Cafwyd newyddion gwych ddechrau 2013 pan ddaeth Bae Rhosili'n drydydd o blith holl draethau Ewrop mewn arolwg o deithwyr (y tu ôl i Spiaggia dei Conigli ar ynys Sisili, a Playa de las Catedrales yn Galisia, Sbaen). Ond doedd hynny'n ddim syndod. Rhosili, lle mae'r traeth tywodlyd braf yn ymestyn am dair milltir, yw gogoniant Penrhyn Gŵyr. Fel llawer o draeth hyfryd arall yn y de, mae Rhosili wedi hen arfer ennill gwobrau dro ar ôl tro.

Mae rhai o'r enwau mawr yn hoff o Benrhyn Gŵyr hefyd. Pan fu Huw Edwards yn gwneud y gyfres hanes The Story of Wales i'r BBC, yma y daeth y tîm cynhyrchu i ffilmio'r golygfeydd agoriadol. Mae'r cyflwynydd rhaglenni byd natur Kate Humble wrth ei bodd â Phenrhyn Gŵyr, y llwybrau gwyllt a'r llefydd i wylio adar, ac yn nhref lan môr hyfryd y Mwmbwls mae'r actores Joanna Page yn byw, a gallwch ei gweld hi ar y traeth yn yr haf yn ymlacio, dal crancod a gwylio pobl yn syrffio.

Mae Penrhyn Gŵyr yn hawdd ei gyrraedd wrth deithio o gyfeiriad Llanelli, Abertawe a Phort Talbot, ac felly bydd miloedd o bobl yn dod yma'n gyson ar y penwythnos. Ond gan fod cymaint o le yma, dim ond pan fo'r haf yn ei anterth y gwelwch chi hi'n brysur ar y traethau gorau – Bae Rhosili, Porth Einion, Bae Langland a Bae Caswell.

Llun o Fae Rhosili o uwchben

Bae Rhosili

Prydferthwch natur

Ym 1956 fe ddynodwyd Penrhyn Gŵyr yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, yr un gyntaf ym Mhrydain. Daeth y clod yn bennaf oherwydd daeareg yr ardal a'r cynefinoedd toreithiog ar hyd yr arfordir. Fe welwch chi amrywiaeth anhygoel yma o fewn 70 milltir sgwâr, wrth grwydro ar hyd clogwyni, traethau a thwyni, corsydd a morfeydd heli, dyffrynnoedd gwyrddion a ffermdir. Yn y pen draw saif Pen Pyrod, trwyn o dir creigiog sy'n denu adar a morloi.

Mae cynlluniau ar waith o hyd i warchod rhinweddau unigryw'r penrhyn, heb amharu ar y bobl sy'n byw yma a'r ymwelwyr sy'n dod yn gyson. Yr ymgyrch fwyaf ar hyn o bryd yw atal llygredd golau, er mwyn gallu gwneud y gorau o'r nosweithiau serog, braf ym Mhenrhyn Gŵyr.

Rhoddir cryn sylw i gadw traethau Penrhyn Gŵyr yn lân hefyd. Enillodd traethau Bae Breichled, Bae Langland, Bae Caswell a Phorth Einion faner las bob un yn 2012, a rhoddodd Cadw Cymru'n Daclus Wobr Arfordir Glas i draethau Bae Rhosili a Limeslade.

Pobl yn marchogaeth ar y traeth
Llun o'r awyr o bobl yn marchogaeth ar y traeth

Marchogaeth ar draeth Llangynydd

Straeon cysylltiedig