Os ydych chi’n dod ar eich gwyliau i Sir Gâr, llongyfarchiadau! Gwyn eich byd chi. Fe fyddwn i’n dweud hynny wrth gwrs! Yma y cefais fy magu, ac erbyn hyn rwy’n dad, ac wrth fy modd yn mynd â’r plant i’r mannau y byddwn i’n eu mwynhau yn blentyn. Felly, petaech chi’n dod i aros, i’r mannau hyn y byddwn i’n mynd a chi.

Castell Carreg Cennen

Gastell Carreg Cennen yr awn ag ymwelwyr bob tro’n ddi-ffael, ac fe fyddan nhw’n rhyfeddu bob tro. A hynny oherwydd y llecyn ysblennydd ar ben clogwyn, a’r golygfeydd 60 milltir i bob cyfeiriad, mae’n siŵr. Codwyd y castell gwreiddiol gan yr Arglwydd Rhys, Tywysog y Deheubarth, tua diwedd y 12fed ganrif, ond mae'r rhan fwyaf o’r adfeilion sy’n weddill yn rhai Normanaidd. Yn dilyn camgymeriad gan dîm cyfreithiol, fe drosglwyddwyd y castell fel rhan o’r fferm i deulu ffermio lleol pan gafodd ei werthu gan yr Arglwydd Cawdor yn y 1960au. Mae fferm bridiau prin ac ystafell de ar droed y bryn, lle gallwch logi fflachlamp i archwilio’r twnnel cudd sy’n arwain i lawr at ffynnon dŵr croyw o dan y castell.

Exterior of Carreg Cennan Castle.
Castell Carreg Cennen

Parc Arfordirol y Mileniwm

Pan fydd awydd arnom i fynd am dro fel teulu ar feic yna rydym ni'n  mynd am dro ar hyd llwybr beic 12 milltir (19km) Parc Arfordirol y Mileniwm. Dilynwch y llwybr beicio ar hyd Cilfach Tywyn, gyda Chanolfan Wlyptir Llanelli ar y naill ben, a Pharc Gwledig Pen-bre ar y llall, lle ceir llwyth o weithgareddau antur, gan gynnwys golff mini a llethr sgïo sych, wrth ymyl traethau eang Cefn Sidan.

Gyda llaw, os yw beicio mynydd yn mynd â’ch bryd yna Brechfa yw’r lle i chi; os yw’n well gennych feicio ar y ffyrdd, a’ch Lycra amdanoch, rhowch gynnig ar lwybr Taith Tywi. Ac yn y dyfodol, cadwch lygad am Lwybr Dyffryn Tywi, sef 16 milltir (26km) o lwybr beicio di-draffig rhwng Caerfyrddin a Llandeilo. Bydd yn wych pan fydd yn barod; yn y cyfamser, gwyliwch y fideo gwych yma sy'n dangos yr hyn sydd i ddod.

RSPB Gwenffrwd-Dinas

Yn RSPB Gwenffrwd - Dinas mae llwybr cerdded delfrydol i’r teulu, sef dwy filltir (3km) odidog ar hyd glannau coediog yr afon, a’r dewis hefyd o ddringo i fyny i ogof Twm Siôn Cati - ei guddfan honedig. I mi, cydlifiad afonydd Tywi a Doethie islaw bryn uchel yw’r lle hyfrytaf ar y Ddaear.

Llyn y Fan Fach

Awydd cerdded yn bellach? Y Mynydd Du sy’n nodi ymyl gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, lle mae tarenni helaeth Bannau Sir Gâr yn disgyn tuag at Llyn y Fan Fach, cartref chwedl Morwyn Llyn y Fan. O dair prif gadwyn Bannau Brycheiniog, hon yw’r un sy’n denu’r lleiaf o ymwelwyr, ac mae hynny’n ei gwneud yn well byth. Ceir hefyd ffordd brydferth gerllaw i’w gyrru, sef ffordd fynydd, fuodd ar y rhaglen Top Gear, yr A4069 rhwng Llangadog a Brynaman, sy’n glasur o droeon a rhiwiau.

