barcio mewn mannau parcio dynodedig yn unig.

Felly 'pa mor anodd yw cerdded i fyny Pen y Fan? Wel, mae'n dibynnu'n llwyr pa lwybr rydych chi'n ei ddewis. Y newyddion da yw gall plant egnïol fwynhau'r llwybr cyntaf ar y rhestr yma - a bydd cerddwyr mwy profiadol wrth eu bodd â'r gweddill.

Cyn cychwyn, gwiriwch y sefyllfa ddiweddaraf o ran y llwybrau a'r tywydd ar wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu eu ffrwd Twitter @BreconBeaconsNP.

Y daith braf: cerdded o'r Storey Arms neu Bont ar Daf

Pellter: 4 milltir/6.5km

Amser: Tua 3-4 awr

Sialens: Hawdd

'Y Draffordd' yw hon yn ôl y selogion, ond maent hwythau'n gwirioni ar y llwybr serch hynny. Byddwch yn cerdded mewn cylch o Ganolfan Awyr Agored Storey Arms neu faes parcio Pont ar Daf gerllaw, ac fe fyddwch chi wrth eich bodd. Mae'r man cychwyn tua 440 metr uwchlaw lefel y môr, ac felly mater cymharol fach yw dringo i gopa 886 metr Pen y Fan. Does dim byd yn fach am y rhostir gwyllt, agored ar y ffordd. Mae'r golygfeydd yn mynd â'm gwynt wrth i mi frasgamu yn fy mlaen.

Pan fo'r tywydd yn braf mae hyd yn oed plant bach yn medru mynd ar hyd y llwybr hwn. “Fe fyddwn ni'n dod y ffordd yma sawl gwaith bob blwyddyn,” meddai Michael Rhys, tad i dri o blant o Gaerdydd, sydd wedi dod am dro gyda'i deulu. “Rydw i wedi bod yn dod yma ers pan oeddwn i'n fachgen bach. Mae'r ieuengaf gen i wedi cerdded y llwybr ar ei hyd ddwywaith yn barod, a dim ond chwech oed ydy hi. Gallech chi alw hyn yn fynydda i ddyn diog, ond does dim o'i le â chael y plant i fwynhau eu hunain yn yr awyr agored.”

 Golygfa o'r awyr o'r gwastadeddau gwyrdd islaw o ben Pen y Fan gydag awyr las.

Pen y Fan

Y daith fawr: Cylchdaith y Bannau

Pellter: 11 milltir/18.5km

Amser: Tua 7-8 awr

Sialens: Anodd

Copa Pen y Fan yw'r un uchaf yn y Bannau, ac mae'n lle arbennig iawn. Ar ben y mynydd fe welaf gerddwyr yn sefyll ar ben y garnedd i dynnu hun-luniau. Maent yn llawn haeddu dangos eu hunain – wedi'r cyfan, dyma'r man uchaf yn neheubarth Prydain, a'r canolbarth yn ymestyn fel cwrlid gwyrdd i bob cyfeiriad oddi tanom.

Heblaw am Ben y Fan, mae llawer o gopâu a chribau eraill yng nghanol y Bannau lle gallwch fynd i gerdded. Wrth ddilyn cylchdaith gyffrous am 11 milltir o'r Storey Arms, gallwch hefyd roi cynnig ar Gorn Du (873 metr) a'r Cribyn (795 metr). “Fentrwn i fyth beidio â mynd i ben Corn Du pan fyddaf yn dringo Pen y Fan,” meddai Darren James, cerddwr profiadol sy'n cael seibiant am lymaid o goffi ar gopa gwastad Corn Du. “Roedd pobl yn claddu'r meirw ar y ddau gopa yn yr Oes Efydd, does dim dwywaith fod rhywbeth hudolus amdanyn nhw.”

Tri cherddwr yn crwydro mynyddoedd gyda bagiau ar eu cefn. Mae'r awyr yn las ond gyda chymylau duon.
Dyn a dynes yn cerdded mynyddoedd gyda llawer o wyrddni o'u cwmpas ac awyr las.

