Beth yw'r Eglwys Norwyaidd?

Eglwys Norwyaidd Caerdydd yw’r eglwys hynaf sy’n goroesi ym Mhrydain a sylfaenwyd gan genhadaeth Llongwyr Norwy. Erbyn hyn, mae’n gartref i ganolfan gelfyddydau, lle cyhoeddus, caffi sy’n gwerthu byrbrydau Norwyaidd a theras gyda golygfeydd ar draws y bae.

View of the Norwegian Church exterior
Yr Eglwys Norwyaidd

Pam fod yna Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd?

Tua diwedd y 19eg ganrif, ymwelodd miloedd o longwyr o Norwy â Chaerdydd ar fwrdd llongau masnach. Daeth y llongau hyn â phren Sgandinafaidd syth, cryf i Gymru fel y gellid ei ddefnyddio i wneud pyst pwll yn y pyllau glo. Ar ôl gollwng eu llwyth, byddent yn casglu glo Cymreig ac yn ei allforio o gwmpas y byd i gyd.

Adeiladwyd eglwysi fel yr eglwys hon, sy’n dyddio’n ôl i 1876, i roi gofal crefyddol a chymdeithasol i’r llongwyr o Norwy a fyddai’n bell oddi cartref am wythnosau maith. Byddai rhai ohonynt mor brysur wrth eu gwaith, nad aethent adref byth.

Close up image of the roof and steeple of the Norwegian Church
To yr Eglwys Norwyaidd

Beth sydd a wnelo Roald Dahl â'r eglwys?

Cwestiwn da! Un o aelodau enwocaf cynulleidfa’r eglwys oedd yr hoff awdur hwn i blant, Roald Dahl. Fe’i ganwyd i rieni Norwyaidd a oedd yn byw ar Fairwater Road yn Llandaf, Caerdydd.

Ar ôl dod i Gymru o Oslo, cyd-sylfaenodd ei dad, Harald, gwmni brocer llongau yng Nghaerdydd tua 1880. Treuliodd Roald ei blentyndod a’i ddyddiau ysgol yng Nghaerdydd. Addolai ei deulu yn yr Eglwys Norwyaidd pan oedd yn ei lleoliad gwreiddiol yn Nociau Caerdydd. A dweud y gwir, bedyddiwyd ef a’i chwiorydd oll yno.

Pan aeth yr eglwys â’i phen iddi yn y 1970au, roedd Roald ar flaen y gad mewn ymgyrch i godi arian i’w hachub. Codwyd arian yn lleol ac yn Norwy, a’r nod yn y pen draw oedd datgymalu ac atgyweirio’r eglwys fel y gellid ei symud i safle newydd ym 1992, lle saif heddiw.

Yn anffodus, ni fu Roald fyw i weld cwblhau’r prosiect – bu farw nifer o flynyddoedd yn gynharach. Mae’r eglwys mewn cyflwr gwych o hyd ac yn cael gofal da. Cafodd ei hadnewyddu’n helaeth yn 2011 a’i hailagor ar 17 Mai, sef Diwrnod Cyfansoddiad Norwy.

Mewn oriel i fyny’r grisiau yn yr eglwys, cynhelir arddangosfeydd dros dro o ffotograffiaeth a gwaith celf gan artistiaid lleol. Wrth reswm, ei henw yw Oriel Dahl. Os byddwch chi’n ymweld, cadwch lygad am y ddysgl fedydd arian a oedd yn eiddo i’r teulu, ac sy’n cael ei dangos yma bellach.

Straeon cysylltiedig