View of the lake and mountains
View of the lake looking down from the top of the mountain
Llyn y Fan Fach, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Rheilffordd Calon Cymru

Mae’r trenau bach cyfeillgar ar Reilffordd Calon Cymru yn rhuthro i fyny o Abertawe i’r Amwythig ar hyd y llwybr prydferthaf ym Mhrydain, gellir dadlau. Dyma le gwych i werthfawrogi’r ffordd y mae tirwedd Sir Gâr yn newid o’i dechreuadau morydol ger Llanelli, i fyny drwy hen feysydd glo Cwm Aman, i dir ffermio traddodiadol Dyffryn Tywi, cyn disgyn yn sydyn i dwnnel mynydd ger Dinas y Bwlch, ac ymlaen i Bowys.

Talacharn

Pan ddywedodd Dylan Thomas mai Talacharn oedd 'y dref ryfeddaf yng Nghymru’, roedd e’n ei olygu’n garedig. Roedd yn llygad ei le, cofiwch: mae’n lle arallfydol braidd, wedi’i osod yn berffaith ar y foryd, heb newid bron o gwbl ers hanner canrif, ac yn lle gwych i grwydro o amgylch y llwybrau perthnasol i Dylan, cyn cael peint yng ngwesty Browns (lle bu Dylan ei hun yn yfed cryn dipyn).

Laugharne Castle, Carmarthenshire
Castell Talacharn

Llandeilo

Dechreuodd y wasg yn Llundain ddefnyddio’r enw 'the cool capital of Carmarthenshire' wrth gyfeirio at Landeilo, ond roeddwn i’n barod yn gwybod bod hynny’n wir, a minnau'n dod o Landeilo (*cilwenu*). Ond yma mae tref orau’r sir ar gyfer crwydro o gwmpas y bwtîcs, yr orielau a’r siopau hen bethau. Mae’r bwyd yn dda yn y Ginhaus a’r Cawdor. Mae'r dref mewn man pert ar ben bryn. Dafliad carreg o’r dref ar droed mae Castell Dinefwr, sy’n hyfryd. Ewch yn ystod un o wyliau cynyddol y dref. Mwynhewch beint o Evan Evans, wedi’i fragu yn Llandeilo. Byddwch chithau hefyd wrth eich bodd, dwi'n addo.

Coaltown Coffee

Pan oeddwn yn yr ysgol, Rhydaman oedd ein gelyn lleol pennaf. Glowyr oedden nhw, a ninnau’n ffermwyr. Pan fydden ni'n cwrdd ar y cae rygbi, byddai byth yn bert. Roedd dirywiad y diwydiant glo yn ergyd galed i Rydaman, ond dwi'n edmygu ymgais Coaltown Coffee i ddod ag ychydig o chic Brooklyn i’w hoff dref – a’u caffi hefyd, Roastery Canteen, sy’n lle gwych am ginio.

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Hmm … alla i ddim penderfynu rhwng dwy ardd gyfagos. Yn gyntaf, mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, lle mae tŷ gwydr un bwa mwyaf y byd yn edrych fel petai llong ofod wedi glanio yng nghanol rhyw baradwys wledig (ond mewn ffordd dda). Ac mae Aberglasne, casgliad perffaith o erddi o’r 15fed ganrif wedi’u hadfer ar ochr arall y cwm. O, penderfynwch chi! Y naill ffordd neu’r llall, ewch am ginio yn Wright's, hen dafarn gerbydau a’i bwyd yn denu pobl o bob cwr i Lanarthne.

Castell Dryslwyn

Nid yw mor fawreddog â chestyll Carreg Cennen a Dinefwr, ond dwi'n hoff iawn o Gastell Dryslwyn. Os edrychwch i fyny arno o lawr y dyffryn, dydy e ddim yn creu llawer o argraff arnoch, ond pan ddringwch i frig y domen y mae’n eistedd arni, mae popeth yn newid. I fyny yno, mae cynllun pentref canoloesol cyfan, golygfeydd syfrdanol o Ddyffryn Tywi a ffoli prydferth Tŵr Paxton.

Exterior view of Great Glasshouse with daffodils in spring National Botanic Garden of Wales, Carmarthenshire
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Related stories