Beach Bungalow, Bae Cinmel

Mae Beach Bungalow, bwthyn pum ystafell wely, yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn gyda’i ddrysau llydan, cyfleusterau ymolchi hygyrch a chanllaw cydio. Mae hefyd yn berffaith ar gyfer teuluoedd â phlant. Mae’r traeth 200m i ffwrdd ac mae modd cyrraedd cestyll, rheilffyrdd treftadaeth ac atyniadau antur yn ddigon rhwydd.

Bythynnod Fferm Bryn Dowsi, Conwy

Mae sawl adeilad ar y fferm organig hon, Fferm Bryn Dowsi, wedi cael eu troi’n fythynnod hunanarlwyo. Mae’r Bwthyn, oedd gynt yn ysgubor, bellach yn fwthyn cysurus dwy ystafell. Mae’r Beudy yn adeilad ecogyfeillgar gyda gwres geothermol ac mae yma dair ystafell wely. Mae cawodydd hygyrch i’w cael yn y ddau fwthyn.

Golygfa o'r bont yn edrych tuag at y castell
Llun o'r awyr o'r bont ger y castell
Llun o Gastell Conwy a'r môr

Castell Conwy

Bythynnod Gwyliau'r Garnedd, Ynys Môn

Mae croeso cynnes i ddefnyddwyr cadair olwyn yn y bythynnod hyfryd hyn sy’n hen adeiladau fferm. Mae Cae Ffynnon yn fwthyn dwy ystafell wely a Bodhyfryd yn fwthyn tair ystafell wely gyda phatio a gardd. Maent wedi eu lleoli llai na dwy filltir i’r gorllewin o’r orsaf drenau enwog ar Ynys Môn – gorsaf Llanfairpwllgwyngyll wrth gwrs.

Y Dome, Portmeirion

Er mwyn aros yng nghanol Portmeirion, archebwch le yn y Dome, ystafell ddwbl ar y llawr gwaelod ag ystafell ymolchi wedi ei haddasu a golygfeydd godidog o’r pentref a’r arfordir. Mae nifer o risiau a rhiwiau serth ym Mhortmeirion, ac felly os hoffech chi gadw’n glir oddi wrth y rheini gallwch gasglu map sy’n dangos llwybr drwy’r pentref sy’n addas ar gyfer cadair olwyn.

Llun o adeilad pinc a gwyn mewn arddull Eidalaidd

Portmeirion

Gwesty Tŷ Newydd, Aberdaron

Wedi ei leoli ar y traeth, mae Gwesty Tŷ Newydd yn berffaith ar gyfer dianc i lan y môr. Mae’n agos iawn at ganolfan ymwelwyr ecogyfeillgar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Porth y Swnt, sy’n canolbwyntio ar hanes lleol, barddoniaeth a byd natur. Mae yno ddwy ystafell wedi eu haddasu sydd â golygfeydd rhannol o’r môr.

Gwesty'r Imperial, Llandudno

Mae ceinder hyfryd i westy Fictoraidd yr Imperial sydd â golygfeydd godidog o’r môr. Mae’r staff i gyd wedi eu hyfforddi er mwyn bod yn ymwybodol o anghenion ymwelwyr anabl ac mae ystafelloedd hygyrch ar gael. Hefyd, mae yma bwll nofio wedi ei drin, bath sba a pharlwr harddwch sy’n cynnig triniaethau moethus i ddynion a merched.

Dwy fenyw yn defnyddio cadair olwyn a sgwter symudedd ar y prom
Pier hir yn ymestyn allan i'r môr

Llandudno

Manaros, Aberdaron

Gallwch logi Manaros,  bwthyn pedair ystafell wely, sy’n agos at ben pellaf Pen Llŷn, er mwyn bod yn y lle perffaith i grwydro Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn. Gall gwesteion sy’n cael trafferth cerdded fenthyg bygi am ddim sy’n addas ar gyfer pob math o dirwedd. Defnyddiwch y bygi i fynd â chi i’r pentref, i ddilyn trywydd y llwybrau, ac i ymweld â’r traeth – mae toiled wedi ei addasu yno.

Estuary Lodge, Talsarnau

Mae pob ystafell yn Estuary Lodge ar y llawr gwaelod, a phob un wedi ei haddurno’n unigryw â deunyddiau moethus. Mae un ystafell wedi cael ei haddasu ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Mae’r gwesty hwn, rhwng Harlech a Phorthmadog, yn lle delfrydol i ymweld â Phortmeirion a Gwarchodfa Natur Ynys Hir.

Presthaven Sands, Gronant

Mae parc gwyliau Presthaven Sands mewn lleoliad arfordirol gwych gyda golygfeydd dros y twyni a’r traeth tuag at Fôr Iwerddon. Cwmni Haven sy’n berchen ar y parc ac mae eu tîm o Gynorthwywyr Anghenion Arbennig wedi eu hyfforddi i roi cyngor i chi ynghylch pa garafán wedi ei haddasu fyddai’n gweddu orau i chi a’ch anghenion. Mae croeso yma hefyd i gŵn tywys cofrestredig.

Parc Carafanau Garreg Goch, Morfa Bychan

Mae Garreg Goch yn agos at draeth hyfryd baner las Morfa Bychan. Mae un o’r carafanau statig yn y parc poblogaidd hwn yn gwbl hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, mae wedi ei osod mewn man canolog ac mae ramp yno er mwyn mynd i mewn ac allan. Mae yn y parc hefyd doiled ac ystafell gawod ar gyfer ymwelwyr anabl.

Gwesty'r Ramada Plaza, Wrecsam

Mae’r Ramada Plaza yn addas ar gyfer ymwelwyr busnes a hamdden fel ei gilydd, ac mae yno nifer o gyfleusterau gan gynnwys canolfan fusnes, ystafelloedd cynadledda, a sawna a sba gyda theclyn codi. Mae’r ystafelloedd gwely i gyd ar y lloriau uchaf sydd i’w cyrraedd drwy ddefnyddio’r lifft ac mae pedair ystafell wely hygyrch gydag ystafell wlyb en-suite.

Cerflun celf stryd
Cerflun o löwr yn y dref

Wrecsam

The Slate Shed, Graig Wen

Mae The Slate Shed yn hen felin hollti llechi Fictoraidd a drowyd yn westy gwely a brecwast unigryw, sy’n llawn cymeriad a steil cyfoes. Ar y llawr gwaelod mae yna ystafell ddwbl hygyrch gydag ystafell wlyb en-suite. Mae’n lleoliad delfrydol er mwyn crwydro Llwybr Mawddach, sy’n addas ar gyfer pob gallu.

Gwesty Ty’n y Cornel, Tal-y-Llyn

Mae gwesty Ty’n y Cornel wedi ei osod ar lan Llyn Mwyngil ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Gall ymwelwyr anabl fwynhau’r golygfeydd o Gader Idris wrth bysgota am frithyll brown o gwch wedi ei addasu ar gyfer cadair olwyn. Mae gan y gwesty ystafell hygyrch benodol y mae modd ei chyrraedd drwy ddilyn llwybr gwastad.

Straeon cysylltiedig