Cerddwyr ar gylchdaith y Bannau

Y daith dawel: cerdded o Gwm Gwdi drwy Gwm Llwch

Pellter: 7.5 milltir/12km

Amser: Tua 5 awr

Sialens: Anodd

Fe gewch chi her wrth ddringo am 7.5 milltir ar hyd y llwybr hwn, sy'n dechrau i'r gogledd o Ben y Fan ym maes parcio Cwm Gwdi (310 metr) ac yna'n mynd ar hyd hen, hen ffordd i fyny at grib Cefn Cwm Llwch a Phen y Fan (886 metr), lle cewch chi olygfeydd rhyfeddol dros Nant Sere tua'r dwyrain a Llyn Cwm Llwch i'r gorllewin.

Yn ôl y sôn, os sefwch chi ar gopa Pen y Fan a throi'ch golygon tua'r gogledd-orllewin, gallwch weld yr holl ffordd i Eryri. Efallai y byddai gobaith gyda sbienddrych, ar ddiwrnod braf. Heddiw, dim ond rhyw haul gwan sy'n dod drwy'r cymylau a'r glaw mân, ond ta waeth – dwi'n cael gweld enfys ysblennydd yn codi dros y bryniau, fel rhuban lliwgar.

Y llwybr at gopa Pen y Fan

Y daith galed: cerdded y cwbl lot

Pellter: 10 milltir/16km

Amser: Tua 5-6 awr

Sialens: Anodd

Daw'r amser i mi gerdded ar hyd fy llwybr olaf, ac mae'n glamp o daith. Dyma gylchdaith heriol sy'n mynd am naw milltir o Goed Taf Fechan i fyny i Gorn Du (873 metr), Pen y Fan (886 metr), Cribyn (795 metr) a Fan y Big (719 metr), yr un gyda'r graig fel bwrdd plymio, cyn dod yn ôl drwy'r Neuadd.

Mae'n creu argraff fawr o'r cychwyn cyntaf, gyda golygfeydd godidog i fyny'r dyffryn i Ben y Fan. Dwi'n stryffaglu braidd i fyny'r rhiw serth i ben Craig Fan Ddu, ond mae'n werth cyrraedd y copa i weld ehangder y dyffrynnoedd rhewlifol mawreddog a'r barcutiaid coch yn hofran uwchben. Yn ymuno â fi ar y grib mae Marianne Bailey, cerddwr brwd sydd wedi dod â'i labrador sionc am dro. “Mae'n glamp o ffordd, hon sydd orau gennym ni,” meddai. “Mae'r awyr mor eang, ac yn edrych yn ddigon agos i'w gyffwrdd. Mae'n deimlad anhygoel.”

Llun agos o law yn dal ffon gerdded.
Llun agos o droed cerddwr ar lwybr cerdded.

Cerdded yn y Bannau Brycheiniog

Cadwch yn ddiogel

Cyn mynd allan i grwydro edrychwch ar y wybodaeth yma am gadw’n ddiogel yn y parciau Cenedlaethol a chofiwch...

  • Wirio'r rhagolygon tywydd bob amser - gall y tywydd newid yn sydyn ar y mynyddoedd. Ar ddiwrnodau poeth bydd angen eli haul a digon o ddŵr arnoch.
  • Paratowch eich dillad a'ch cit yn ofalus. Argymhellir esgidiau cerdded.
  • Cadwch gŵn ar dennyn a chadwch lygad ar blant bob amser - yn enwedig wrth y copa.
  • Mae gan Adventure Smart Cymru ddigon o gyngor ar sut i ‘wneud diwrnod da yn well’ - darllenwch eu cyngor cyn cynllunio’ch diwrnodau allan.
  • Mae Traveline Cymru yn ddefnyddiol i drefnu'ch taith ar drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Mae yna nifer o apiau a mapiau ar-lein lle gallwch chi i ddod o hyd i leoliad pwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru.
  • Defnyddio pwyntiau ail-lenwi gerllaw i lenwi'ch potel ddŵr. Dysgwch fwy, gan gynnwys sut i lawrlwytho'r ap Ail-lenwi rhad ac am ddim ar wefan Ail-lenwi Cymru.

Straeon cysylltiedig